Agenda item

SEFYLLFA GYLLIDEB Y GWASANAETHAU PLANT

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yr oeddent wedi gofyn amdano yn dilyn pryderon ynghylch y sefyllfa bresennol yn y Gwasanaethau Plant.

 

Roedd yr adroddiad yn cyflwyno cefndir a chyd-destun y sefyllfa gyllidebol. 

Nodwyd bod y Gwasanaethau Plant, yn chwarter cyntaf 2023-2024, wedi rhoi gwybod am orwariant amcanol o £5.3 miliwn mewn perthynas â chyllideb gyffredinol o £23 miliwn.  O ganlyniad, comisiynwyd ac arweiniwyd adolygiad gan Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnal dadansoddiad mewn perthynas â'r elfennau sy'n ysgogi'r galw a chanolbwyntio ar feysydd lle bu gorwariant sylweddol.

 

Nododd y Pwyllgor fod Cynllun Trawsnewid wedi'i lunio o'r dadansoddiad hwnnw a oedd yn ceisio rheoli'r galw yn y dyfodol a sicrhau cyllideb gytbwys.

 

Sir Gaerfyrddin oedd â'r gyfradd isaf o Blant sy'n Derbyn Gofal yng Nghymru fel arfer, ac roedd ganddi hefyd niferoedd isel o blant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant.  Cyflawnwyd hyn drwy fuddsoddi mewn gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar yn ogystal â mabwysiadu dulliau arloesol o ddiogelu yn gynnar.

 

Dywedodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd y bu cynnydd sylweddol yn nifer y cyfarfodydd strategaeth ac ymchwiliadau Adran 47. Mynegwyd pryder unwaith eto am y diffyg gweithwyr cymdeithasol oedd ar gael a dywedwyd bod rhaglen hyfforddeion ar waith yn yr Awdurdod a fyddai'n arwain at 10 gweithiwr cymdeithasol ychwanegol.  Pryder arall a fynegwyd oedd yr angen am fwy o gapasiti a model llety newydd er mwyn lleihau'r gorwariant mewn perthynas â chyllid y Swyddfa Gartref ar gyfer plant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol, yn dilyn y buddsoddiad sylweddol yn y maes gwasanaeth, ei bod yn hanfodol bod canlyniadau'n cael eu cyflawni ac y byddai'r rhain yn cael eu monitro'n ofalus. Byddai diweddariadau cynnydd rheolaidd yn cael eu rhoi i'r Pwyllgor Craffu.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt.  Dyma'r prif faterion:

 

·    Gofynnwyd i swyddogion a oedd cais am gyllid ychwanegol wedi ei wneud i'r Swyddfa Gartref.  Dywedodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd fod y Swyddfa Gartref wedi cael ei herio ynghylch cyllid, ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac y byddent yn parhau i wneud hynny.  Byddai manylion y cyllid presennol yn cael eu dosbarthu i'r pwyllgor ar ôl y cyfarfod.

·    Mewn ymateb i bryder ynghylch cost gofal y tu allan i'r sir i blant, dywedwyd bod buddsoddiad sylweddol yn cael ei wneud mewn tai sy'n eiddo i'r awdurdod a'r gwasanaeth maethu. 

·    Nodwyd bod y cyllid am gyfnod o ddwy flynedd. Cadarnhaodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd ei bod yn rhaglen 2 flynedd ac y byddai angen trawsnewid y gwasanaeth maethu yn llwyr.

·    Mewn ymateb i'r pryder a fynegwyd ynghylch taliadau i weithwyr maeth, gofynnwyd a oedd y lwfans yn cael ei bennu gan yr Awdurdod neu gan gorff arall.  Cadarnhaodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd fod y gyfradd yn cael ei gosod gan yr Awdurdod er bod y gyfradd isaf yn cael ei gosod gan Lywodraeth Cymru.  Tynnwyd sylw at yr angen am fframwaith talu tryloyw a dywedwyd bod y gwaith hwn yn cael ei wneud ar hyn o bryd gan ymgynghori'n barhaus â gofalwyr maeth.  Byddai'n rhaid i'r fframwaith ddarparu ar gyfer anghenion amrywiol plant.

·    Gan gyfeirio at y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn anghyfreithlon i Awdurdodau Lleol yng Nghymru leoli plant mewn cartrefi gofal preswyl preifat ar ôl 2026, gofynnwyd a fyddai gan Sir Gaerfyrddin ddigon o ddarpariaeth yn barod.  Dywedodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd y byddai angen i Sir Gaerfyrddin, o ganlyniad i hyn, ddatblygu opsiynau lleol a bod yr amrywiaeth o wasanaethau preswyl a ddarperir eisoes yn tyfu a bod disgwyl y byddai'r Awdurdod yn barod. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: