Cofnodion:
[NODER: Roedd y B.W. Jones, M.J.A.Lewis ac E. Skinner wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac wedi aros yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried.]
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar Strategaeth Cyllideb Refeniw y Cyngor 2024/25 i 2026/27 a oedd yn rhoi golwg gyfredol ar y gyllideb refeniw ar gyfer 2024/2025 ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2025/2026 a 2026/2027. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion y swyddogion ynghylch gofynion gwariant, ac roedd yn rhoi ystyriaeth i'r setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 20 Rhagfyr 2023.
Er bod llawer o waith eisoes wedi'i wneud wrth baratoi'r gyllideb, dywedwyd mai datganiad sefyllfa cychwynnol oedd yr adroddiad hwn a fyddai'n cael ei ddiweddaru yn dilyn y broses ymgynghori. Yn unol â hynny, atgoffwyd yr Aelodau bod yr adroddiad wedi'i ystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 15 Ionawr 2024 a bod aelodau'r Pwyllgor wedi mynychu digwyddiadau ymgynghori yn ddiweddar, a oedd yn rhoi cyfle i ddadansoddi a chael eglurhad ynghylch gwahanol agweddau ar y gyllideb.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor, bod y setliad amodol a gyhoeddwyd yn cynrychioli cynnydd cyfartalog o 3.1% ledled Cymru ar setliad 2023/24, gyda chynnydd Sir Gaerfyrddin yn 3.3% (£11.0m) Er bod y setliad ychydig yn uwch na ffigur arfaethedig y Cyngor, sef cynnydd o 3.0%, ac yn darparu £0.9m yn fwy na rhagdybiaeth wreiddiol y Cyngor, ac roedd hyn i'w groesawu, roedd y cynnydd o ran chwyddiant, codiadau cyflog a phwysau eraill ar y gwasanaeth yn llawer uwch na'r cyllid a ddarparwyd. Yn ei gyd-destun, roedd cyfanswm y cyllidebau ychwanegol oedd eu hangen yn 2024/25 i dalu costau codiadau cyflog yn unig yn £15m. Yn benodol, ni ddarparwyd unrhyw gyllid ychwanegol i fodloni'r diffyg cynhenid yn y gyllideb wrth symud ymlaen o ganlyniad i'r codiad cyflog Athrawon a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, na dyfarniad cyflog NJC 2023 a osodwyd gan broses bargeinio cyflogau cenedlaethol.
Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at adran 3.5 o strategaeth y gyllideb lle rhoddwyd trosolwg o gyllidebau dirprwyedig yr ysgolion i'r Aelodau. Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod cynigion y gyllideb yn cynnwys arbediad o £3.5m, a oedd yn gyson â'r lefel o arbedion sydd eu hangen ar feysydd eraill o wasanaethau'r cyngor. Fodd bynnag, roedd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau yn falch o adrodd bod y gostyngiad arfaethedig i'r grant Recriwtio, Adfer, Codi Safonau wedi'i wrthdroi, a fyddai'n lliniaru'r pwysau ariannol yn rhannol.
Darparwyd i'r Pwyllgor drosolwg o'r sefyllfa wedi'i diweddaru ar y rhagolygon ariannol cyfredol, fel y nodir yn adran 4 yr adroddiad, a oedd yn ystyried y setliad dros dro a newidiadau dilysu diweddar eraill.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:-
· Atodiad A(i) - Crynodeb o'r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant.
· Atodiad A (ii) - Crynodeb o Bwysau Twf ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant.
· Atodiad B - Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant
· Atodiad C - Crynhoad Taliadau ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau y byddai Llywodraeth Cymru yn derbyn £25m o gyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus drwy Fformiwla Barnett yn dilyn yr hwb a dderbyniodd cynghorau yn Lloegr gyda'r nod o fynd i'r afael â'u hargyfwng ariannol. Y gobaith oedd y byddai rhywfaint o'r arian ychwanegol hwn yn cael ei ddosbarthu i Awdurdodau Lleol.
Wrth gloi, dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai cynigion terfynol y gyllideb yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor Sir ar 28 Chwefror 2024, un diwrnod ar ôl cwblhau cyllideb Llywodraeth Cymru.
Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:-
Mynegwyd pryderon nad oedd y mecanwaith ar gyfer ariannu codiadau pensiwn athrawon a diffoddwyr tân wedi cael ei ddatrys rhwng San Steffan a Llywodraeth Cymru. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol, er y tybiwyd na fyddai'r mater yn cael effaith ar sefyllfa ariannu'r Awdurdod o ystyried y dyhead i ddatrys y mater o fewn y flwyddyn ariannol bresennol, serch hynny, roedd yn cynrychioli risg ariannol sylweddol i'r Awdurdod hyd nes y byddai cadarnhad ffurfiol yn dod i law. Ar ben hynny, pe bai cadarnhad yn cael ei dderbyn ar lefel genedlaethol, roedd y risg yn parhau mewn perthynas â dosbarthiad y cyllid ymhlith Awdurdodau Lleol.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid a Chyfranogiad, cadarnhawyd, fel darpariaeth anstatudol, bod y cynigion yn cynnwys gostyngiad o 10% i gostau gweithredol a gostyngiad mewn cyllid craidd dros gyfnod o dair blynedd hyd nes y byddai'r ddarpariaeth yn dibynnu ar gyllid grant. Roedd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant yn cydnabod yr effaith andwyol hirdymor bosibl ar blant a phobl ifanc a phwysleisiodd fod y cynigion yn seiliedig ar y gofyniad i gyflawni arbedion effeithlonrwydd.
Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant, y byddai trosglwyddo cyfrifoldeb a chyllid ar gyfer darpariaeth brecwast ysgol i ysgolion yn arwain at wasanaeth mwy effeithiol ac effeithlon, gyda chyfleoedd i ysgolion gynhyrchu incwm. Roedd ymarfer ymgynghori i fod i ddechrau yn fuan.
Cyfeiriwyd at yr arbedion effeithlonrwydd sy'n ofynnol o fewn y gyllideb a ddirprwyir i ysgolion lle mynegwyd pryder y byddai effaith lefel y gostyngiad fesul dysgwr yn cael ei deimlo'n fwy mewn ysgolion llai. Rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor bod trafodaethau'n parhau mewn ymdrech i liniaru difrifoldeb yr effaith ar ysgolion llai; fodd bynnag, amlygwyd y byddai unrhyw liniaru yn hyn o beth yn arwain at ragor o effaith ar ysgolion mwy.
Cyfeiriwyd at yr adolygiad arfaethedig o ôl troed ysgolion cynradd i gael arbedion effeithlonrwydd o £200k ar gyfer 2025/26, holodd Aelod am y nifer posibl o ysgolion a fyddai angen eu cau er mwyn cyflawni'r arbedion effeithlonrwydd. Eglurwyd bod adolygiad trylwyr o holl ysgolion Sir Gaerfyrddin yn parhau, fodd bynnag, byddai cau ysgolion llai ond yn golygu arbedion o ran costau'r safle ac amcangyfrifwyd bod y rhain oddeutu £50k-60k fesul ysgol.
Yn dilyn cais am ragor o wybodaeth am yr ysgolion a oedd mewn diffyg o ran y gyllideb, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod gan 4 ysgol uwchradd a 32 o ysgolion cynradd ddiffyg ar hyn o bryd. Rhagwelwyd y byddai nifer y diffygion cyllidebol yn cynyddu yn 2024/25 a oedd yn amlygu ymhellach yr angen i ysgolion gydweithio i nodi’r posibilrwydd o rannu adnoddau.
Mewn ymateb i'r pryderon a fynegwyd, rhoddodd y Pennaeth Strategaeth a Chymorth Dysgwyr drosolwg o'r effaith niweidiol a fyddai'n digwydd o ganlyniad i ostyngiadau pellach i gyllidebau Cefnogi'r Gymraeg a Data a chyllidebau Systemau Addysg. Roedd yr Aelodau'n cydnabod y byddai toriadau staffio i'r meysydd hyn yn arwain at lai o ddarpariaeth gwasanaeth ac yn peri risg o ran gallu'r Awdurdod i gyflawni gofynion y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ac yn unol â hynny, roedd cyfleoedd cyllid grant yn cael eu harchwilio.
Wrth ystyried y cynigion arbedion, cyfeiriwyd at raglen deledu ddiweddar a oedd yn ymwneud ag ysgolion yr oedd angen eu hatgyweirio ar frys, a oedd yn cynnwys un ysgol yn y sir. Felly, gofynnwyd am sicrwydd na fyddai'r toriadau cyllidebol arfaethedig yn effeithio ar yr amserlenni ar gyfer darparu atgyweiriadau mewn ysgolion er mwyn sicrhau amgylchedd dysgu diogel a chadarnhaol i ddisgyblion. Eglurodd y Pennaeth Mynediad i Addysg fod yr ysgol dan sylw yn ymwneud â mater dylunio yn hytrach na mater o esgeuluso gwaith cynnal a chadw ac roedd yr Awdurdod yn monitro'r sefyllfa ac yn archwilio ffyrdd o fynd i'r afael â'r mater yn y tymor hir. Cydnabuwyd nad oedd darpariaeth y gyllideb yn talu'r holl gostau a ysgwyddwyd gan rai ysgolion o ran atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau, ond rhoddwyd sicrwydd bod gwaith atgyweirio a chynnal a chadw yn cael eu blaenoriaethu yn unol â gofynion iechyd a diogelwch o fewn y gyllideb oedd ar gael.
Mynegodd y Pwyllgor bryder ac anfodlonrwydd bod y diffygion cronnol yn y blynyddoedd i ddod yn parhau i fod yn risg sylweddol i'r Awdurdod, fodd bynnag, nid oedd llawer o le i symud yng ngoleuni'r dyraniad cyllid gan Lywodraeth Cymru. Yn benodol, roedd codiad cyflog athrawon y cytunwyd arno yn genedlaethol, nad oedd wedi'i ariannu gan y Llywodraeth, yn rhoi pwysau ychwanegol sylweddol ar Awdurdodau Lleol a byddai'n arwain at oblygiadau i gyllidebau ysgolion, sydd eisoes yn dynn iawn. Yng ngoleuni'r pryderon uchod, roedd y Pwyllgor o’r farn y dylid cyflwyno sylwadau ysgrifenedig i Lywodraeth Cymru a/neu Drysorlys Ei Fawrhydi fel rhan o'i broses ymgynghori ar Gyllideb y Gwanwyn 2024.
PENDERFYNWYD:
4.1 |
Bod yr Ymgynghoriad ynghylch y Strategaeth Cyllideb Refeniw 2024/25 - 2026/27 yn cael ei dderbyn;
|
4.2 |
Bod y Crynhoad Taliadau a nodir yn Atodiad C yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo; |
4.3 |
Bod y Cadeirydd yn cyflwyno sylwadau ysgrifenedig i Lywodraeth Cymru a/neu Drysorlys Ei Fawrhydi i fynegi pryder ac anfodlonrwydd y Pwyllgor o ran y dyraniad cyllideb arfaethedig ar gyfer ysgolion a dyfarniadau cyflog athrawon. |
Dogfennau ategol: