Cofnodion:
PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
PL/03279 |
Dymchwel y siop fwyd bresennol i hwyluso ailddatblygiad preswyl, ynghyd â mynediad cysylltiedig i gerbydau a cherddwyr, meysydd parcio, amwynderau, siopau beiciau a llefydd cadw biniau, gwaith tirweddu a datblygu ategol: paratoi'r safle, clirio, trin, ail-broffilio a gosod gwasanaethau a seilwaith newydd yn Archfarchnad Lidl, Heol y Prior, Caerfyrddin, SA31 1LS.
|
|
[NODER: Bu i'r Cynghorydd Elwyn Williams ddatgan buddiant personol yn yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod cyn iddi gael ei hystyried a chyn y pleidleisiwyd arni.]
Darllenodd y Cadeirydd sylw ysgrifenedig gan yr Aelod Lleol a wrthwynebai'r cais ac a ail-bwysleisiai’r pwyntiau yn adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a oedd yn cynnwys:-
· Nifer y pryderon a godwyd yn dilyn y broses Ymgynghori Cyn Cyflwyno Cais yn ymwneud â - nifer arfaethedig yr unedau/eu dwysedd, eu deiliadaeth, amynderau; - effaith y cynnig ar eiddo ar hyd y Rhodfa; - y diffyg mannau parcio yn enwedig o ran gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol.
· bod y cynllun ar gyfer pobl dros 55 oed yn unig. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw amod i'r perwyl hwn.
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Gorfodi a Monitro i'r materion a godwyd. |
PL/04799 - |
Adleoli'r porth awtomatig presennol i gerbydau a'r panel rheoli mynediad gyda ffensys cysylltiedig a gwaredu'r gât i gerddwyr ar dir i'r de o Rifau 175 ac 162, Pentre Nicklaus Village, Llanelli, SA15 2DF
|
[NODER: Datganodd y Cynghorydd Edward Skinner fuddiant personol yn yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried a chyn y pleidleisiwyd arni.]
Derbyniwyd sylwadau yn gwrthwynebu'r cais gan ailadrodd y pwyntiau a nodwyd yn adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a thynnu sylw at y pryderon ynghylch y bwriad i waredu'r gât i gerddwyr, a gâi ei defnyddio'n helaeth gan lawer o bobl, ac felly dylid ei symud i'r lleoliad newydd.
Yn dilyn y sylwadau, cynigiwyd nad oedd angen ymweliad safle gan fod y wybodaeth a gyflwynwyd gan swyddogion yn ddigonol, a chymeradwywyd y cynnig.
Ymatebodd yr Asiant a'r Uwch-swyddog Gorfodi a Monitro i'r materion a godwyd wrth i'r adroddiad gael ei ystyried.
|
PL/06289
|
Adeiladu 12 o breswylfeydd gyda seilwaith cysylltiedig ar dir i'r de o Barc Gitto, Llwynhendy, Llanelli, SA14 9LB
|
|
Oherwydd ymrwymiad arall, bu'n rhaid i'r Aelod lleol adael y cyfarfod cyn rhoddid ystyriaeth i'r eitem hon, felly darllenodd y Cadeirydd, yn ei habsenoldeb, sylwadau ysgrifenedig yn gofyn am ymweliad safle er mwyn ystyried draenio a llifogydd mewn eiddo yn yr ardal yn ddiweddar. Codwyd pryder ynghylch pwmpio d?r budr i'r orsaf bwmpio leol, nad oedd ar adegau yn gallu ymdopi â llif y d?r. Byddai dwy breswylfa ychwanegol yn cael rhagor o effaith ar allu'r orsaf bwmpio i ymdopi.
Yn dilyn cyflwyniad y swyddog ac ystyried y sylwadau, cynigiwyd peidio â mynd ar ymweliad safle a chafodd hynny ei gymeradwyo.
Ymatebodd yr Asiant a'r Uwch-swyddog Gorfodi a Monitro i'r materion a godwyd wrth i'r adroddiad gael ei ystyried.
|
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais cynllunio canlynol, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd i'w wrthod, oherwydd barnwyd bod y cais yn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
PL/04027 |
Preswylfa 3/4 ystafell wely Anghenion Lleol ar wahân, gyda 3 lle parcio, ffordd fewnol, gwella'r mynediad presennol i'r cae a gwaith safle cysylltiedig. Byddai'r cynigion hyn yn gofyn am newid defnydd o dir amaethyddol i breswylfa C3 ar dir gyferbyn â Sparrows Nest, Hendy-gwyn ar Daf SA34 0LG
|
Cafwyd sylwadau gan yr aelod lleol a gefnogai'r cais gan ddweud y byddai'r argymhelliad i wrthod y cais yn cosbi cwpwl ifanc lleol oedd am adeiladu eu dyfodol yn Hendy-gwyn ar Daf, a chan fod y cais yn cydymffurfio â'r gofyniad anghenion lleol, roedd yn siomedig bod y cais wedi ei wrthod achos ei faint. Mynegwyd pryderon ynghylch y cytundeb Adran 106 i reoli gwerthiant yr eiddo yn y dyfodol, a fyddai'n cosbi'r cwpwl ac yn effeithio ar werth yr eiddo ar y farchnad agored yn y dyfodol.
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu a'r Uwch-gyfreithiwr i'r materion a godwyd wrth i'r adroddiad gael ei ystyried.
Dywedodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu y byddai adroddiad yn cael ei ddwyn yn ôl i'r Pwyllgor a nodai'r amodau arfaethedig i'w cadarnhau.
|
Dogfennau ategol: