Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD ALUN LENNY, AELOD Y CABINET DROS ADNODDAU

“A allai’r Aelod Cabinet ddatgan faint a dalodd yr awdurdod hwn mewn ffioedd ymgynghori yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan gynnwys tuag at brosiectau ar y cyd neu brosiectau rhanbarthol?”

 

Cofnodion:

“A allai'r Aelod Cabinet ddatgan faint mae'r awdurdod hwn wedi'i dalu mewn ffioedd ymgynghori yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan gynnwys tuag at brosiectau ar y cyd neu ranbarthol?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Alun Lenny, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau:

 

 

“Byddwch yn gwerthfawrogi wrth gwrs mai hwn yw'r cyfnod mwyaf prysur posib i'n swyddogion wrth i ni geisio dod â'r gyllideb anoddaf yn hanes y Cyngor hwn at ei gilydd.  Fel y gwelwch o'r adroddiadau canlynol yn y cyfarfod hwn ac fel y trafodir yn y seminarau yr wythnos hon yn Llanelli.  Er gwaethaf hyn, mae swyddogion yn casglu'r data y gwnaethoch ofyn amdano at ei gilydd ond bydd angen i ni sicrhau cysondeb ac eglurder ynghylch y diffiniad o Ymgynghorwyr fel y'u diffinnir gan Awdurdodau eraill yng Nghymru.  Cyn gynted ag y bydd gennym ffigur pendant, byddaf wrth gwrs yn rhoi ateb i chi. Fodd bynnag, rwy'n credu ei bod yn werth dweud ar y pwynt hwn y gallai'r gair Ymgynghorwyr greu ymdeimlad negyddol felly mae'n werth egluro bod ffioedd ymgynghori'n cael eu talu i gwmnïau sy'n arbenigwyr yn eu maes ac sy'n cael eu comisiynu gan yr Awdurdod hwn i wneud swydd benodol am gyfnod penodol o amser oherwydd nad oes gennym y staff na'r gallu i wneud hynny.  Gallaf eich sicrhau y craffir yn fanwl ar bob comisiwn gan y Pennaeth Gwasanaeth perthnasol er mwyn rhoi'r fargen orau bosibl i dalwyr y Dreth Gyngor.  Bydd y galw hwn yn amlwg yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn yn dibynnu ar ba brosiectau rydym yn eu gwneud sy'n gofyn am gymorth arbenigol.  Fel arall, ni fyddai modd cyflawni prosiectau ac mae hynny'n cynnwys ailddatblygu canol trefi, ystadau tai di-garbon fforddiadwy, ysgolion newydd a chanolfan hamdden o'r radd flaenaf ar gyfer Llanelli.  Mae lefel y ffioedd ymgynghori yn gysylltiedig yn uniongyrchol â'r gweithgaredd sy'n gwella ansawdd bywyd a chyfleoedd cyflogaeth i bobl Sir Gaerfyrddin.  Fel y gwyddoch, mae gan y Cyngor hwn raglen adfywio uchelgeisiol iawn. Y datblygiad blaenllaw yw prosiect Pentre Awel gwerth dros £200m a fydd yn hwb anhygoel i Lanelli a'r rhanbarth cyfan ac yn creu bron i 2000 o swyddi maes o law.   Byddai'n amhosibl cyflawni'r prosiect hwnnw heb gyflogi ystod eang o arbenigwyr allanol h.y. dylunio, peirianneg, ecoleg ac ati.  Mae rhai o'r Ymgynghorwyr yn arbenigol iawn yn eu maes h.y. wrth feddwl am Harbwr Porth Tywyn, dim ond llond llaw yn Ne Cymru sy'n arbenigwyr mewn carthu harbwr ac yn yr un modd Pentre Awel, lle'r oedd amodau'r tir yngolygu gosod seilbyst tua 25m yn y ddaear.  Byddai cyflogi arbenigwyr fel staff llawn amser, hyd yn oed pe gallem eu denu ac rwy'n amau hynny, yn ddrud dros ben ac efallai y byddent yn eistedd o gwmpas yn gwneud dim am ran helaeth o'r flwyddyn, fel y byddai arbenigwyr eraill pe baent ar gael yn fewnol.  Fel y dywedais yn gynharach, cyn gynted ag y bydd ffigur pendant ar gael, byddaf wrth gwrs yn ei roi i chi ond mae arnaf ofn mai dyna'r sefyllfa'r bore yma.

 

Cwestiwn Atodol gan y CynghoryddRob James:-

 

“Diolch am eich ymateb Gynghorydd Lenny. Rwy'n gwerthfawrogi fod angen ymchwil o bosibl i gael y ffigur gwirioneddol.  Ai bwriad y weinyddiaeth hon yw lleihau'r swm y mae'n ei wario ar Ymgynghorwyr yn gyffredinol?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Alun Lenny, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau:-

 

“Ie, yn amlwg rydym yn ddarbodus iawn o ran yr hyn rydyn ni'n ei wario ar unrhyw beth gan gynnwys arbenigwyr allanol fel hyn.  Fel y dywedais yn gynharach, mae Penaethiaid Gwasanaeth yn craffu'n drylwyr iawn ar yr angen i gyflogi ymgynghorwyr neu arbenigwyr allanol.   Felly, gallaf eich sicrhau y bydd hynny'n parhau a lle gallwn gyflogi pobl neu ddefnyddio sgiliau pobl mewnol yna yn sicr byddwn yn gwneud hynny.”</AI4>