Agenda item

CYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG - YMATEB YMGYNGHORIAD 2016/17

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i ddiweddariad 2015 o’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) a gymeradwywyd yn wreiddiol gan Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2014. Atgoffwyd y Pwyllgor ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi a chyflwyno Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) i gael ei gymeradwyo neu ei addasu gan Weinidogion Cymru ac y dylid adolygu’r rhain yn flynyddol. Nododd yr Aelodau nad oedd unrhyw newidiadau wedi bod i’r saith deilliant gwreiddiol heblaw am integreiddio anghenion yr economi leol fel rhan o’r Cynllun. 

 

Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor, o ran cydymffurfio â’r gofyniad yn Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013 i adolygu ei Gynllun yn flynyddol (h.y. adolygiad o’r cynnydd wrth fynd ar drywydd y targedau a nodir yn y Cynllun), bod peth dryswch wedi bod mewn perthynas â’r gofyniad i ymgynghori ynghylch y fersiwn ddiwygiedig o’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Roedd swyddogion Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod yn ddiweddarach ei bod yn ofynnol ymgynghori ynghylch y fersiwn ddiwygiedig o’r Cynllun hefyd ac felly fe gynhaliodd yr Awdurdod gyfnod ymgynghori rhwng 29 Mawrth a 12 Mai 2016. Cafwyd cyfanswm o 16 o ymatebion ac roedd dadansoddiad wedi’i gynnwys yn yr adroddiad a oedd wedi’i atodi.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried y Cynllun diwygiedig:

 

Roedd y cynnydd tuag at gyrraedd y targedau a oedd wedi’u nodi yn y Cynllun gwreiddiol yn cael ei groesawu ond yng ngoleuni’r llu o dargedau heriol a’r graddfeydd amser tynn, gofynnwyd faint o gynnydd pellach ellid ei gyflawni. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant ei fod yn croesawu’r sylw a’i fod yn cydnabod bod y targedau yn heriol yn wir a bod ffactorau eraill yn aml yn dylanwadu arnynt. Er enghraifft, roedd newid categorïau iaith ysgolion yn golygu ei bod yn ofynnol i’r Awdurdod ymlynu wrth brosesau statudol ac roedd y rhain yn aml yn digwydd dros gyfnod hwy. Ychwanegodd hefyd fod 10 ysgol â dwy ffrwd yn Sir Gaerfyrddin a nid 6 fel a oedd wedi’i nodi yn y Cynllun Gweithredu (Adran 2).

 

Awgrymwyd fod cynnydd gyda Chynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ledled Cymru wedi bod yn weddol siomedig ar y cyfan ac y gallai’r gofyniad ar gyfer strategaeth arall a fformat y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg fod wedi cyfrannu at yr ymateb araf gan awdurdodau lleol eraill o ran datblygu eu cynlluniau eu hunain. Cynigiwyd fod yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol (Addysg a Phlant) yn lobïo Llywodraeth Cymru a oedd newydd ei sefydlu ac yn gofyn am ymgorffori Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn strategaethau corfforaethol presennol awdurdodau lleol, yn hytrach na’u bod yn cael eu hystyried yn ddogfennau ar wahân. Roedd y Pwyllgor yn cytuno â’r cynnig hwn.     

 

Cyfeiriwyd at Ganolfannau Iaith yr Awdurdod a’r ffaith bod pennaeth ysgol, yn ystod ymweliadau’r Pwyllgor ag ysgolion yn gynharach yr wythnos honno, wedi awgrymu wrth Aelodau nad oedd y gwasanaeth hwn yn ddigonol i gefnogi dysgwyr. Awgrymwyd hefyd y dylai’r prosiect gorsafoedd iaith sicrhau nid dim ond bod hanes Cymru’n cael ei addysgu ond bod dysgwyr yn cael eu haddysgu hefyd am y frwydr yr oedd y Gymraeg wedi’i hwynebu dros y blynyddoedd. Rhoddodd yr Ymgynghorydd Her wybod i’r Pwyllgor bod swyddogion yn parhau i ystyried modelau eraill a ddefnyddir mewn siroedd eraill trwy addasu trefn Sir Gaerfyrddin i fod yn fwy hyblyg ac addasadwy i heriau lleol. Un opsiwn cyfredol oedd annog ysgolion i weithio mewn clystyrau lleol oherwydd natur ddaearyddol y sir. Fodd bynnag, roedd costau sy’n gysylltiedig â’r gwasanaeth (e.e. cludiant) yn broblem a byddai mabwysiadu modelau Ceredigion / Gwynedd yn galw am fuddsoddiad sylweddol. Cadarnhaodd hefyd fod hanes y Gymraeg wedi’i gynnwys yn y prosiect gorsafoedd iaith.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch datblygu llyfryn i hyrwyddo manteision dwyieithrwydd, cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Her fod y rhain wedi cael eu cyhoeddi a’u bod ar gael ar wefan y Cyngor Sir. 

 

Cyfeiriwyd at Weithgor y Cyfrifiad a oedd wedi argymell bod ‘y Cyngor Sir yn sicrhau bod ysgolion cynradd Cymraeg yn rhan o deulu o ysgolion uwchradd a allai ddarparu continwwm ieithyddol priodol o’r sector cynradd i CA3 a CA4’. Fodd bynnag, awgrymwyd nad oedd hyn yn bosibl o hyd i rai disgyblion sy’n gadael ysgolion cynradd Cymraeg ac yn symud i ysgolion uwchradd yn ardal Llanelli. Nododd yr Ymgynghorydd Her fod y Cynllun yn ‘disgwyl’ yn hytrach nag yn ‘mynnu’ bod ysgolion uwchradd yn cynnig y ddarpariaeth hon. Roedd hyn wedi bod yn her ac yn dilyn gostyngiad cychwynnol yn nifer y disgyblion sy’n mynd i mewn i ffrydiau Cymraeg, roedd y nifer hwn wedi cael ei gynyddu unwaith eto. Mewn ymateb i sylw pellach, rhoddodd yr Ymgynghorydd Her wybod i’r Pwyllgor bod cryn dipyn o waith wedi cael ei wneud gyda disgyblion a rhieni a bod y Siarter Iaith i Ysgolion wedi bod yn arbennig o lwyddiannus a bod gweithgareddau sy’n gysylltiedig â hon yn boblogaidd ymhlith plant o oedran iau.  

 

Gofynnwyd a allai ysgolion â lleoedd gwag newid eu categorïau oedran i 3-11 o 4-11 er mwyn rhoi hwb i’r niferoedd. Datganodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant y byddai swyddogion yn croesawu hyn ond nad oedd yn bosibl ym mhob ysgol yn anffodus, gyda cyfyngiadau o ran adeiladau a chyfyngiadau ariannol yn cael eu henwi fel y ddau brif rwystr. Roedd yr ysgolion yr oedd eu categorïau oedran yn cael eu newid ar hyn o bryd wedi’u lleoli mewn ardaloedd a oedd yn derbyn rhaglenni cenedlaethol megis Dechrau’n Deg. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

8.1       Y dylai’r fersiwn ddiwygiedig o Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin gael ei chymeradwyo i gael ei hystyried gan y Bwrdd Gweithredol.

 

8.2       Y dylid gofyn i’r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol (Addysg a Phlant) lobïo Llywodraeth Cymru a gofyn am ymgorffori Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn strategaethau corfforaethol presennol awdurdodau lleol, yn hytrach na’u bod yn cael eu hystyried yn ddogfennau ar wahân.      

 

 

Dogfennau ategol: