Cofnodion:
3.1 PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
PL/04067 |
Adeiladu 14 o breswylfeydd fforddiadwy (safle eithriedig) gyda gwaith seilwaith cysylltiedig ar dir ger Heol Cilycwm, Llanymddyfri, SA20 0DU |
PL/06479 |
Datblygiad Un Blaned yn cynnwys un caban, un storfa goed, un gweithdy gwehyddu, un t? gwydr a gweithdy, un sied storio, arae o baneli solar, llain lysiau gan gynnwys cawell ffrwythau, perllan, dwy goedlan, gwely helyg a dôlar dir gyferbyn â Th? Derwen, Penybanc, Llandeilo, SA19 7TA |
PL/06651
|
Newid defnydd tafarndy presennol yn breswylfa yn Nhafarny Deri, Heol Ebenezer, Llanedi, Abertawe, SA4 0YT |
|
Yn dilyn cyflwyniad gan yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cafwyd sylwadau gan yr Aelod lleol a wrthwynebai'r cais ac a ail-bwysleisiai'r pwyntiau yn adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd, gan gynnwys y pwyntiau isod:
· Roedd Tafarn y Deri yn fusnes llewyrchus. ·Roedd y safle yn cael ei feddiannu gan deulu a oedd yn rheoli'r dafarn ac a oedd yn lletya ac yn annog grwpiau elusennol lleol. · Byddai newid y lle'n breswylfa yn golled fawr i'r pentref, a oedd yn llwyr gefnogi Tafarn y Deri. · Roedd yn darparu cyflogaeth i bobl ifanc leol.
Ymatebodd y swyddogion i'r materion a godwyd.
|
3.2 PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â rhan ogleddol safle'r cais.
PL/05187 |
Codi preswylfeydd newydd, mynediad i gerbydau, mannau agored a seilwaith cysylltiedig arall ar dir yn ,Cefncaeau, Llanelli |
3.3 PENDERFYNWYD gwrthod y cais cynllunio canlynol am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
PL/06529 |
Annedd Angen Lleol (Ailgyflwyno PL/04500 a wrthodwyd ar 18/10/2022) ar dir yn Old Hunt Kennels, Llandybïe, Rhydaman, SA183NX |
|
Yn dilyn cyflwyniad gan yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell gwrthod y cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol yn cefnogi'r cais a oedd yn cynnwys y pwyntiau canlynol:
· Pryderon y byddai methiant ar ran yr Awdurdod i ddarparu cartrefi a gwaith i bobl leol yn cael effaith ar yr ardal leol. · Dim ond ychydig y tu allan i ardal y Cynllun Datblygu Lleol oedd y safle datblygu ac roedd mewn ardal oedd eisoes ag adeiladau. · Roedd yr ymgeiswyr yn cefnogi'r economi leol a phe baent yn cael eu gorfodi i symud byddai hynny'n cael effaith ar yr ardal.
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r pwyntiau a godwyd.
|
PL/06880
|
Adeiladu annedd (Ailgyflwyno PL/05554 a wrthodwyd ar 14/08/2023) ar dir yn 60 Heoly Felin, Pontyberem, Llanelli, SA155DB |
|
Yn dilyn cyflwyniad gan yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell gwrthod y cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol yn cefnogi'r cais a oedd yn cynnwys y pwyntiau canlynol:
· Bod y cais ar gyfer t? cymharol fach ei faint o fewn gardd gefn fawr. · Ni fyddai'r datblygiad yn effeithio'n andwyol ar amwynder tai cyfagos. · Roedd sawl enghraifft eisoes o dai cyfagos oedd wedi eu hadeiladu'r tu ôl i'r tai oedd yn wynebu Heol y Felin. · Roedd y datblygiad yn bwysig o ran cadw teulu ifanc yn y gymuned.
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r pwyntiau a godwyd. |
Dogfennau ategol: