Agenda item

GWASANAETHAU CYMORTH I DEULUOEDD: ADDYSG A GWASANAETHAU PLANT

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o'r modd y mae'r Adran Addysg a Gwasanaethau Plant yn darparu cymorth ataliol i deuluoedd ar draws ein sir. Roedd yr adroddiad yn manylu ar yr heriau sy'n wynebu'r gwasanaethau ataliol a sut y mae'r rhain yn cael sylw.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cyfeirio at yr anghenion sy'n dod i'r amlwg gan deuluoedd a'r galwadau ar wasanaethau o safbwynt cymorth i deuluoedd/gwasanaeth ataliol.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

  • Mynegwyd pryder ynghylch y ffaith bod gwahanol systemau casglu data yn cael eu defnyddio ledled yr Awdurdod a gofynnwyd i swyddogion beth sy'n atal pob gwasanaeth rhag defnyddio'r un system.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant wrth y Pwyllgor fod yr Awdurdod yn ceisio gwneud camau i gyflawni hyn, ond roedd hon yn dasg anodd a chymhleth gan fod gan bob gwasanaeth ofynion casglu data penodol;
  • Mynegwyd pryder ynghylch effaith Dechrau'n Deg ar y Cynnig Gofal Plant gan fod mynediad at gymorth yn seiliedig ar gôd post yr unigolyn a gofynnwyd i swyddogion a ellid ymestyn y Cynnig Gofal Plant i gynnwys pob plentyn yn y ward.  Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod swyddogion, ym mhob amgylchiad, yn gwneud pob ymdrech i beidio â rhannu cymunedau; fodd bynnag, roedd y swyddogion wedi'u cyfyngu yn yr hyn y gallant ei wneud o safbwynt allgymorth oherwydd telerau'r grant.  Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr at y ffaith fod Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi ymestyn y Cynnig Gofal Plant i bob plentyn 2 flwydd oed ac ar y pryd roedd swyddogion yn cydweithio i ymestyn y fenter honno.  Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant sicrwydd i'r Pwyllgor nad oedd unrhyw effaith ar Dechrau'n Deg yn cael ei rhagweld;
  • Cyfeiriwyd at effaith y pandemig covid ar y staff, a'r gweithlu blinedig o ganlyniad, a gofynnwyd i'r swyddogion a oedd llawer o'r staff yn absennol o'r gwaith yn yr is-adran. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod y pandemig wedi cael effaith ac roedd y staff ar y pryd yn delio â rhai sefyllfaoedd cymhleth iawn a bod iechyd a llesiant y staff yn brif ystyriaeth.  Tynnodd sylw at y ffaith mai un o'r prif broblemau oedd yr anallu i lenwi swyddi gwag.  Pwysleisiodd na ellir diystyru'r pwysau ar y gwasanaeth.  Ychwanegodd eu bod yn ffodus o gael staff gwych sy'n gwneud gwaith anhygoel;
  • Cyfeiriwyd at y gostyngiad o 20% mewn atgyfeiriadau a gofynnwyd i swyddogion a oeddent, o ganlyniad, yn rhagweld cynnydd mawr yn nifer yr atgyfeiriadau yn y dyfodol.  Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod yr anallu i gwrdd â theuluoedd oherwydd covid yn anochel wedi arwain at y gostyngiad hwnnw, a chan fod swyddogion bellach yn gallu cynnal ymweliadau roedd yn hyderus y gwelwn y cyfraddau'n codi eto.  Mae gwir angen y cymorth hwnnw ar deuluoedd ac unwaith y byddant yn gwybod ei fod ar gael eto byddant yn manteisio arno;
  • Pan ofynnwyd faint o atgyfeiriadau sy'n dod o ysgolion a faint sy'n dod o deuluoedd, eglurodd y Cyfarwyddwr fod y data yn yr adroddiad yn ymwneud yn benodol â Theuluoedd yn Gyntaf.  Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod llawer o atgyfeiriadau gan Dimau o Amgylch y Teulu (TAF) yn dod o ysgolion; fodd bynnag, nid ydynt bob amser yn cael eu cofnodi yn y ffordd honno.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: