Agenda item

DR ANTHONY LAXTON AT Y CYNGHORYDD ANN DAVIES - AELOD CABINET DROS FATERION GWLEDIG, CYDLYNIANT CYMUNEDOL A PHOLISI CYNLLUNIO

Yng ngoleuni datgan argyfwng hinsawdd yn 2019 a Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, a fyddai’r Cyngor yn ystyried adolygu ei ystyriaeth tuag at roi caniatâd cynllunio ar gyfer paneli solar a mentrau arbed ynni eraill mewn ardaloedd cadwraeth. Mae’n ymddangos y gall fod gwrthdaro hyd yn oed wrth osod y rhain ar adeiladau eithaf cyffredin ei golwg gyda thoeau llechi Cymreig os yw’r adeilad wedi ei adeiladu cyn 1919. Yn yr achos hwn, dylai cadwraeth fabwysiadu diffiniad ehangach – nid yn unig canolbwyntio ar gadwraeth hanesyddol adeiladau ond ar gadwraeth hirdymor ein cymunedau a'n hamgylchedd drwy ganiatáu mwy o ryddid i osod mesurau i arbed a chreu ynni gwyrdd yn lleol.

 

Cofnodion:

 

[Sylwer:

·       Ymatebodd y Cynghorydd Linda Evans, Aelod Cabinet dros Gartrefi ar ran y Cynghorydd Ann Davies, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio gan fod yn rhaid iddi adael y cyfarfod cyn yr eitem hon;

·       Roedd y Cynghorydd N. Lewis wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod.

 

'Yng ngoleuni datgan argyfwng hinsawdd yn 2019 a Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, a fyddai’r Cyngor yn ystyried adolygu ei ystyriaeth tuag at roi caniatâd cynllunio ar gyfer paneli solar a mentrau arbed ynni eraill mewn ardaloedd cadwraeth? Mae’n ymddangos y gall fod gwrthdaro hyd yn oed wrth osod y rhain ar adeiladau eithaf cyffredin ei golwg gyda thoeau llechi Cymreig os yw’r adeilad wedi ei adeiladu cyn 1919. Yn yr achos hwn, dylai cadwraeth fabwysiadu diffiniad ehangach – nid yn unig canolbwyntio ar gadwraeth hanesyddol adeiladau ond ar gadwraeth hirdymor ein cymunedau a'n hamgylchedd drwy ganiatáu mwy o ryddid.'

 

Ymateb gan y Cynghorydd Linda Evans, yr Aelod Cabinet dros Gartrefi:-

 

Diolch ichi am y cwestiwn. Ymddiheuriadau nad yw'r Cynghorydd Ann Davies yma, mae mewn cyfarfod arall. Cyngor Sir Caerfyrddin oedd yr Awdurdod cyntaf yng Nghymru i ddatgan argyfwng newid hinsawdd a chyhoeddodd ei gynllun sero net. Mae'n cymryd ei gyfrifoldebau yn hyn o beth o ddifrif. Mae ganddo ymrwymiad parhaus i newid tuag at economi carbon isel er mwyn diogelu dyfodol cymunedau a chenedlaethau'r dyfodol. Dyma'r unig Awdurdod Lleol yng Nghymru sydd â chanolfan hyfforddiant a gwybodaeth sy'n ymroddedig i gynaliadwyedd adeiladau a godwyd cyn 1919 a sicrhau eu bod yn diwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol. Mae darparu cyrsiau hyfforddiant rheolaidd mewn atgyweirio, cynnal a chadw ac effeithlonrwydd ynni ym mhob adeilad yn rhan greiddiol o'r rhaglen hon.

 

Ar draws Cymru mae gennym oddeutu 500,000 o adeiladau a godwyd cyn 1919 sy'n cyfateb i draean o'n stoc dai. O'r rhain, mae 189,000 ar 13% yn yr ardal gadwraeth ac mae 30,000 o strwythurau rhestredig, gan gynnwys cartrefi, eglwysi, pontydd a cherrig milltir. Mae ymchwil wedi dangos bod diogelu adeiladau hanesyddol a'r amgylchedd yn darparu budd economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol i le ac yn aml yn denu busnes ac ymwelwyr i'r ardal. Mae'r Awdurdod Lleol yn cydnabod bod ardaloedd cadwraeth ac adeiladau rhestredig yn chwarae rhan bwysig yn iechyd a chynaliadwyedd ein cymunedau ac felly mae asesiad o unrhyw ddatblygiad megis gosod paneli solar bob amser yn cael ei ystyried fesul achos yn unol â'r datblygiad a chynigion y datblygiad. Mewn llawer o achosion, nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer gosod paneli solar ar doeau, er enghraifft ar breswylfeydd y tu mewn neu'r tu allan i'r ardal gadwraeth, cyn belled â bod amodau penodol yn cael eu bodloni. Pan fo angen caniatâd cynllunio, gosodir asesiadau cynllunio o fewn fframwaith deddfwriaeth genedlaethol, megis, Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995, Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a Pholisi Cynllunio Cymru a gwneir dyfarniad ar ystod eang o faterion yn y broses asesu, gan gynnwys cynaliadwyedd hirdymor ein cymunedau a'u gallu i ddiwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol.

 

Ym mhob achos, byddwn yn argymell bod unrhyw ymgeisydd sy'n gwneud cais yn siarad â'r swyddogion cynllunio ac yn cysylltu â Chanolfan Tywi am gyngor. Mae'r ganolfan hon yn adnodd ardderchog yn ein Sir. Gobeithiaf fod hynny'n ateb eich cwestiwn, os oes gennych ail gwestiwn ac mae hawl gennych ofyn ail gwestiwn, rwy'n si?r y byddai'r swyddog, Rhodri, yn ymateb ar ran y Cynghorydd Ann Davies.

 

Cwestiwn atodol gan Mr David Jenkins:

 

Yn ffodus, rwy'n ymwybodol o'r hyn y mae'r Cyngor wedi'i wneud ac yn ei wneud er mwyn hyrwyddo inswleiddio ac yn benodol byddai camau eraill yn helpu tuag at newid yn yr hinsawdd. Rhoddodd y datganiad o argyfwng hinsawdd a Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gyfle i ni i gyd ailosod y ffordd rydym yn mynd ati i gynllunio ac mae cyfle yma i sicrhau'r budd mwyaf i'r hinsawdd a'r amgylchedd ar adeg argyfwng costau ac argyfwng cyllidebol yr ydym i gyd yn eu hwynebu. Felly, rwy'n dawel fy meddwl o glywed eich bod chi'n gwneud yr hyn y gallwch. Mae hyn yn cynnwys adeiladau nad ydynt yn cael eu gwarchod hefyd, mae angen i ni weld mwy o baneli solar ar ddatblygiadau newydd ac ar adeiladau nad ydynt yn cael eu gwarchod, mae angen i ni weld gwell insiwleiddio hefyd ar yr adeiladau hyn. Mae'n drist gweld rhai yn dal i fynd i fyny. Diolch yn fawr.

 

Ymateb gan y Cynghorydd Linda Evans, yr Aelod Cabinet dros Gartrefi:-

 

Mewn ymateb i'ch pwynt am baneli solar ar gyfer tai newydd, fel Cyngor, rydym wedi bod yn buddsoddi mewn tai Cyngor newydd ac felly bydd yr holl dai cymdeithasol newydd yn Sir Gaerfyrddin heddiw yn cael eu hadeiladu gyda phaneli solar. Yn amlwg, os yw'n bosibl gwneud hynny, ac rydym hefyd yn gwneud rhaglen ôl-osod ar gyfer gwneud gwaith ar ein cartrefi presennol hefyd, yn ein tai Cyngor. Hoffwn eich sicrhau bod y Cyngor yn gwneud yr hyn a allwn gyda'n cartrefi a'n hadeiladau ein hunain fel yr un hwn (Neuadd y Sir).