Agenda item

ADRODDIAD ADRANNOL DIWEDD BLWYDDYN AR REOLI PERFFORMIAD - 1AF O EBRILL 2015 HYD AT 31AIN O FAWRTH 2016

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Adroddiad Diwedd Blwyddyn ynghylch Rheoli Perfformiad ar gyfer y gwasanaethau oedd yn ei gylch gwaith am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2016. Roedd yr adroddiad yn cynnwys:

 

·        Golwg Gyffredinol ar y Perfformiad gan Benaethiaid y Gwasanaethau

·        Monitro’r Cynllun Gwella – Camau Gweithredu a Mesurau Perfformiad

·        Monitro Cwynion a Chanmoliaeth

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mewn ymateb i gwestiwn am y cymorth cyfreithiol ar gyfer Panel Heddlu Dyfed-Powys, atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith bod aelodaeth y Panel hwn yn cynnwys cynghorwyr sir o'r awdurdodau lleol perthnasol yn ardal Heddlu Dyfed-Powys, a bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn darparu cyngor cyfreithiol annibynnol i'r Panel hwn.

 

Cyfeiriwyd at yr £20m a gafodd ei fenthyg yn ystod 2015/16 er mwyn cefnogi'r rhaglen gyfalaf, a gofynnwyd pam cafodd y ffigur hwn ei fenthyg er bod aelodau etholedig wedi cael gwybod yn y gorffennol bod y cyfanswm hwn ar gael o fewn y cronfeydd presennol. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wrth y Pwyllgor fod hwn yn gysylltiedig â llif arian, a byddai'n gallu darparu esboniad manwl yn ystod ystyried Eitem 11. 

 

Gofynnwyd a oedd swyddogion yn hyderus y byddent yn sicrhau derbyniadau cyfalaf yn yr hinsawdd ariannol bresennol, wrth ystyried mai 75% yn unig o darged 2015/16 a oedd wedi'i gyrraedd. Atgoffwyd y Pwyllgor gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau er bod ansicrwydd ar hyn o bryd, nid oedd yr un ymrwymiad cyfreithiol o ran y rhaglen gyfalaf y tu hwnt i flwyddyn ariannol 2016/17. Ychwanegodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) er bod y banciau'n parhau i fenthyg i ddatblygwyr, roedd llawer hyd at y cyfnod hwn wedi edrych am gymorth ariannol gan awdurdodau lleol a chyllid gan yr UE. Dywedodd y Pennaeth Eiddo wrth y Pwyllgor, er nad oedd targed y flwyddyn flaenorol wedi'i gyrraedd, ar gyfartaledd dros y blynyddoedd diwethaf roedd lefel y derbyniadau cyfalaf mewn gwirionedd yn uwch.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cost posibl cynnal hen adeiladau'r Cyngor, dywedodd y Pennaeth Eiddo wrth y Pwyllgor fod cynllunio rheoli asedau yn waith parhaus a byddai'r Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol newydd yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol. Er bod yr Awdurdod yn cadw nifer o adeiladau h?n, roedd rhaglen gynnal a chadw parhaus ar waith i sicrhau bod adeiladwaith a strwythur yr adeiladau hyn yn cael eu cynnal. Roedd gwaith gwelliant, er enghraifft, wedi cael ei gwblhau yn ddiweddar yn Nh? Elwyn, Llanelli ac roedd gwaith ar fin dechrau ar Adeiladau'r Cyngor yn Llandeilo. Roedd y swyddogion hefyd yn monitro defnydd swyddfeydd yn rheolaidd er mwyn sicrhau'r defnydd mwyaf effeithlon o gyfleusterau swyddfa ledled y Sir.

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch pa fuddion cymunedol a fyddai o bosibl yn cael eu darparu fel rhan o'r ymarferion caffael. Dywedodd y Pennaeth Archwilio, Risg a Chaffael wrth y Pwyllgor fod swyddogion yn ceisio canfod y manylion o ran buddion cymunedol gan y cyflenwr neu'r darparwr fel rhan o'r ymarferion caffael, boed o dan neu dros £1 miliwn. Un enghraifft oedd y datblygiad presennol ar Ffordd Gyswllt Gorllewin Caerfyrddin lle mae golygfan wedi'i gosod er mwyn rhoi'r cyfle i ddisgyblion o ysgolion cyfagos i weld y gwaith adeiladu ac annog diddordeb mewn pynciau megis peirianneg ac adeiladu. Cytunodd y byddai'n cadarnhau'r hyn oedd y buddion cymunedol (sy'n gysylltiedig â'r cwmnïau bysiau) y cyfeiriwyd atynt yn Adroddiad B (Gweithred 11645) a chylchredeg y manylion i'r Pwyllgor. 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y ffaith bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers 3 awr. Felly, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Rheolau Sefydlog yn cael eu rhoi o'r neilltu dros dro er mwyn gallu ystyried yr eitemau oedd yn weddill ar yr agenda.

 

 

 

Dogfennau ategol: