Agenda item

YMGYSYLLTU YSGOLION

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd J.D. James wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod].

 

Yn unol â'r Rhaglen Ymgysylltu ag Ysgolion y cytunwyd arni gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 30 Tachwedd 2021, cyflwynwyd adroddiad i'r Aelodau a oedd yn canolbwyntio ar y broses adfer wrth i ysgolion ddod allan o bandemig Covid-19. 

 

Esboniwyd i'r Aelodau fod strwythur amgen, ar ffurf sesiynau ymgysylltu ag ysgolion ar-lein, wedi'i gyflwyno i gymryd lle ymweliadau ysgol dros dro yn ystod pandemig parhaus Covid-19, a fyddai'n galluogi'r Pwyllgor i barhau â'i swyddogaeth gwerthuso a gwella ysgolion.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y cymorth ariannol a ddyrannwyd i ysgolion yn ystod 2021/22 drwy'r Rhaglen Dysgu Carlam, a oedd yn cynnwys Grant Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau ychwanegol a ddarparwyd yn ddiweddar. Maes gorchwyl y Pwyllgor oedd canolbwyntio ar ddefnyddio'r cyllid ychwanegol a ddarperir i ysgolion i ddiwallu anghenion a gofynion y Grant Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, ym meysydd Dysgu Carlam, Carfanau Blaenoriaeth ar gyfer Cymorth a Diwygio'r Cwricwlwm.

 

Yna, cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan gynrychiolwyr yr ysgol a oedd yn canolbwyntio ar y modd yr oeddent wedi mynd i'r afael â'r heriau a achoswyd gan bandemig Covid-19, yr effaith ar ddisgyblion a staff a'r heriau hirdymor canfyddedig sydd i ddod. Roedd trosolwg o sut yr oedd yr ysgolion wedi defnyddio'r arian ychwanegol a dderbyniwyd yn rhoi dealltwriaeth fanwl i'r aelodau o effaith cymorth yr Awdurdod Lleol ar ddarpariaeth ar draws system yr ysgolion. Roedd y pwyntiau allweddol dan sylw yn y cyflwyniad cynnwys y canlynol:

 

  • Roedd diwylliant o ragoriaeth wrth wraidd yr ysgolion ffederal, a oedd yn galluogi blaenoriaethau a normau newydd i gael eu datblygu'n gyflym, gyda chyfathrebu a llesiant yn ganolog i strategaeth ddiwygiedig yr ysgol.

 

  • Gwnaed nifer o addasiadau o fewn yr ysgolion ffederal yn yr ymdrech genedlaethol yn erbyn coronafeirws, gan gynnwys sefydlu a monitro grwpiau cyswllt, Profion Llif Unffordd, Asesiadau Risg a chyflwyno dwy system asesu newydd. Roedd y camau lliniaru ffisegol yn cynnwys cyflwyno diheintyddion dwylo, gorchuddion wyneb, systemau unffordd, mynedfeydd dynodedig a pharthau dysgu 'swigod'.

 

  • Roedd y cyllid grant yn galluogi'r ysgolion ffederal i gefnogi disgyblion mewn ffyrdd na fyddent fel arall wedi gallu cael eu darparu, gan gynnwys cyflwyno rolau ymgysylltu â rhieni, cynyddu capasiti pynciau craidd a gwella darpariaeth TGCh (o ran offer a sgiliau) i helpu gyda'r newid i ddysgu rhithwir a chyfunol.

 

  • Roedd nifer o ganlyniadau cadarnhaol annisgwyl wedi deillio o bandemig Covid-19, a elwir gan yr ysgolion ffederal yn "Covid keepers"; roedd y rhain yn cynnwys:
    • Gwell perthynas â rhieni drwy gyfathrebu'n rheolaidd a hwyluswyd drwy ddefnyddio technoleg.
    • Dysgu cyfunol yn cael ei ystyried fel y sefyllfa bresennol newydd, gan alluogi dysgu hyblyg.
    • Rhannu arfer gorau, gan gynnwys archwilio llwyfannau a dulliau TGCh newydd. Cyhoeddwyd rhestr chwarae gan yr ysgolion ffederal yn ddiweddar ar HWB fel rhan o astudiaeth achos adnoddau genedlaethol Llywodraeth Cymru i hyrwyddo arfer gorau a hwyluso hunanwerthuso a gwelliant. Cytunwyd y byddai'r rhestr chwarae yn cael ei hanfon at y Pwyllgor.
    • Manteision cymdeithasol, gan gynnwys teithiau cerdded llesiant i gryfhau cydlyniant cymdeithasol ymhellach ymhlith disgyblion mewn grwpiau blwyddyn.

 

  • Cyfeiriwyd hefyd at heriau diweddar a achoswyd gan 'Storm Barra' ym mis Rhagfyr 2021, a oedd wedi achosi difrod sylweddol i do adeilad ysgol Bryngwyn ac wedi arwain at gau'r ysgol tra bod gwaith atgyweirio yn cael ei wneud. Serch hynny, roedd y Pwyllgor yn falch o nodi na fu unrhyw amharu ar ddysgu disgyblion oherwydd y pontio di-dor i ddysgu ar-lein a symud disgyblion yn unol â threfniadau parhad busnes yr ysgol.

 

Rhoddwyd sylw i nifer o arsylwadau ac ymholiadau, fel a ganlyn:

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch 'dysgu a gollwyd' a chyflwyno system Raddio'r Ganolfan Asesu, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr adnoddau ychwanegol a ddarparwyd gan gyllid grant Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau yn galluogi'r ysgol i ymateb yn briodol drwy gymorth TGCh a thechnegol ychwanegol i bontio'r bwlch rhwng yr ysgol a chymunedau, Swyddogion Ymgysylltu â Rhieni i gefnogi teuluoedd â dysgu a defnyddio rhaglenni mentora a gwaith gr?p llai i ddarparu ymyriad priodol i feysydd angen. Hefyd, defnyddiwyd y cyllid grant ychwanegol i gynyddu'r gyllideb dros dro er mwyn mynd i'r afael â materion adnoddau staff a digon o leoedd ar gyfer parhad dysgu. 

 

Mynegwyd pryderon nad oedd rhai disgyblion yn barod ar gyfer arholiadau ffurfiol, ac yn ogystal â hynny nad oeddent wedi cyrraedd y safon dysgu ddisgwyliedig o ganlyniad i bandemig Covid-19. Dywedodd cynrychiolwyr yr ysgol fod cymorth priodol yn cael ei ddarparu i sicrhau profiad cadarnhaol i bob disgybl, yn unol â phenderfyniadau cenedlaethol. Roedd data hefyd yn cael ei goladu gan yr ysgolion i sicrhau bod disgyblion yn cael eu graddio'n gywir pe bai unrhyw addasiadau'n cael eu gwneud i'r trefniadau asesu. Hefyd, tynnwyd sylw'r aelodau at y ffaith, er nad oedd pob disgybl wedi cyrraedd y safon dysgu ddisgwyliedig yn y pynciau craidd, fod pandemig Covid-19 wedi gwella sgiliau mewn meysydd fel gwytnwch, annibyniaeth a chreadigrwydd.

 


 

Cyfeiriwyd at system addysg Estonia a oedd wedi gwneud gwaith arloesol drwy gyflwyno 'bagiau e-ysgol' i hyrwyddo cynhwysiant digidol. Nododd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant y byddai atebion digidol addysg Estonia yn cael eu harchwilio ymhellach, ond rhoddwyd sicrwydd bod ystod eang o adnoddau dysgu digidol eisoes ar gael i ddisgyblion drwy blatfform HWB. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant ymhellach y byddai strategaeth ddigidol tymor hwy yn gofyn am adolygiad o drefniadau ariannu'r llywodraeth i ddarparu adnoddau priodol i ysgolion a disgyblion. Dywedwyd wrth y Pwyllgor hefyd fod meysydd arfer gorau yn faes ffocws allweddol i ysgolion Sir Gaerfyrddin, a ddangoswyd gan yr amrywiaeth o fforymau sefydledig megis Rhwydweithiau Sefydliad Dysgu Ysgolion, Rhwydweithiau Ffocws Uwchradd, Rhwydweithiau Cynradd Uwchradd, yn ogystal â'r cydweithio parhaus rhwng Ymgynghorwyr Cymorth Addysg a chyfarfodydd Penaethiaid rheolaidd.

 

Yn dilyn ymholiad ynghylch dichonoldeb a hyblygrwydd darpariaeth dysgu cyfunol tymor hwy ar ôl Covid-19, sicrhaodd cynrychiolwyr yr ysgol y Pwyllgor fod pob cyfle yn cael ei archwilio i wella profiadau dysgu a rhoi mwy o hyblygrwydd o ran dysgu ar y cyd â chyflwyno'r cwricwlwm newydd yn fuan ar gyfer ysgolion uwchradd. Yn hyn o beth, cyfeiriodd Swyddogion at y modelau dysgu amgen sy'n cael eu treialu ar gyfer disgyblion h?n i hyrwyddo dysgwyr annibynnol a pharatoi disgyblion ar gyfer addysg uwch.  Fodd bynnag, esboniwyd bod angen cydweithio pellach rhwng ysgolion er mwyn sicrhau bod technoleg yn cael ei defnyddio'n gywir i gyrraedd ei llawn botensial. Sicrhawyd y Pwyllgor hefyd y byddai dysgu cyfunol yn cael ei ddefnyddio fel dull o gefnogi dysgu ac na fwriedid iddo gymryd lle cyswllt dynol.

 

Canmolodd y Pwyllgor yr ysgolion am yr ymdrechion rhagorol a wnaed mewn ymateb i bandemig Covid-19 a rhoddwyd diolch i'r cynrychiolwyr am y cyflwyniad llawn gwybodaeth a gwerthfawr. Awgrymodd yr Aelodau y gallai disgyblion fod yn rhan o sesiynau ymgysylltu yn y dyfodol i gyfleu eu profiadau'n uniongyrchol i'r Pwyllgor. Cytunwyd y dylid gwneud hynny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.   

 

Dogfennau ategol: