Agenda item

TRAWSNEWID GWASANAETHAU IECHYD MEDDWL - ADRODDIAD TERFYNOL YNGHYLCH YMGYNGHORI.

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Mr Richard Jones, Pennaeth Arloesi a Strategaeth Glinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a oedd wedi cael gwahoddiad i roi cyflwyniad i'r Cyngor ynghylch Trawsnewid Gwasanaethau Iechyd Meddwl.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi llunio adroddiad terfynol gan ymgynghori â'r partneriaid, ar ôl cwblhau'r broses ymgynghori ynghylch trawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl ar draws cwmpas Hywel Dda. 

 

Mae'r adroddiad yn cadarnhau'r gwaith a gyflawnwyd fel rhan o ymgysylltu ffurfiol, datblygu dewisiadau ac ymgynghori (cam 1 o'r broses ymgynghori).  Bwriad yr adroddiad oedd rhoi sicrwydd ynghylch cydymffurfio â'r Cyfarwyddyd Gweinidogaethol ar gyfer Byrddau Iechyd o ran ymgysylltu ac ymgynghori, gyda phwyslais ar gam 2 o'r broses ymgynghori - yr ymgynghoriad ffurfiol.  Roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar y broses a gynhaliwyd i roi ystyriaeth fwriadol i'r adborth a gafwyd o'r ymgynghoriad ac yn amlinellu'r argymhellion o ran y cynigion diwygiedig, gan gynnwys cynllun gweithredu drafft lefel uchel.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Mynegwyd pryder ynghylch y pwysau aruthrol y mae pobl ifanc yn eu harddegau yn y chweched dosbarth yn ei wynebu yn yr ysgol, a phwysleisiwyd pwysigrwydd yr angen i helpu'r gr?p hwn gan ei fod yn aml yn cael ei neilltuo.  Eglurodd Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu o ran y gr?p penodol hwn, fod gr?p cenedlaethol yn gwneud darn o waith ar hunanladdiad a hunan-niweidio. Mae gan y gr?p cenedlaethol nifer o fforymau rhanbarthol ac mae Sir Gaerfyrddin yn aelod o Fforwm Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru, sydd ar fin cyhoeddi strategaeth ar hunanladdiad a hunan-niweidio;

·       Holwyd y swyddogion yngl?n â'r sefyllfa bresennol o ran rhestrau aros a hysbyswyd y Pwyllgor fod amseroedd aros yn parhau i fod yn broblem, fodd bynnag mae'r niferoedd yn lleihau;

·       Gofynnwyd a oes unrhyw waith yn cael ei gyflawni ynghylch y cysylltiad rhwng iechyd meddwl a digartrefedd, dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu wrth y Pwyllgor fod swyddogion o'i his-adran wedi gweithio gyda chydweithwyr yn yr is-adran Dai i sicrhau bod digartrefedd ac iechyd meddwl yn flaenoriaeth yn y Strategaeth Dai;

·       Cyfeiriwyd at y ffaith fod gan y Prif Gwnstabl gyfrifoldeb dros iechyd meddwl ym mhob rhan o'r heddlu ac mewn seminar ddiweddar dywedodd y Prif Gwnstabl fod yr heddlu yn gwneud llawer o waith o ran iechyd meddwl, ac mai dim ond 20% o'i gwaith sy'n ymwneud â throseddu a'r farn oedd bod hyn yn amlygu'r her sy'n ein hwynebu ni i gyd.  Dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu wrth y Pwyllgor fod yr Awdurdod a'r Heddlu yn cwrdd â'i gilydd yn rhan o Fforwm a'u bod yn gweithio gyda'i gilydd mwy a mwy;

·       Gofynnwyd beth sy'n cael ei wneud i wella'r problemau ynghylch trafnidiaeth, a dywedwyd wrth y Pwyllgor fod Gr?p Gweithredu dros Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru wedi llunio rhai cynigion a all fod o gymorth.  Mae swyddogion yn ystyried amrywiaeth eang o ddewisiadau ar hyn o bryd;

·       Gofynnwyd pa fentrau sy'n cael eu rhoi ar waith i ddenu arbenigwyr i'r sir, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod hyn yn dod yn fwyfwy anodd ym mhob ardal, nid yn Sir Gaerfyrddin yn unig. Ceir gwell defnydd o ffrydiau cyfryngau megis cyfryngau cymdeithasol.  Cyfeiriwyd at y ffaith fod yr Alban yn llwyddiannus o ran denu arbenigwyr ac atgoffwyd y pwyllgor fod anhawster yng Nghymru o ran yr angen am siaradwyr Cymraeg.

 

PENDERFYNWYD

 

5.1     bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;

5.2     bod y Pwyllgor yn cael adroddiad ynghylch y mentrau sydd gan yr           Awdurdod ar waith i ddiogelu pobl ifanc yn eu harddegau yn un o           gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol a bod y Pwyllgor Craffu           Addysg a Phlant yn cael gwahoddiad i'r cyfarfod;

5.3     bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad ar Geir Cefn Gwlad mewn           cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

Dogfennau ategol: