Agenda item

ADRODDIAD PERFFORMIAD CWARTER 2 - 2021/22 (1 EBRILL I 30 FEDI 2021) YN ARBENNIG I'R PWYLLGOR CRAFFU HWN.

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Perfformiad Chwarter 2. Roedd yr adroddiad yn dangos cynnydd y camau a'r mesurau oedd yn gysylltiedig  â'r Strategaeth Gorfforaethol a'r 13 Amcan Llesiant fel roedd ar ddiwedd Chwarter 2 - 2021/22.

 

Nododd y Pwyllgor mai 2021/2022 oedd y flwyddyn gyntaf y byddai'r Awdurdod yn hunanarfarnu ac yn adrodd ar hynny, o dan delerau Deddf newydd Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, yn enwedig Rhan 6 o'r Ddeddf ar Berfformiad a Llywodraethu.

 

Tynnodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol sylw'r pwyllgor at y ddau amcan nad oeddent yn cydymffurfio â'r targed.

·         Amcan Llesiant 13 – Gwell Llywodraethu a Defnyddio Adnoddau yn well – roedd oedi wrth gyflwyno system eclipse hyd at fis Mawrth wedi effeithio ar y gwaith hwn.

·         Amcan Llesiant 07 – Helpu pobl i fyw bywydau iach – roedd cyfyngiadau covid wedi cael effaith ar y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS), ond roedd y sefyllfa wedi gwella ers i'r cyfyngiadau gael eu llacio.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt.  Dyma'r prif faterion:

 

·         Mynegwyd pryder cymaint o ordewdra oedd yn bodoli ymhlith plant a sut roedd yr ymyriadau a'r cynlluniau atgyfeirio fel pe baent yn methu.

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod y Cynllun Cenedlaethol i Wneud Ymarfer Corff yn rhad ac am ddim i bawb oedd yn rhan ohono. Roedd y cynllun ar gael i oedolion yn dilyn atgyfeiriad gan weithiwr proffesiynol fel meddyg teulu.  Roedd y cynllun wedi'i dargedu at yr unigolion h?n a mwy bregus.  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod gan ysgolion fentrau amrywiol megis rhaglenni bwyta'n iach, clybiau brecwast a cherdded milltir bob dydd i helpu i leihau gordewdra ymhlith plant.

·         Gofynnwyd a oedd ffigurau a/neu dystiolaeth anecdotaidd ar gael ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn perthynas ag Amcan Llesiant 8 - Cefnogi cydlyniant cymunedol, cydnerthedd a diogelwch.

Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel nad oedd ganddo'r ffigurau uniongyrchol, ond byddai'r rhain yn cael eu darparu i'r pwyllgor yn ddiweddarach.  Cadarnhawyd bod ceisiadau gwasanaeth o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi cynyddu ers llacio cyfyngiadau covid.  Nodwyd nad oedd unrhyw broblemau o sylwedd yn Sir Gaerfyrddin, fodd bynnag, roedd y Tîm Cydlyniant Cymunedol yn monitro'r sefyllfa'n ddyddiol.

·         Mewn perthynas ag Amcan Llesiant 9 Cefnogi pobl h?n er mwyn iddynt heneiddio'n dda a chadw'u hurddas a'u hannibyniaeth wrth wneud hynny, gofynnwyd a oedd dulliau ar waith i fonitro a oedd pobl yn hawlio'r budd-daliadau roedd ganddynt hawl iddynt.

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod Llesiant Delta yn gweithio gydag unigolion ac yn eu cyfeirio at yr asiantaethau perthnasol i gael cyngor ar fudd-daliadau.

·         Mynegwyd pryder ynghylch adennill dyledion sy'n weddill a'r effaith byddai hyn yn ei chael ar unigolion a oedd eisoes yn dioddef caledi ariannol.

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod gwasanaethau gofal cymdeithasol yn destun prawf modd er mwyn penderfynu faint y gallai unigolyn fforddio ei dalu.  Rhoddwyd sicrwydd nad oedd y tâl a godwyd ar neb tu hwnt i'r paramedrau cenedlaethol, ac ar hyn o bryd y cap oedd cyfraniad prawf modd o fwyafswm o £100 yr wythnos ar gyfer gofal yn y cartref. Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddid yn ymdrin yn sensitif ag achosion o beidio â thalu taliadau parhaus, a byddai cynlluniau talu yn cael eu rhoi ar waith i ddelio ag unrhyw ôl-ddyledion.  Dywedwyd hefyd, pe na bai rhywun mewn gofal preswyl yn gallu talu, fod gan yr Awdurdod yr opsiwn o glymu'r gost i'w heiddo fel y gellid adennill y ddyled o'r ystâd yn ddiweddarach.

·         Cyfeiriwyd at Amcan Llesiant 12 - Hyrwyddo'r Gymraeg a Diwylliant a pha mor galonogol oedd gweld bod y targed wedi'i gyrraedd. Gofynnwyd a oedd staff wedi dangos mwy o ddiddordeb yn ddiweddar mewn dysgu'r Gymraeg a sut gosodwyd y targed.

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod yr adran yn annog yr holl staff i wella eu sgiliau Cymraeg. Dywedwyd wrth y Pwyllgor nad oedd targed rhifiadol penodol ac mai'r nod oedd hyrwyddo'r Gymraeg ac annog staff i ddysgu. Rhoddwyd sicrwydd bod gan yr adran nifer o siaradwyr Cymraeg a phe bai cleient yn dymuno i asesiad gael ei gynnal yn Gymraeg, byddai'r adran yn gallu gwneud hynny.

·         Mynegwyd pryder ynghylch cau canolfannau dydd a sut roedd rhai sefydliadau wedi gallu cynnal gwasanaethau ac aros ar agor er gwaetha'r pandemig.

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod cynnal y gwasanaeth hwn wedi bod yn anodd, o gofio bod y canllawiau'n newid yn barhaus. Roedd yr Awdurdod wedi mabwysiadu dull gwahanol ar gyfer grwpiau cleientiaid gwahanol.  Yn achos oedolion iau, caeodd y gwasanaeth ar ddechrau'r pandemig ond fe ail-agorodd yn gyflym, er bod hynny ar raddfa lai. Roedd cymorth hefyd yn cael ei ddarparu gartref ac mewn llefydd eraill fel canolfannau hamdden.  Dywedwyd bod y sefyllfa'n fwy cymhleth gyda phobl h?n a phobl mwy agored i niwed.  Roedd cymorth dydd rhithwir wedi cael ei gynnig yn ogystal â chymorth un i un. Roedd rhai wedi gwrthod y gwasanaeth arall ac roedd eraill wedi ymgysylltu'n dda.  Ar hyn o bryd roedd yr Awdurdod yn cynllunio sut i ailagor y gwasanaeth canolfannau dydd yn gynnar yn y flwyddyn newydd, ond byddai hyn yn dibynnu ar y sefyllfa o ran Covid.  Cyfaddefwyd y gellid bod wedi gwneud pethau'n wahanol, ond y flaenoriaeth oedd rheoli'r risgiau.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod dull Sir Gaerfyrddin yn gyson â gweddill Cymru a bod cyswllt a chymorth wedi'u cynnal drwy gydol yr adeg.

 

Mynegodd y Pwyllgor ddiolch i'r Pennaeth Gwasanaethau Integredig am fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Craffu yn rheolaidd a chyfrannu'n gadarnhaol atynt.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: