Cofnodion:
[SYLWER: Yr oedd y Cynghorwyr H.I. Jones, K. Madge, E. Morgan a J. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ac yn cael cyflwyniad oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith oedd yn cael ei wneud yn y sir i estyn cefnogaeth i ofalwyr di-dâl.
Eglurwyd bod 24,000 o ofalwyr di-dâl yn Sir Gaerfyrddin, a bod bron 10,000 ohonynt yn gwneud gwaith gofalu am hyd at 50 o oriau'r wythnos, a hyd yn oed fwy na hynny. Dywedwyd bod y cyfraniad at yr economi leol yn y rhanbarth yn sylweddol.
Eglurwyd bod ffrwd waith ranbarthol, a oedd wedi'i datblygu o dan y Strategaeth Gwybodaeth ac Ymgynghori ar gyfer Gofalwyr (y cyfeirir ati'n gyffredinol fel y Mesur ar gyfer Gofalwyr), wedi bod yn weithredol ers tair blynedd, a bod y strategaeth yn cyrraedd ei chyfnod olaf yn 2016. Yr oedd Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid er mwyn helpu i drosglwyddo'r mentrau strategol o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant newydd am ddwy flynedd arall ar gyfradd ychydig yn llai (5% yn llai bob blwyddyn). Byddai'r cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio'n bennaf i gynnal gwaith y Rhaglen Buddsoddwyr mewn Gofalwyr.
Yn unol â'r gofynion i lunio adroddiad blynyddol ynghylch y cynnydd yn y rhanbarth ac ynghylch gweithredu'r Mesur ar gyfer Gofalwyr, gofynnwyd i'r Pwyllgor gymeradwyo'r fersiwn drafft o'r Adroddiad Blynyddol ynghylch y Mesur ar gyfer Gofalwyr er mwyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Yr oedd Cynllun Gweithredu Gofalwyr Sir Gaerfyrddin wedi ei lansio ar ddiwedd 2014 gan dargedu camau gweithredu o ran y Strategaeth Gofalwyr Genedlaethol. Ymhlith y themâu yr oedd Iechyd a Lles Gofalwyr, Gofalwyr a Chyflogaeth, Bywyd y Tu Hwnt i Ofalu, Gofalwyr ifanc a Gofalwyr sy’n Oedolion Ifanc, a bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad monitro ynghylch pob ffrwd gweithgarwch.
Hefyd bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Strategol Sir Gaerfyrddin ynghylch Gofalwyr 2015/16.
Nodwyd y gallai peidio â chydnabod neu gefnogi gofalwyr di-dâl roi bod i'r canlyniadau canlynol:-
- lleihad o ran nifer y gofalwyr/perthnasau sy'n fodlon ymgymryd â rôl ofalu;
- canlyniadau gwael o ran iechyd pobl sy'n ymgymryd â rôl ofalu:
- mynd yn groes i Hawliau Dynol a'r Ddeddf Cydraddoldeb.
Gallai'r canlyniadau hyn beri bod costau cynyddol i'r cyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol.
Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
- mynegwyd pryder gan ddweud bod angen i Lywodraeth Cymru sylweddoli bod yn rhaid i'r cyllid barhau, ac awgrymwyd y gellid cysylltu â'r Aelodau Cynulliad yn rhanbarth Dyfed-Powys er mwyn rhoi sylw i'r pryderon hyn;
- gan ymateb i gwestiwn ynghylch y taliadau oedd ar gael i ofalwyr di-dâl, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor taw'r Lwfans Anabledd oedd y prif fudd-dâl; fodd bynnag nid oedd y budd-dâl hwnnw'n cael ei dalu ar ôl cyrraedd oedran ymddeol sef, yn anffodus, pryd mae'r gofalu'n cychwyn yn achos rhai pobl. Yr oedd mater taliadau i bobl ifanc yn un anodd iawn gan na allwch, yn ôl y gyfraith, ddechrau gweithio hyd nes eich bod yn 16. Felly yr oedd swyddogion yn rhoi sylw i drefniant bancio amser o ran hyn.
- cyfeiriwyd at bwysigrwydd cyplysu'r mater hwn â thai gan fod cartrefi llawer o bobl oedrannus yn anaddas, ond gan fod addasiadau yn destun prawf moddion gallent fod yn ddrud iawn. Hefyd pwysleisiwyd bod angen cysylltiadau teithio da ar gartrefi addas. Yr oedd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig yn cytuno bod angen i'r Awdurdod fod yn fwy cadarn o ran estyn cymorth i oedolion sydd ag anghenion o ran tai a thrafnidiaeth, a dywedodd fod ei swyddogion wrthi'n llunio adroddiad am y materion hyn gyda golwg ar ei roi gerbron y Pwyllgor yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD
6.1 bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;
6.2 cymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol ynghylch y Mesur ar gyfer Gofalwyr a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru;
6.3 gofyn i'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd gysylltu â'r holl Aelodau Cynulliad yn rhanbarth Dyfed- Powys er mwyn lleisio pryderon y Pwyllgor ynghylch y cyllid, gan ofyn iddynt roi pwysau ar Lywodraeth Cymru ynghylch taliadau i ofalwyr.
Dogfennau ategol: