Agenda item

MENTRAU'R ADAIN SAFONAU MASNACHU I DDIOGELU DINASYDDION OEDRANNUS AC AGORED I NIWED

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a chyflwyniad a oedd yn rhoi diweddariad ar gynnydd a datblygiad menter a oedd wedi’i bwriadu i gynnal a gwella ansawdd bywyd dinasyddion gartref a gwella gwydnwch cymunedau trwy leihau achosion o gamfanteisio ariannol ar oedolion agored i niwed.

 

Cafodd y Cynllun Diogelu rhag Camfanteisio Ariannol ei greu fel cynllun amlasiantaeth a’i ddatblygu gan Adain Safonau Masnach Sir Gaerfyrddin. Fe ymrwymodd sefydliadau/adrannau i’r cynllun cyfranogiad gwirfoddol dwyochrog hwn i gydweithio i ddatblygu polisïau a gweithdrefnau diogelu ac atgyfeirio dioddefwyr camfanteisio ariannol. Nodwyd fod y cynllun yn cael ei gyllido ag arian a oedd wedi cael ei atafaelu oddi ar droseddwyr a’i fod wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol am y gwaith a wnaed. Mae’r cynllun yn tanategu ac yn dwyn ynghyd bortffolio presennol Adain Safonau Masnach Sir Gaerfyrddin o fesurau diogelu ymarferol, a amlinellwyd i’r Pwyllgor. Hefyd, darparwyd astudiaethau achos a oedd yn amlygu gwaith y cynllun. 

 

Gofynnwyd a fu llwyddiant o ran dod o hyd i’r bobl sy’n gyfrifol am redeg sgamiau ac a oeddent wedi cael eu herlyn. Eglurodd y Swyddog Arweiniol Safonau Masnach ei bod yn aml yn anodd dod o hyd i’r bobl sy’n gyfrifol, ond bod achosion yn cael eu llunio er mwyn eu herlyn lle bynnag yr oedd yn bosibl.

 

Nododd y Pwyllgor mai Barclays a Halifax oedd yr unig fanciau a oedd wedi ymrwymo’n swyddogol i’r Fenter Dyled ac Iechyd Meddwl a gofynnwyd pam nad oedd banciau eraill wedi gwneud. Rhoddodd y Swyddog wybod i’r Pwyllgor bod gan ganghennau lleol o fanciau eraill ddiddordeb a’u bod yn rhoi gwybodaeth iddynt yn anffurfiol am bryderon, ond bod yn rhaid i’r cytundeb swyddogol gael ei lofnodi gan bencadlysoedd a bod y rhain i’w gweld yn gyndyn.

 

Mynegwyd pryderon ynghylch y cynnydd mewn gwerthu ar drothwy’r drws a’r ffaith bod pobl h?n yn arbennig o agored i niwed oherwydd hyn. Gofynnwyd sut y gallai tasgmyn a garddwyr gofrestru i fod ar y rhestr gofrestredig a sut y gallai preswylwyr gael copi o’r rhestr. Cafodd y prosesau cofrestru eu hamlinellu, ac roeddent yn cynnwys gorfod cytuno i weithredu’n deg a chael gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Roedd y Swyddog yn cydnabod bod angen hyrwyddo’r cynllun yn fwy ac eglurwyd y gallai pobl lawrlwytho’r rhestr o wefan y Cyngor neu ffonio’r ganolfan gyswllt er mwyn i gopi gael ei anfon atynt. Byddai gan y bobl gofrestredig gerdyn hefyd i dystio eu bod yn rhan o’r cynllun. Cadarnhawyd fod y Gwasanaeth yn rhan o gynllun tebyg a oedd yn cael ei gynnal gan y gwasanaeth Gofal a Thrwsio. Roedd y Pwyllgor yn cytuno y dylid gwneud gwaith pellach i roi cyhoeddusrwydd i’r Cynllun Tasgmyn a Garddwyr Cofrestredig a’i hyrwyddo yn ystod 2017. Roedd enghreifftiau o’r modd y gellid hyrwyddo’r cynllun yn cynnwys hysbysebu mewn papurau newydd lleol a chyda grwpiau 50 a throsodd.

 

Fe wnaeth Pennaeth Y Gwasanaethau Integredig amlygu’r fenter Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif a oedd yn bodoli. Roedd y fenter yn canolbwyntio ar bobl h?n a chamau gan wasanaethau a oedd mewn cysylltiad â hwy i adnabod risgiau posibl, gan gynnwys eu hatal rhag dod yn ddioddefwyr sgamiau.

 

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd gwybodaeth am y mentrau’n cael ei harddangos mewn meddygfeydd teulu ac eglurwyd fod yr Adain Safonau Masnach yn profi rhai anawsterau o ran cysylltu â meddygfeydd. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig y byddai’n gallu cynorthwyo’r Gwasanaeth gyda hyn ac awgrymodd y gallai fferyllfeydd lleol fod yn rhan o ddosbarthu gwybodaeth hefyd.

 

Cafodd y perfformiad cyfredol ei nodi a gofynnwyd faint o gleientiaid oedd wedi cael eu helpu. Dywedwyd ei bod yn anodd rhoi ffigwr manwl gywir ond bod rhwng 50 a 60 o bobl wedi cael eu helpu dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

 

Diolchodd y Pwyllgor i’r Gwasanaeth am y gwaith yr oedd wedi’i wneud gyda’r cynllun pwysig iawn yma. Nodwyd fod rhai swyddogion profiadol iawn yn gweithio yn y maes hwnnw, a oedd o fudd i’r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD

 

6.1       derbyn yr adroddiad yn unfrydol;

 

6.2       gwneud gwaith pellach i roi cyhoeddusrwydd i’r Cynllun Tasgmyn a Garddwyr Cofrestredig a’i hyrwyddo yn ystod 2017.

 

 

Dogfennau ategol: