Agenda item

Y DIWEDDARAF AM Y RHWYDWAITH DYSGU 11-19

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn nodi canfyddiadau’r Adolygiad o’r Cwricwlwm 11-19 yn Sir Gaerfyrddin. Hysbyswyd yr Aelodau fod yr Awdurdod Lleol a Choleg Sir Gâr wedi comisiynu’r adolygiad ar y cyd gan fod y ddau sefydliad o’r farn bod angen dull strategol cyffredin o ddarparu addysg a hyfforddiant 11-19 yn Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol. Roedd yr argymhellion yn yr adroddiad yn nodi’r camau gweithredu a oedd yn ofynnol i weithredu’r cwricwlwm newydd a sicrhau bod pobl ifanc yn cael addysg dda ac yn cael eu paratoi’n addas ar gyfer y cyfnod nesaf yn eu bywydau.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Cyfeiriwyd at Adroddiad Blynyddol ESTYN yn 2015 a oedd yn amlygu rôl ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol o ran cydweithio i ddatblygu cwricwlwm sy’n berthnasol i ddysgwyr a sectorau allweddol yr economi leol a gofynnwyd hefyd beth oedd y raddfa amser debygol ar gyfer y cydweithio hwn. Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod i’r Pwyllgor hefyd y rhagwelir y byddai’r trefniadau hyn yn weithredol erbyn 2021, gan gyd-daro â’r broses o gyflwyno’r cwricwlwm cenedlaethol newydd. 

 

Awgrymwyd hefyd fod llawer o ysgolion uwchradd yn teimlo’n bryderus ynghylch colli disgyblion i Goleg Sir Gâr a gofynnwyd sut y gellid rhoi’r cynigion hyn ar waith heb greu cystadleuaeth rhwng darparwyr ac a fyddai’r cyrsiau a gynigir gan y Coleg ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg? Rhoddodd y Rheolwr Trawsnewid Dysgu wybod i’r Pwyllgor fod yr Awdurdod Lleol a Choleg Sir Gâr yn gweld addysg ôl-16 yn Sir Gaerfyrddin fel darpariaeth economi-gymysg. Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor hefyd fod colegau addysg bellach dan fwy o bwysau gan Lywodraeth Cymru i ddarparu mwy o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg a bod Coleg Sir Gâr yn gweithio tuag at hyn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant mai nod yr adolygiad hwn a’r argymhellion a oedd yn deillio ohono oedd cael gwared ar unrhyw ymdeimlad o gystadleuaeth rhwng darparwyr a sicrhau bod pobl ifanc yn cael cynnig y ddarpariaeth orau. Roedd yn cydnabod pryderon dilys ysgolion ond pwysleisiodd fod perthynas ardderchog yn bodoli rhwng yr Awdurdod a Choleg Sir Gâr o ran darpariaeth ôl-16. Fodd bynnag, dywedodd na fyddai’r un coleg nac ysgol uwchradd yn gallu cynnig pob pwnc posibl neu gyfuniad posibl o bynciau yn y dyfodol a’i bod felly’n hanfodol bod sefydliadau’n gweithio mewn partneriaeth.

 

Roedd yr Aelodau’n croesawu’r adroddiad a’r cyd-destun ac er bod y rhestr o’r holl strategaethau perthnasol, yn rhai blaenorol a phresennol, yn cael ei gwerthfawrogi hefyd, roedd teimlad y byddai cynnwys mwy o ddata ynghylch cyrchfannau pobl ifanc ar ôl addysg lawn-amser orfodol wedi bod o fudd (e.e. y rhai sy’n mynd ymlaen i’r brifysgol, colegau addysg bellach neu’r rhai sy’n dod yn bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)). Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Dysgu ei fod yn croesawu’r sylwadau a bod data o’r fath ar gael yn rhwydd, ac y byddai’n hapus i gyflwyno gwybodaeth o’r fath i’r Aelodau mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Mynegwyd siom, er ei fod yn pwysleisio pwysigrwydd materion economaidd a chymdeithasol, nad oedd sylwadau na ffocws clir ar y Gymraeg yn yr adroddiad ac nad oedd cyfeiriad at yr iaith mewn unrhyw un o’r argymhellion. Rhoddodd y Pennaeth Rhaglenni Dysgwyr sicrwydd i’r pwyllgor bod y Gymraeg yn ystyriaeth flaenllaw iawn yn y gwaith hwn a’i bod wedi cael lle amlwg yn y cyd-destun polisi cyffredinol ar gyfer yr adolygiad hwn. O safbwynt cenedlaethol, nododd fod un o wythconglfaen’ Donaldson yn cynnwys rhoi lle teilwng i’r Gymraeg o fewn y cwricwlwm ac, ar lefel leol, fod Partneriaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg 14-19 y Sir yn hyrwyddo ac yn cefnogi’r iaith yn y sector addysg. Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor hefyd fod gan Goleg Sir Gâr bellach swyddog datblygu’r Gymraeg a oedd yn gweithio’n frwd gyda’r Coleg i hybu defnydd o’r iaith. Cyfeiriodd y Pennaeth Rhaglenni Dysgwyr hefyd at argymhelliad 10 yn yr adroddiad a oedd yn cynnig bod yr Awdurdod Lleol, Coleg Sir Gâr a’r bartneriaeth ddysgu ehangach yn ‘gweithredu rhaglen o ddysgu cyfunol ac e-ddysgu i ddarparu’r cwricwlwm 16-19 mewn pynciau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch nad oes llawer o ddysgwyr yn eu dewis yn Gymraeg ac yn Saesneg (o fis Medi 2017)’. Eglurodd fod gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu pecyn dysgu hyblyg a allai alluogi disgyblion i ddilyn cwrs penodol trwy gyfrwng y Gymraeg, hyd yn oed os mai ychydig o alw oedd amdano o safbwynt niferoedd. Gellid gwneud hyn mewn partneriaeth gyda darparwyr eraill a chan ddefnyddio technoleg ar-lein er enghraifft. Ychwanegodd y Rheolwr Trawsnewid Dysgu y gellid diwygio’r adroddiad yng ngoleuni sylwadau’r Pwyllgor.  

 

Gofynnwyd sut yr oedd disgwyl i ysgolion gadw golwg ar yr holl wahanol strategaethau (fel a nodir yn yr adroddiad) a sicrhau eu bod yn ateb y gwahanol ofynion a osodir arnynt gan Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol, yn enwedig gan fod y cwricwlwm yn cael ei newid a’i ddiwygio’n gyson. Roedd y Rheolwr Trawsnewid Dysgu yn cydnabod bod hwn yn bwynt dilys a’i fod yn amlygu rôl allweddol yr Awdurdod o ran cynorthwyo a chefnogi ysgolion i weithredu’r holl strategaethau hyn. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod cryn rwystredigaeth wedi bod yn y gorffennol gan fod ysgolion yn aml wedi bod yn gweithredu ar wahân. Fodd bynnag, roedd y cwricwlwm newydd yn cynnig cyfle i greu cyfundrefn addysg gydlynol ar gyfer yr holl ysgolion ond roedd mewnbwn gan yr ysgolion eu hunain yn elfen allweddol o ddatblygu’r broses hon.

 

Gofynnwyd am eglurhad o rôl Dinas-ranbarth Bae Abertawe a pha gydweithio oedd yn digwydd gyda phartneriaid eraill. Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Dysgu, ar lefel leol, fod swyddogion yn yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant yn cydweithio’n agos gyda chydweithwyr yn yr Is-adran Adfywio a Pholisi ar faterion megis cynlluniau Byd Gwaith / gyrfaoedd. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod yr Awdurdod yn gweithio ar sail ranbarthol a chydnabu fod Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn dod yn fwyfwy pwysig wrth iddo geisio ysgogi a diffinio economi’r ardal gyfan. Roedd yn bwysig bod yr Awdurdod yn ymwybodol o’r mathau o sgiliau y byddai ar yr economi ranbarthol eu hangen yn y dyfodol a bod plant a phobl ifanc yn cael eu paratoi ar gyfer swyddi’r dyfodol. Ychwanegodd fod hon yn rôl allweddol i’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol, un o is-grwpiau’r Dinas-Ranbarth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am gyllid ar gyfer ysgolion, rhoddodd y Rheolwr Trawsnewid Dysgu wybod i’r Pwyllgor bod Llywodraeth Cymru, ym mis Medi 2014, wedi gweithredu system cynllunio a chyllido newydd ar gyfer addysg ôl-16 yn y chweched dosbarth mewn ysgolion. Roedd y system newydd yn cysoni dyraniadau cyllid ar gyfer y chweched dosbarth mewn ysgolion â’r trefniadau ar gyfer Colegau Addysg Bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith. O fis Medi 2016, fodd bynnag, roedd Llywodraeth Cymru bellach yn cynnig y byddai cyllid yn seiliedig ar raglenni dysgu yn hytrach na chymwysterau, gyda diben diffiniedig ar gyfer pob rhaglen ynghyd â chanlyniad y gellir ei ddefnyddio i fonitro’r rhaglen. Roedd hyn bellach yn golygu ei bod yn ofynnol i’r Awdurdod Lleol flaengynllunio yn ogystal â chydgysylltu’r broses o gyflwyno darpariaeth chweched dosbarth, sicrhau bod camau’n cael eu cymryd i osgoi dyblygu darpariaeth a bod cyrsiau a ddarperir yn cyflawni blaenoriaethau economaidd lleol a rhanbarthol. Roedd swyddogion wedi bod yn gwneud gwaith paratoi gydag ysgolion uwchradd i baratoi ar gyfer y system gyllido newydd. Rhoddodd wybod i’r Pwyllgor bod yr Awdurdod, yn ystod y cyfnod pontio, yn defnyddio model cyllido sy’n seiliedig ar niferoedd disgyblion a chodiadau yn y cyllid ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg, ardaloedd tenau eu poblogaeth ac ardaloedd gwledig, ffactorau a oedd wedi cael eu cytuno gyda phenaethiaid yr ysgolion uwchradd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y byddai’r Adolygiad o’r Cwricwlwm 11-19 yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei gymeradwyo i gael ei ystyried gan y Bwrdd Gweithredol.

Dogfennau ategol: