Agenda item

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2022/23 TAN 2024/25

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw y Cyngor 2022/23 i 2024/25 a oedd yn rhoi golwg gyfredol ar y gyllideb refeniw ar gyfer 2021/2022 ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2023/24 a 2024/25.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am broses y gyllideb, setliad dros dro presennol Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd ar 21 Rhagfyr 2021 ac amserlen y setliad terfynol ac yn clustnodi'r gwasgfeydd dilysu a'r gwasgfeydd cyllidebol y byddai'n rhaid i'r Aelodau roi sylw iddynt wrth bennu cyllideb refeniw'r flwyddyn nesaf. 

 

Er bod llawer o waith eisoes wedi'i wneud wrth baratoi'r gyllideb, dywedwyd mai datganiad sefyllfa cychwynnol oedd yr adroddiad hwn a fyddai'n cael ei ddiweddaru yn dilyn y broses ymgynghori. Yn unol â hynny, atgoffwyd Aelodau bod yr adroddiad wedi'i ystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 17 Ionawr 2022 a bod aelodau'r Pwyllgor wedi mynychu digwyddiadau ymgynghori yn ddiweddar, a oedd yn rhoi cyfle i ofyn cwestiynau a chael eglurhad ynghylch gwahanol agweddau ar y gyllideb.

 

Nododd yr adroddiad, ar ôl addasiadau ar gyfer trosglwyddiadau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, mai 9.2% (£26.335 miliwn) oedd y cynnydd yn y setliad dros dro ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Felly, roedd y Cyllid Allanol Cyfun wedi cynyddu i £311.957 miliwn yn 2022/23 a oedd yn cynnwys cyflog athrawon ac yn cynnwys £302k mewn perthynas â Grant y Gweithlu Gofal Cymdeithasol.

 

Tynnwyd sylw’r Pwyllgor at adran 3.5 o strategaeth y gyllideb lle rhoddwyd trosolwg o gyllidebau dirprwyedig yr ysgolion i'r Aelodau. Er y mynegwyd pryderon bod llawer o grantiau gwasanaethau penodol yn aros ar lefel debyg i flynyddoedd blaenorol o ystyried effaith dyfarniadau cyflog a chwyddiant cyffredinol, dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai'r grant Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau yn parhau ar gyfer 2022/23, ac y byddai'r grant Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a'r grant Datblygu Disgyblion yn cael eu cynyddu.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:-

 

·      Atodiad A(i) – Crynodeb o'r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant.

·      Atodiad A(ii) – Crynodeb o Bwysau Twf ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant. 

·      Atodiad B – Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant

·      Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant

 

Dywedwyd bod y setliad terfynol i fod i gael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru ar 1 Mawrth 2022 a byddai unrhyw ddiwygiadau y mae'n ofynnol eu hystyried mewn perthynas â Strategaeth y Gyllideb sy'n deillio o'r cyhoeddiad hwnnw hefyd yn cael eu hystyried gan y Cyngor yn ei gyfarfod a drefnwyd ar gyfer 2 Mawrth, 2022.

 

Roedd swyddogion wedi ymdrin â nifer o ymholiadau ac arsylwadau gan aelodau, fel a ganlyn:

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch nifer yr ysgolion sy'n manteisio ar y gronfa Galedi, eglurodd Swyddogion yn briodol y paramedrau o ran ysgolion yn cyflwyno cais am y cyllid. Esboniwyd i'r Aelodau y byddai costau cyffredin fel arfer yn cael eu talu o gyllidebau adrannol corfforaethol. Hefyd, pwysleisiwyd bod amgylchiadau ysgolion unigol, o ran graddfa effaith pandemig Covid-19 mewn meysydd fel staffio, yn amrywio ledled y sir. Rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor y darperir cyfathrebu rheolaidd i bob ysgol er mwyn sicrhau bod pob ysgol yn ymwybodol o'r cyllid sydd ar gael ac yn cael ei hannog i wneud cais yn unol â meini prawf cymhwysedd.

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at ddarparu peiriannau puro aer ar gyfer ysgolion a holodd am lefel y cyllid sydd ar gael i'r Cyngor. Eglurodd y Pennaeth Mynediad i Addysg fod cyllid o tua £134,000 wedi'i dderbyn i ymdrin ag awyru a bod data'n cael ei gasglu ar hyn o bryd i bennu gofynion yr ysgol yn hyn o beth. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod cyfanswm o 36 o unedau puro aer wedi'u caffael a'u dyrannu hyd yma, a oedd yn ddigonol i fodloni'r galw presennol. Fodd bynnag, nodwyd ei bod yn debygol y byddai angen gwella'r dyraniad cyllid ar gyfer yr ateb tymor hwy er mwyn galluogi adeiladau ysgol â phroblemau awyru a nodwyd i gael eu hôl-ffitio â hidlyddion priodol. Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Addysg at y Rhybudd o Gynnig a ystyriwyd mewn cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2022 a nododd ei fod yn aros am ymateb gan y Gweinidog i gadarnhau'r cyngor gan y Gr?p Cynghori Technegol a chynnydd Llywodraeth Cymru o ran caffael ac ariannu Hidlenni Aer Gronynnol Effeithlon iawn a/neu Uwchfioled mewn ysgolion.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod llythyr y Gweinidog a ddarparwyd gyda'r setliad yn nodi'n glir bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'r Cyngor dalu cost unrhyw ddyfarniadau cyflog yn y dyfodol o'r setliad gwell a chadarnhaodd fod y dyfarniadau cyflog o 4% ar gyfer athrawon ar gyfer 2022/23 wedi'u hadlewyrchu yn y gyllideb ddirprwyedig.

 

Mynegwyd pryderon ynghylch y gostyngiad yn nifer yr ysgolion ar gyfer 2024/25. Eglurwyd bod adolygiad o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg (MYA) ar y gweill ar hyn o bryd, ac ar ôl hynny byddai'r mater yn cael ei ystyried ymhellach.

 

Canmolodd y Pwyllgor Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a'i dîm am ddatblygu cyllideb yng nghyd-destun pandemig Covid-19 ac amgylchiadau na welwyd eu tebyg o'r blaen, er mwyn sicrhau darpariaeth briodol o wasanaethau i Sir Gaerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD:

 

5.1                                                                                          Bod yr Ymgynghoriad ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw 2022/23 - 2024/25 yn cael ei dderbyn;

 

5.2 Bod y Crynhoad Taliadau a nodir yn Atodiad C yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo.

 

Dogfennau ategol: