Agenda item

ADRODDIAD TERFYNOL GR?P GORCHWYL A GORFFEN Y PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD 2015/16: TALIADAU PARCIO CEIR

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad terfynol y Gr?p Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd ganddo ar 15 Mai 2015, i ymchwilio i'r gwahanol ddulliau gweithredu o ran taliadau parcio ceir y gellid eu rhoi ar waith yn y sir. Roedd yr argymhellion a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad wedi cael eu llunio gan y Gr?p ar ôl ystyried amrywiaeth o dystiolaeth dros gyfres o gyfarfodydd a gynhaliwyd rhwng mis Medi 2015 a mis Ebrill 2016. Hysbysodd y Cadeirydd ei fod wedi cael ceisiadau gan y Cynghorwyr A. Lenny a J. Thomas i ofyn cwestiynau ynghylch yr eitem hon ar yr agenda ac y byddai’r rhain yn cael eu cyflwyno ar ddechrau’r eitem hon. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd J. Thomas y cwestiwn canlynol:

 

Deallaf mai rhan o’r briff oedd sicrhau cysondeb ledled y Sir. Nid wyf yn credu bod hyn wedi cael ei gyflawni. Er enghraifft, mae mannau parcio am ddim ar ddydd Sul ym mhen Dwyreiniol Caerfyrddin i wasanaethu tri adeilad crefyddol, ac eto ym mhen gorllewinol y dref nid yw maes parcio arall am ddim unrhyw bryd ar ddydd Sul er bod pum adeilad crefyddol yn yr ardal. Gofynnaf, sut yr aethpwyd i’r afael â’r agwedd ar yr adolygiad gorchwyl a gorffen a oedd yn ymwneud â chysondeb?

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Thomas am ei gwestiwn a datganodd fod a wnelo’r adolygiad â Sir Gaerfyrddin gyfan, yn hytrach na materion parcio mewn tref benodol. Nid oedd cysondeb taliadau wedi bod yn rhan o gwmpas ac amcanion yr adolygiad, a gymeradwywyd gan y Pwyllgor mewn cyfarfod blaenorol. Fe wnaeth y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg atgoffa’r Pwyllgor fod yr eithriadau ar ddydd Sul yng Nghaerfyrddin wedi deillio o ganlyniad i ymgynghoriad ynghylch Gorchymyn Cydgrynhoi Mannau Parcio Oddi ar y Stryd yn 2014 a bod y rhain wedi cael eu cytuno yn dilyn cyfarfod rhwng yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol ar y pryd a chynrychiolwyr eglwysi. Roedd 54 o fannau parcio ceir am ddim ar y stryd ym mhen gorllewinol y dref.

 

Gofynnodd y Cynghorydd A. Lenny y cwestiynau canlynol:

 

Mae fy nghwestiwn i’n ymwneud â natur a chwmpas yr ymchwil a wnaed gan y gr?p. Pan na wnaethant wahodd unigolion neu gyrff (e.e. Siambrau Masnach) i gyflwyno tystiolaeth yn bersonol ac ymweld â threfi neu siroedd eraill fel rhan o’r ymchwil, yn hytrach na seilio’u hargymhellion yn bennaf ar ffigyrau ac adroddiadau (yn rhai mewnol ac allanol) a gyflwynwyd gan swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin ei hun ac na chawsant eu herio yn ôl pob golwg? 

 

Os nad yw argymhellion y Gr?p Gorchwyl a Gorffen yn seiliedig ar lawer mwy nag adroddiadau a ffigyrau a gyflwynwyd gan swyddogion y cyngor sir, a fyddai’r Pwyllgor Craffu Diogelu’r Cyhoedd a’r Amgylchedd yn ystyried gwrthod yr adroddiad am ei fod wedi methu â chydymffurfio â’i gylch gwaith a’i fwriad datganedig oherwydd ei sail ymchwil gyfyngedig, sydd wedi arwain at ganlyniad nad yw’n llawer mwy na chymeradwyaeth i’r sefyllfa fel y mae?

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Lenny am ei gwestiynau ond gwrthododd yr awgrym bod gwybodaeth a gyflwynwyd gan swyddogion wedi cael ei derbyn heb gael ei herio gan aelodau’r Gr?p. Dywedodd wrth y Pwyllgor fod y Gr?p wedi cael sylwadau gan Fforwm Tref Caerfyrddin fel rhan o’r adolygiad a bod unrhyw wybodaeth y gofynnodd y Gr?p amdani neu ddata y gofynnodd y gr?p amdano wedi cael ei d(d)arparu ar ei gyfer gan y swyddogion. Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg wrth y Pwyllgor bod y Gr?p wedi ystyried tystiolaeth o ymarferion ymgynghori a gynhaliwyd ynghylch newidiadau i daliadau parcio ceir dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd yn cynnwys yr ymgynghoriad ffurfiol a gynhaliwyd trwy strategaeth y gyllideb ac ymgynghoriad pellach a gynhaliwyd yn ystod y broses statudol ffurfiol i wneud gorchmynion traffig newydd (e.e. taliadau ar ddydd Sul). 

 

Cafodd y materion canlynol eu codi gan y Pwyllgor mewn perthynas â’r adroddiad:

 

Awgrymwyd fod diffyg ymgynghori lleol gan y Gr?p a mynegwyd pryder hefyd bod y prisiau uwch am barcio ceir yng Nghaerfyrddin yn dal i gefnogi ardaloedd eraill yn y sir. Awgrymwyd fod nifer yr ymwelwyr â Chaerfyrddin wedi gostwng yn ddramatig dros yr wythnosau diwethaf. Tynnodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg sylw’r Pwyllgor at y corff o dystiolaeth a oedd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad a oedd yn dangos bod nifer y tocynnau a werthwyd ar draws trefi’r sir wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn rhwng 2013 a 2015 yn ôl cyfradd debyg. Roedd data ynghylch nifer yr ymwelwyr a gafodd ei ystyried gan y Gr?p yn ystod yr adolygiad yn dangos cynnydd hefyd. Atgoffodd y Pwyllgor fod y rhesymau dros yr amrywiad mewn prisiau tocynnau rhwng trefi’n gysylltiedig â’r gwahaniaethau demograffig ac economaidd rhwng y trefi hynny yn ogystal â ffactorau sy’n ymwneud â seilwaith. Roedd refeniw o daliadau parcio ceir yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau sy’n gysylltiedig â phriffyrdd a chyfleusterau parcio (e.e. buddsoddi mewn cefnogi cludiant cyhoeddus, cyfleusterau parcio a theithio, seilwaith priffyrdd a mannau parcio ceir). 

 

Amlygwydpwysigrwydd cysylltu ag aelodau lleol a chyfeiriwyd at gynllun peilot llwyddiannus yn Llanelli lle’r oedd parth aros â chyfyngiad o 2 awr ar Heol Abertawe wedi cael ei dreialu. Gofynnwyd a ellid cyflwyno hyn ledled y sir yn hytrach na’r opsiwn siopa a gollwng 30 munud a oedd yn cael ei argymell gan y Gr?p Gorchwyl a Gorffen. Y teimlad oedd, pe bai’r mannau parcio hyn yn cael eu cynnig am gyfnod hwy, y byddai hynny’n hybu masnach yn nes at siopau bychain neu stondinau marchnad.

 

Fodd bynnag, awgrymwyd hefyd fod menter o'r fath yn un na fyddai’n hyfyw yn ariannol gan fod yr opsiwn siopa a gollwng wedi’i fwriadu ar gyfer pobl leol yn hytrach nag ymwelwyr o ardaloedd pellach i ffwrdd a oedd yn fwy tebygol o dreulio mwy o amser yn nhrefi’r sir a gwario arian hefyd.    

 

Cyfeiriwyd at nifer yr ymwelwyr â threfi a nodwyd nad oedd cynnydd yn nifer yr ymwelwyr o anghenraid yn cyfateb i ffyniant economaidd, fel a welwyd yn nhref Llanelli, lle’r oedd nifer yr ymwelwyr wedi cynyddu ond siopau’n dal i gau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch taliadau uwch am docynnau, eglurodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg mai’r amryw strategaethau cenedlaethol a rhanbarthol oedd yn pennu’r amcanion polisi. Wrth bennu taliadau ar gyfer tref, roedd yr amcanion polisi ehangach yn cael eu hystyried yn gyntaf cyn mynd ati wedyn i ystyried y galw am barcio yn y dref benodol honno. Roedd ffactorau demograffig ac economaidd yn cael eu hystyried hefyd ac felly hefyd y cymorth sy’n ofynnol ar gyfer cludiant cyhoeddus. Atgoffodd y Pwyllgor am y problemau a brofwyd yn Aberystwyth lle nad oedd mesurau gorfodi’n bodoli a lle’r oedd masnachwyr yn y dref yn gofyn am gyflwyno mesurau gorfodi. Wrth bennu taliadau, roedd materion eraill megis rheoli llygredd aer a chyfraddau gadael mannau parcio yn ystyriaethau allweddol hefyd.

 

Cyfeiriwyd at her siopa ar-lein i fasnachwyr mewn trefi, sef y rheswm pam fod opsiwn ar gyfer parcio am ddim ar nosondawel’ yn ystod yr wythnos (e.e. nos Iau) wedi cael ei drafod gan y Gr?p. Fodd bynnag, roedd yn hanfodol bod cynghorau tref a siambrau masnach yn cefnogi mentrau o’r fath trwy agor yn hwyr, os oedd mentrau o’r fath yn mynd i gael eu cynnal.

 

Erfyniwyd am bwyll mewn perthynas â chonsesiynau parcio am ddim ar ddydd Sul. Awgrymwyd fod cynnig mannau parcio am ddim i un gr?p mewn un dref yn peri anfantais i gr?p arall mewn tref arall yr oedd gofyn iddynt dalu ar ddydd Sul a bod angen cysondeb ledled y sir mewn perthynas â’r mater hwn. Fe wnaeth y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg atgoffa’r Pwyllgor bod pob tref yn cael opsiynau parcio am ddim ar ddydd Sul (e.e. roedd yr Orsaf Drenau a Heol Caerfyrddin yn Llandeilo am ddim ac nid oedd unrhyw gyfyngiadau o ran parcio ar y ffordd ar ddydd Sul). Ychwanegodd fod ystod o gyfleoedd a oedd yn cael eu cynnig gan y Gr?p Gorchwyl a Gorffen gan gynnwys y 30 munud am ddim i siopa a gollwng a diwrnodau parcio am ddim ychwanegol ar gyfer trefi’r sir.

 

Mynegwyd pryderon ynghylch nifer y mannau parcio i bobl anabl mewn meysydd parcio a’r ffaith nad oedd llawer ohonynt yn cael eu defnyddio’n llawn, gan olygu nad oedd modd defnyddio mannau parcio gwerthfawr. Gofynnwyd am eglurhad hefyd ynghylch y gwaith ymgynghori a wnaed mewn perthynas â chyflwyno mannau o'r fath ym Maes Parcio Stryd Ioan, Caerfyrddin. Fe wnaeth y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg a’r Rheolwr Diogelwch Ffyrdd a Thraffig atgoffa’r Pwyllgor, pan gafodd taliadau ar gyfer bathodynnau glas eu cyflwyno, fod hyn wedi ei gwneud yn ofynnol adolygu gorchmynion parcio a oedd yn ei dro wedi ei gwneud yn ofynnol ymgynghori.

 

Fel rhan o’r adolygiad, nodwyd fod y meysydd parcio yr oedd y gorchmynion newydd yn ymwneud â hwy yn cynnwys llai na’r 6% argymelledig o fannau wedi’u neilltuo i yrwyr anabl. Roedd cynnydd yn nifer y mannau parcio a oedd ar gael wedi cael ei argymell fel rhan o gyflwyno’r gorchymyn meysydd parcio. Cynhaliwyd ymgynghoriad statudol ynghylch y gorchymyn a gofynnwyd i’r holl randdeiliaid perthnasol (e.e. y Cyngor Tref) am eu barn. 

 

Gofynnwyd a oedd y Gr?p wedi ystyried problem deiliaid bathodynnau glas yn parcio mewn parthau parcio ar y stryd i breswylwyr yn unig, yn hytrach na thalu am docynnau parcio. Awgrymwyd fod unigolion yn camddefnyddio’r fraint o fod yn ddeiliaid bathodynnau glas. Fe wnaeth y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg hysbysu’r Pwyllgor fod sylwadau wedi dod i law oddi wrth aelod o’r cyhoedd mewn perthynas â mannau parcio ar y stryd ar gyfer deiliaid bathodynnau glas a bod y Gr?p wedi gwneud argymhelliad mewn perthynas â safoni mannau parcio ar y stryd. Fodd bynnag, atgoffodd y Pwyllgor nad oedd hawlenni parcio i breswylwyr yn gwarantu’r hawl i breswylydd barcio y tu allan i’w eiddo.

 

Gofynnwyd am eglurhad o’r term ‘dichonadwy’ mewn perthynas ag argymhelliad y Gr?p, ‘lle y bo’n ddichonadwy, bod y Cyngor yn cyflwyno mannau siopa a gollwng yn nhrefi’r sir’. Eglurodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg y byddai hyn yn amrywio o un dref i’r llall ac y byddai’n ddibynnol ar y mannau sydd ar gael yng nghanol trefi. Mewn ymateb i gwestiwn pellach, cadarnhaodd mai mannau parcio ar y stryd fyddai’r rhain ac nid mannau parcio mewn meysydd parcio presennol. 

 

Cydnabuwyd fod taliadau parcio’n cael eu defnyddio am amrywiaeth o resymau ond gofynnwyd a allai mwy o’r incwm gael ei gyfeirio at gynnal a chadw’r meysydd parcio, gan nad oedd unrhyw gyfeiriad at hyn yn yr adroddiad. Honnwyd fod llawer o feysydd parcio’n ddi-raen oherwydd y diffyg gwaith cynnal a chadw tir ac, yn ei dro, nad oedd hyn yn rhoi’r argraff orau o’r sir i ymwelwyr. Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg wrth y Pwyllgor fod cytundeb lefel gwasanaeth wedi’i sefydlu gyda’r Gwasanaeth Cynnal a Chadw Tiroedd a bod gwaith ar y mater hwn yn mynd rhagddo.  

 

Mewn ymateb i gwestiwn am ddefnyddio System Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig (ANPR), eglurodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg fod swyddogion ar hyn o bryd yn disgwyl am eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch cyfreithlondeb defnyddio technoleg o’r fath mewn meysydd parcio cyhoeddus. Roedd hefyd yn cydnabod bod angen sefydlu mesurau diogelu data (h.y. casglu manylion platiau rhif) ond, yn y pen draw, y gallai’r system hon gael ei defnyddio ym mhob maes parcio, hyd yn oed y rhai â mwy nag un allanfa. 

 

Mynegwyd pryderon y byddai cyflwyno systemau talu nad ydynt yn defnyddio arian parod yn wahaniaethol ac yn peidio â chaniatáu i’r rhai heb ffonau symudol dalu am barcio. Fe wnaeth y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg sicrhau’r Pwyllgor mai un opsiwn i gwsmeriaid ei ddefnyddio fyddai’r system nad yw’n defnyddio arian parod, ochr yn ochr â’r system draddodiadol sy’n defnyddio arian parod yn unig.

 

Wedynrhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i argymhellion y Gr?p Gorchwyl a Gorffen:

 

1)            Bod y Cyngor Sir yn symud ymlaen â gwaith parhaus i gasglu data ynghylch nifer yr ymwelwyr mewn trefi allweddol – Awgrymodd y Pwyllgor fod data economaidd yn cael ei gasglu hefyd gan nad oedd nifer yr ymwelwyr ynddo’i hun yn gwarantu budd economaidd cadarnhaol.

 

2)            Diweddaru Strategaeth Parcio Integredig Sir Gaerfyrddin – Awgrymodd y Pwyllgor y dylai’r Strategaeth gael ei hadolygu’n gyfan gwbl yn hytrach na’i diweddaru yn unig.

 

3)            Rhoi ystyriaeth i’r cymysgedd o fannau parcio arhosiad byr / hir ym meysydd parcio’r Awdurdod lle ceir galw uchel am barcio arhosiad byr – Awgrymodd y Pwyllgor y dylid ymgynghori ag aelodau lleol cyn gwneud unrhyw newidiadau. Fe wnaeth y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg atgoffa’r Pwyllgor mai dyma fyddai’n digwydd gan y byddai’n ofynnol cynnal ymgynghoriad statudol pe bai newid ffurfiol i orchmynion parcio. 

 

4)            Adolygu hygyrchedd mannau parcio ar y stryd sydd wedi’u neilltuo ar gyfer deiliaid bathodynnau glas a’u safoni yn unol â gofynion deddfwriaethol, lle y bo’n ddichonadwyAwgrymodd y Pwyllgor, lle y bo’n bosibl, y dylai mannau parcio ar strydoedd unffordd gael eu lleoli fel bod y gyrrwr yn gallu mynd allan o’r car ar ochr y palmant ac nid ochr y ffordd, gan felly leihau unrhyw berygl posibl iddynt hwy eu hunain ac osgoi achosi rhwystr i yrwyr eraill. Awgrymodd y Pwyllgor hefyd y dylai datrysiad i broblem deiliaid bathodynnau glas yn parcio mewn parthau i breswylwyr gael ei archwilio ymhellach. Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg wrth y Pwyllgor fod eithriad mewn Gorchmynion Traffig ar hyn o bryd a oedd yn caniatáu i ddeiliaid bathodynnau glas barcio mewn parthau o’r fath ond y gallai hwn gael ei ddiwygio, yn amodol ar ddilyn proses gyfreithiol ffurfiol. 

 

5)            O ystyried natur gystadleuol taliadau Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd, cadw’r strategaeth brisio gyfredol ond adolygu nifer yr ymwelwyr â threfi yn rheolaidd ac ymgynghori lle cynigir newidiadau yn y dyfodol i daliadau parcio – Awgrymodd y Pwyllgor fod angen mwy o fuddsoddiad yn y gwasanaeth, yn enwedig o ran cynnal a chadw’r meysydd parcio eu hunain. 

 

6)            Atgoffa Cynghorau Tref / Cymuned a Siambrau Masnach ynghylch y cynllun diwrnodau parcio am ddim a’u hannog i ddefnyddio’r fenter hon yn llawn – Roedd y Pwyllgor yn cytuno â’r cynnig hwn. 

 

7)            Gwneud gwaith pellach i hyrwyddo’r cyfleusterau parcio am ddim ym Maes Parcio’r Cyngor yn Coleshill (Llanelli) ar benwythnosauRoedd y Pwyllgor yn cytuno â’r cynnig hwn.

 

8)            Cynyddu nifer y diwrnodau parcio am ddim sydd ar gael i drefi’r Sir i 7 diwrnod y flwyddyn ond ymestyn y cyfnod eithrio i gynnwys mis Tachwedd i gyd, yn ogystal â mis Rhagfyr i gyd – Roedd y Pwyllgor yn croesawu’r cynnig ond roedd o’r farn y dylid cadw’r eithriad ar gyfer mis Rhagfyr i gyd, yn hytrach na mis Tachwedd, gan fod llawer o drefi’n cynnal dathliadau cyn y Nadolig ym mis Tachwedd a bod diwrnodau parcio am ddim yn cael eu defnyddio’n aml i hybu presenoldeb mewn digwyddiadau o’r fath.

 

9)            Bod y Cyngor yn mynd ar drywydd y newid posibl mewn deddfwriaeth gyda Llywodraeth Cymru ac, yn amodol ar eglurhad a fforddiadwyedd, yn parhau â rhaglen raddol i gyflwyno System Talu wrth Adael yn seiliedig ar Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig ar draws ei feysydd parcio ceir – Roedd y Pwyllgor yn cytuno â’r cynnig hwn.  

 

10)         Lle y bo’n ddichonadwy, bod y Cyngor yn cyflwyno mannau parcio ‘siopa a gollwng’ yn nhrefi’r sir, yn gymesur â maint y dref a’r mannau sydd ar gael, am amser aros cyfyngedig o 30 munud – Roedd y Pwyllgor o’r farn bod angen i’r opsiwn hwn fod yn ddichonadwy ym mhob ardal er mwyn peidio â gwahaniaethu yn erbyn trefi gwahanol a bod angen ystyried mannau parcio ar y stryd am ddim am 2 awr (a dim hawl i ddychwelyd o fewn awr) yn hytrach na 30 munud.

 

11)         Bod y Cyngor yn bwrw ymlaen â gwaith i gyflwyno technoleg ‘talu heb ddefnyddio arian parod’ trwy gynnal cynllun peilot yn nhrefi allweddol y Sir – Roedd y Pwyllgor yn cytuno â’r cynnig hwn.

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor, yn amodol ar gynnwys ei sylwadau a’i awgrymiadau ychwanegol, y byddai’n derbyn yr adroddiad ac yn ei atgyfeirio at y Bwrdd Gweithredol er mwyn iddo ei ystyried.

Dogfennau ategol: