Agenda item

STRATEGAETH CYLLIDEB REFENIW 2024/25 i 2026/27

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf ynghylch Cyllideb Refeniw 2024/25 a'r ffigurau mynegiannol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2025/26 a 2026/27.  Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddilysu'r gyllideb, y gwasgfeydd o ran gwariant, setliad terfynol Llywodraeth Cymru, a'r ymatebion o'r ymgynghoriad ynghylch y gyllideb.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau byddai mabwysiadu'r cynigion yn yr adroddiad yn galluogi'r Cabinet i gyflwyno cyllideb deg a chytbwys i'r Cyngor Sir, a oedd yn ymateb i'r sylwadau oedd wedi deillio o'r broses ymgynghori. Fodd bynnag, roedd yn teimlo bod dyletswydd arno i dynnu sylw at risgiau'r strategaeth, yn ogystal â'r ansicrwydd yn y dyfodol ynghylch codiadau cyflog a chwyddiant, y mae'n rhaid i ni ei dderbyn fel rhan arferol o'n proses pennu'r gyllideb. Nodai'r adroddiad nifer o risgiau o ganlyniad i ansicrwydd ynghylch ariannu pensiynau athrawon a diffoddwyr tân, y risg o ran cyflawni ein buddsoddiad yn y Gwasanaethau Plant, a'r risg oedd ynghlwm wrth ostyngiadau yn y gyllideb ar draws pob rhan o wasanaethau'r Cyngor.

Cadarnhaodd y gallwn o hyd, os yw'r holl gynigion a amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu gweithredu, ddarparu Strategaeth Gyllideb sy'n:-

·        ymateb i'r ymgynghoriad;

·        sicrhau hyd y gellid fod lefelau a safonau'r gwasanaethau'n cael eu cynnal;

·        cydnabod bod pobl Sir Gaerfyrddin yn ei chael hi'n anodd yn yr hinsawdd bresennol ac sydd felly'n sicrhau bod gwasanaethau craidd yn cael eu diogelu; ac

·        yn paratoi'r Awdurdod hwn, i'r graddau mwyaf posibl, ar gyfer unrhyw ansicrwydd a allai ddigwydd yn y dyfodol.

 

Cyfeiriwyd at ddifrifoldeb y sefyllfa y mae'r Awdurdod yn ei hwynebu ac at y ffaith ein bod yn gwneud ein gorau glas dros drigolion Sir Gaerfyrddin yn ystod cyfnod heriol iawn.  Mae'r Adran Addysg yn wynebu'r ergyd fwyaf yn ei hanes gan ei bod yn arfer cael ei diogelu yn y gorffennol. Fodd bynnag, nid ydym yn gallu gwneud hynny bellach ac mae'n wynebu toriadau fel pob adran arall. Mynegwyd siom eto nad yw cyflogau athrawon wedi eu hariannu'n llawn am y ddwy flynedd nesaf, sydd wedi cael effaith fawr ar y gyllideb. 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau am eu gwaith ar y gyllideb dros y misoedd diwethaf.  Mynegodd ei bryder fod hwn yn gyfnod heriol iawn, pan oedd Awdurdodau Lleol yn y sefyllfa amhosibl o geisio darparu gwasanaethau rheng flaen tra'n parhau i wynebu toriadau gan y llywodraeth ganolog.  Teimlai fod pwynt yn dod pan oedd yn rhaid gofyn rhai cwestiynau sylfaenol am ddyfodol gwasanaethau cyhoeddus yn y wlad hon. Ychwanegodd fod dyletswydd arnom ni i gyd dros y misoedd nesaf i wneud achos dros bwysigrwydd gwasanaethau cyhoeddus a llywodraeth leol yn gyffredinol, a thros yr angen am ragor o fuddsoddiad gan nad yw'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd yn gynaliadwy. Pwysleisiodd ein bod, wrth bennu'r gyllideb, wedi ceisio diogelu gwasanaethau rheng flaen gan gadw unrhyw gynnydd yn y Dreth Gyngor i isafswm ar yr un pryd,  ac er bod 7.5% yn uwch na'r hyn a ddymunir, roedd yn llawer gwell na rhai Awdurdodau Lleol eraill, sy'n wynebu codiadau oedd mewn ffigurau dwbwl yn y dreth gyngor, tra bo rhai'n wynebu methdalwriaeth.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR 

 

6.1   cymeradwyo'r Strategaeth Gyllideb ar gyfer 2024/25, sy'n cynnwys y newidiadau ym mharagraff 25;

6.2   cymeradwyo Treth Gyngor Band D o £1,602.80 am 2024/25 (cynnydd o 7.5%);

6.3   cymeradwyo dileu cynigion arbedion penodol fel y nodir ym mharagraff 3.2.7;

6.4   cymeradwyo'r defnydd o £3m o gronfa wrth gefn y Grant Cynnal Refeniw, sef £2m i gefnogi costau dros dro lleoliadau preswyl a gomisiynir i blant, ac £1m i gefnogi'r gyllideb ysgolion dirprwyedig, fel yr amlinellir ym mharagraff 5.2.3;

6.5  cymeradwyo'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig a fydd yn sylfaen i gynllunio ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod;

6.6  bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr, yr Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau, yn cael awdurdod dirprwyedig i wneud unrhyw newid sy'n angenrheidiol o ganlyniad i setliad terfynol Llywodraeth Cymru a oedd i'w gyhoeddi ar 27 Chwefror 2024.

 

 

Dogfennau ategol: