Agenda item

DATGANIAD CYFRIFON CYNGOR SIR GAERFYRDDIN 2022/23

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Datganiad Cyfrifon 2022/23 ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin, a oedd wedi'i baratoi yn unol â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'u diwygiwyd yn 2018). Dywedwyd, yn sgil cyflwyno'r safon archwilio ddiwygiedig (ISA 315 (UK) ac oedi o ran cwblhau rhai cyfrifon 2021/22, y dyddiad cau statudol ar gyfer cyfrifon 2022/23 wedi'u harchwilio wedi'i ymestyn i 30 Tachwedd 2023.

 

Rhoddwyd trosolwg i'r Pwyllgor o'r pwyntiau amlwg yn y Datganiad Cyfrifon a oedd yn crynhoi sefyllfa ariannol yr Awdurdod ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023, ac a oedd yn cynnwys y diwygiadau y cytunwyd arnynt gydag Archwilio Cymru fel rhan o'i archwiliad. 

 

Mewn perthynas â Chronfa'r Cyngor, cadarnhawyd nad oedd unrhyw newidiadau wedi'u gwneud i gronfa wrth gefn y Gronfa Gyffredinol na balans y Cyfrif Refeniw Tai ar ddiwedd y flwyddyn. Fodd bynnag, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod archwilio wedi nodi gwariant cyfalaf o £1.058m a dalwyd ym mis Ebrill 2023 oedd yn ymwneud â 2022/23 ac felly roedd angen addasu'r gwariant cyfalaf a gostyngiad cysylltiedig yng Nghronfeydd wrth Gefn Neilltuedig y Cyngor.

 

Cyfeiriwyd hefyd at y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023 a fyddai'n cyd-fynd â'r Datganiad Cyfrifon i ddangos cydymffurfiaeth yr Awdurdod â fframwaith CIPFA a SOLACE a'i saith egwyddor graidd o lywodraethu da.  Mewn diweddariad i'r Pwyllgor, dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol fod mân addasiad wedi'i wneud ers dosbarthu dogfennau'r cyfarfod, i'r ffigurau sy'n ymwneud â nifer yr achosion o dorri rheolau data personol a digwyddiadau seiberddiogelwch a nodir yn adran 3.3.7.4 o'r ddogfen.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol yn falch o adrodd, er gwaethaf cefndir yr hinsawdd macro-economaidd bresennol, fod statws ariannol cyffredinol yr Awdurdod wedi cael ei gynnal ar lefel ddarbodus.  I grynhoi, diolchodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol i Bennaeth y Gwasanaethau Ariannol a'i dîm am eu gwaith rhagorol i baratoi'r Datganiad Cyfrifon.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:-

 

Cyfeiriwyd at y gyllideb refeniw yn manylu ar y gwariant adrannol yn ystod y cyfnod adrodd.  Yng ngoleuni'r gorwariant sylweddol a adroddwyd ar gyfer gofal cymdeithasol, gwasanaethau plant ac ysgolion, pwysleisiodd y Pwyllgor yr angen i fod yn wyliadwrus o'r rhesymau sylfaenol dros y gorwariant, a chroesawodd y camau a eglurwyd oedd yn cael eu cymryd gan yr Awdurdod yn hyn o beth.

 

Tynnwyd sylw at y Cyfrif Refeniw Tai lle codwyd pryderon mewn perthynas â'r cynnydd mewn ôl-ddyledion rhent tenantiaid, gyda pherfformiad yr Awdurdod y tu hwnt i ymyl yr hyn a ystyriwyd yn lefel arfer dda. Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol at effaith pandemig y coronafeirws ar lefel ôl-ddyledion tenantiaid presennol a rhoddodd grynodeb o reolaeth a pherfformiad ôl-ddyledion rhent yr Awdurdod yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a oedd wedi gwella ers 2021 ac a oedd yn ffafriol o gymharu ag Awdurdodau eraill.

 

Cyfeiriwyd at y wybodaeth gamarweiniol ddiweddar a ddyfynnir yn y wasg a'r cyfryngau mewn perthynas â sefyllfa gyllidebol yr Awdurdod. Eglurodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod yr amrywiant yn sefyllfa Alldro Rhaglen Gyfalaf yr Awdurdod, ar y cyfan, yn gysylltiedig yn bennaf i faterion a oedd wedi arwain at lithriad ar gyfer prosiectau parhaus.  Yn unol â hynny, rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol sicrwydd i'r Pwyllgor y byddai'r Awdurdod yn ceisio cywiro unrhyw gamddehongli gwybodaeth.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod adolygiad blynyddol o'r cynllun busnes tai a'r gyllideb wedi'i gynnal fel rhan o waith monitro'r Awdurdod o'i stoc dai a'i gostau cynnal a chadw cysylltiedig, a ddiweddarwyd i adlewyrchu cost gynyddol deunyddiau a llafur.

 

Mewn diweddariad i'r Pwyllgor yn dilyn ymholiad ynghylch dyfarniad cyflog athrawon, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod hysbysiad wedi dod i law yn ddiweddar y byddai'n ofynnol i Awdurdodau Lleol ddarparu ar gyfer y dyfarniadau cyflog athrawon o fewn cynigion y gyllideb o hyn ymlaen.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

3.1.1

cymeradwyo Datganiad Cyfrifon 2022/23 wedi'i archwilio ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

3.1.2

cyflwyno adroddiad i gyfarfod o'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn y dyfodol sy'n nodi rheolaeth yr Awdurdod o ôl-ddyledion tai tenantiaid, i gynnwys ffigurau cymharol gydag Awdurdodau eraill.

 

Dogfennau ategol: