Agenda item

CYNLLUN BUSNES ERW 2016/19

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad mewn perthynas â gwaith Consortiwm ERW (Ein Rhanbarth ar Waith) yn ystod 2015/16 a’i gynllun busnes ar gyfer 2016-19. Roedd y cyflwyniad yn nodi swyddogaethau ERW, parhad y cyfrifoldebau statudol o fewn pob awdurdod lleol yn ogystal â’r trefniadau cydweithio ar draws y rhanbarth. Fe wnaeth y Pwyllgor nodi’r cynnydd a oedd wedi cael ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a chafodd ddiweddariad hefyd ar ganlyniadau’r arolygiad diweddar gan ESTYN o ansawdd y gwasanaethau gwella ysgolion a oedd yn cael eu darparu gan gonsortiwm ERW, ym mis Mehefin 2016. Roedd ESTYN wedi barnu bod pedair allan o bum agwedd ar waith ERW yn ‘Dda’ ac wedi barnu bod un yn ‘Ddigonol’.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad a’r cyflwyniad:

 

Gofynnwyd am eglurhad o’r trefniadau ar gyfer y swyddogion hynny o’r awdurdod lleol a oedd wedi cael eu secondio i ERW. Rhoddodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion wybod i’r Pwyllgor bod swyddogion a gaiff eu secondio’n cael eu cyllido gan ERW trwy ad-daliad i’r awdurdod lleol lletyol a oedd yn ei dro’n ei gwneud yn bosibl comisiynu swyddogion eraill. Roedd cyllideb tîm canolog ERW yn talu am ddau aelod o staff proffesiynol llawn-amser, gan gynnwys y Rheolwr Gyfarwyddwr, yn ogystal ag am bedwar swyddog gweinyddol. Hefyd, roedd ERW yn comisiynu ac yn cyllido nifer fach o swyddi penodol â chyllid grant gan Lywodraeth Cymru yn flynyddol.    

 

Cyfeiriwyd at adroddiad diweddar yn y cyfryngau a oedd yn awgrymu na fyddai ESTYN yn arolygu awdurdodau lleol yn y dyfodol. Datganodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion y gall fod rhywfaint o gamddealltwriaeth wedi bod ac y byddai ESTYN yn cynnal ymweliadau dilynol mewn perthynas â’r arolygiad diweddar o’r pedwar consortiwm gwella ysgolion yng Nghymru yn ystod yr flwyddyn academaidd bresennol. Roedd ESTYN wrthi hefyd yn datblygu cynlluniau ar gyfer model arolygu diwygiedig ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion.

 

Awgrymwyd fod y broses categoreiddio ysgolion yn cael ei chamddeall gan rieni ledled rhanbarth ERW, wedi i hynny gael ei drafod yn y Gr?p Cynghorwyr Craffu ERW ym mis Medi. Awgrymwyd hefyd fod angen i’r system gael ei chyfleu’n effeithiol i rieni. Dywedodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion ei fod yn cydnabod pryderon cynghorwyr ac atgoffodd y Pwyllgor fod a wnelo’r broses gategoreiddio â lefel y cymorth yr oedd ysgol unigol yn ei gael gan ERW. Roedd nifer o ffactorau gwahanol a oedd yn dylanwadu ar y math o gymorth y gallai fod ar ysgol ei angen. Sicrhaodd y Pwyllgor fod ERW yn gwneud popeth ac unrhyw beth posibl i gynorthwyo ysgolion gydag anawsterau penodol (e.e. dim pennaeth parhaol) ac atgoffodd yr Aelodau nad oedd unrhyw ysgolion yn Sir Gaerfyrddin yn y categori cymorth coch ar gyfer 2015/16.

 

Gofynnwyd a oedd dull arall o gategoreiddio ysgolion, yn enwedig yr ysgolion llai hynny lle gallai un plentyn ag anghenion addysgol arbennig effeithio’n sylweddol ar berfformiad / canlyniadau’r ysgol ar y cyfan. Dywedodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion ei fod yn cydnabod y sylwadau ac ychwanegodd ei fod yn cydymdeimlo ag ysgolion yn y sefyllfa hon yn seiliedig ar ei brofiad ef ei hun fel pennaeth ysgol. Dywedodd wrth y Pwyllgor fod modd mynd y tu hwnt i’r system wrth ymdrin ag ysgolion bach yn y sefyllfa hon (e.e. yr ysgolion hynny ag unedau arbennig). Roedd gallu dangos bod ysgol yn perfformio’n well mewn gwirionedd nag yr oedd ei barn ar gyfer Safonau’n ei awgrymu o bosibl yn un o’r trafodaethau pwysicaf yr oedd ymgynghorwyr her yn eu cael gydag ysgolion yn ystod y broses gategoreiddio.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a oedd yn gofyn pam nad oedd mwy o ddata ynghylch cynnydd disgyblion ar gael rhwng y gwahanol gyfnodau allweddol, dywedodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion ei fod yn cydnabod nad oedd digon o’r math yma o ddata ar gael ar hyn o bryd. 

 

Mewn ymateb i sylwadau pellach ynghylch y broses bresennol ar gyfer categoreiddio ysgolion, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant ei fod yn cydnabod bod y rhain yn faterion sylfaenol a bod swyddogion wedi bod yn lobïo Llywodraeth Cymru am amser hir iawn ond nad oedd newidiadau wedi cael eu gwneud hyd yma. Dywedodd fod y system o ddefnyddio asesiadau athrawon fel rhan o’r broses o gategoreiddio ysgolion yn sylfaenol ddiffygiol a bod hyn yn rhoi golwg gamystumiedig ar berfformiad i rieni. Fodd bynnag, roedd swyddogion yn gobeithio y byddai system fonitro newydd yn cael ei chyflwyno yn sgil diwygiadau Donaldson.  

 

Gofynnwyd sut yr oedd achosion patrymol o arfer da a ganfyddir yn ysgolion Sir Gaerfyrddin yn cael eu rhannu a’u hyrwyddo. Rhoddodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion wybod i’r Pwyllgor fod enghreifftiau o arfer da yn cael eu defnyddio a’u rhannu’n llawn gydag ysgolion ledled y rhanbarth. Un enghraifft oedd digwyddiad ‘Dathlu Gwaith Ysgolion’ ERW a oedd yn galluogi ysgolion i rannu gwybodaeth gydag ysgolion eraill, yn hytrach na thrwy swyddogion ERW.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: