Agenda item

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2016/17

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r Adroddiadau Monitro ynghylch Cyllideb Refeniw a Chyllideb Cyfalaf yr Adran Addysg a Phlant ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/17 yn ôl y sefyllfa ar 30 Mehefin 2016. Hysbyswyd fod yr adroddiad yn dynodi y gallai fod gorwariant o £1.17m ar ddiwedd y flwyddyn yn y gyllideb refeniw a gwarged net o £5.275 yn y gyllideb gyfalaf.

 

Hysbysodd y Cyfrifydd Gr?p, mewn perthynas â’r gorwariant yn y gyllideb refeniw, fod hwnnw’n ymwneud yn bennaf â cholli swyddi ac ymddeoliadau gwirfoddol cynnar mewn ysgolion a oedd yn gyfanswm o tua £750,000. O ran y tanwariant yn y gyllideb gyfalaf, roedd hwnnw’n ymwneud â llithriannau o fewn y Rhaglen Moderneiddio Addysg oherwydd graddfeydd amser cynlluniau penodol, a byddai’n cael ei ddefnyddio dros oes y cynlluniau.

 

Codwyd y materion/cwestiynau canlynol mewn perthynas â’r adroddiad:

 

·         Cyfeiriwyd at y gorwariant rhagamcanol o £116,000 yng nghyllideb yr Uned Gofal Preswyl a Seibiant a gofynnwyd am eglurhad o’r sefyllfa honno.

 

Hysbysodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant fod darparu canolfannau preswyl i blant ag anghenion gofal arbennig wedi cael ei gynnig fel arbediad posibl pan oedd cyllideb 2016/17 yn cael ei hystyried ar y sail bod y gwasanaeth yn ymwneud yn bennaf ag angen meddygol, ac roedd teimlad y dylai’r Bwrdd Iechyd wneud cyfraniad mwy tuag at ddarparu’r gwasanaeth. Fodd bynnag, nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi bod yn rhoi’r cyfraniad mwy a oedd yn ddisgwyliedig, gan olygu bod y gwasanaeth yn rhagweld gorwariant ar ddiwedd y flwyddyn. Hysbysodd fod trafodaethau’n mynd rhagddynt yn barhaus gyda’r Bwrdd Iechyd ynghylch ei gyfraniad tuag at y gwasanaeth.

 

·         Cyfeiriwyd at y Rhaglen Moderneiddio Addysg a gofynnwyd cwestiwn am y sefyllfa ddiweddaraf o ran yr ysgol gynradd newydd arfaethedig ar gyfer Rhydaman. Hefyd, gofynnwyd a oedd hyn wedi cael ei roi ar yr agenda ar gyfer y tasglu adfywio newydd a oedd wedi’i sefydlu ar gyfer Rhydaman.

 

Hysbysodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant fod y sefyllfa yn Rhydaman yn gymhleth nid dim ond am fod y cynnydd sylweddol yn niferoedd y disgyblion dros y pedair blynedd ddiwethaf wedi gwneud y cynigion gwreiddiol yn amherthnasol, ond hefyd am fod anawsterau wedi codi o ran dod o hyd i safle addas ar gyfer yr ysgol newydd. Er gwaethaf yr anawsterau hynny, roedd darparu’r ysgol newydd yn dal i gael ei gyfrif yn un o flaenoriaethau’r Cyngor.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â’r gorwariant o £1,017m a ragwelir yn y gyllideb refeniw a goblygiadau cyllidebol posibl hynny ar gyfer darparu gwasanaethau, hysbysodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg a Phlant fod y sefyllfa wedi gwaethygu ers paratoi’r adroddiad, a bod y gorwariant a ragwelir wedi cynyddu i £1.4m. Dywedodd fod disgwyl i bob adran weithio o fewn y cyllidebau a ddyrannwyd iddynt, a bod yr Adran Addysg wedi gwneud hynny’n llwyddiannus iawn dros y blynyddoedd diwethaf, ond bod un pryder yn ymwneud â cholli swyddi ac ymddeoliadau gwirfoddol cynnar mewn ysgolion. Er mai ysgolion oedd yn gwneud y penderfyniad i ddileu swyddi staff yr ysgolion/ cynnig ymddeoliad gwirfoddol cynnar, roedd canlyniadau ariannol hynny’n cael eu hysgwyddo’n gyfan gwbl gan y Cyngor Sir, ac roedd disgwyl i hynny gostio £750,000 i’r Cyngor yn y flwyddyn gyfredol, a oedd yn ostyngiad bach o’i gymharu â’r gost o £1m yn 2015/16.

 

Er mwyn mynd i’r afael â’r gorwariant hwnnw, roedd yr adran yn archwilio’i chyllideb mewn ymgais i ddwyn arbedion pellach a oedd yn cynnwys lleihau gwasanaethau a pheidio â llenwi swyddi gwag staff lle bynnag y bo’n bosibl gan roi sylw ar yr un pryd i’w dyletswyddau statudol. Ar ôl ystyried yr opsiynau a oedd ar gael, os oedd yr adran yn methu â mynd i’r afael â’r gorwariant naill ai’n llawn neu’n rhannol, y Cyngor oedd yn ysgwyddo’r baich ariannol canlyniadol. 

 

·         Cyfeiriwyd at y rhaglen gyfalaf ac at ymweliadau gan y Pwyllgor ag ysgolion yn y Sir a arweiniodd at wneud argymhellion ynghylch gwaith y dylid ei wneud i ysgolion penodol, e.e. Ysgol Gynradd yr Hendy. Gofynnwyd am eglurhad o’r broses ar gyfer cynnwys y gwaith hwnnw yn y rhaglen.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod swyddogion yn monitro’r Rhaglen Moderneiddio Addysg yn gyson ac yn cyflwyno adroddiadau bob chwe mis i’r Bwrdd Gweithredol. O ran y sefyllfa yn Ysgol yr Hendy, er bod yr Adran yn dal y gyllideb gyfalaf ar gyfer y Rhaglen Moderneiddio Addysg, roedd hefyd yn gweithredu cyllideb cynnal a chadw o £1m i sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei rwymedigaethau fel landlord gyda gwaith yn cael ei wneud ar sail blaenoriaeth gydag Iechyd a Diogelwch yn brif flaenoriaeth. Er bod peth o’r gwaith a oedd yn cael ei argymell ar gyfer Ysgol yr Hendy wedi cael ei gyllido o’r gyllideb cynnal a chadw, nid oedd wedi bod yn bosibl gwneud yr holl waith a phe bai angen gwneud gwaith pellach, yna gallai’r Cyngor wneud addasiadau i’r Rhaglen Moderneiddio Addysg i gyllido’r costau, a fyddai’n arwain at oedi gyda rhai cynlluniau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: