Agenda item

CWESTIYNAU CYHOEDDUS

Cofnodion:

Cafodd y cwestiynau canlynol eu derbyn a’u cyflwyno yn y cyfarfod.

 

4.1       Cwestiwn gan Darren Seward, Y Pwyllgor Dwy Ffrwd

 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi llunio dogfen sy'n disgrifio ei gynnig i GAU/DIDDYMU Ysgol Babanod Llangennech ac Ysgol Iau Llangennech ac agor Ysgol Gynradd Gymunedol Llangennech newydd a fyddai'n ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Pam y mae CSC yn gwthio cyfarwyddebau Cynulliad Cymru ynghylch y Gymraeg mor bell pan nad yw hynny'n digwydd mewn siroedd eraill fel Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, a Chasnewydd?

 

4.2       Cwestiwn gan Nikki Lloyd, Y Pwyllgor Dwy Ffrwd

 

Ar hyn o bryd mae 121 o ddisgyblion yn yr Ysgol nad ydynt yn byw ym mhentref Llangennech.   Fodd bynnag, mae 96 o blant sy'n byw yn y pentref yn teithio i ysgolion eraill y tu hwnt i'r ardal. Dim ond 15 o'r plant hynny sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, sy'n golygu bod 81 yn mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg eraill. Pam y fath wahaniaeth? Gallai rhai o'r rhain fod wedi cael lle yn Llangennech ond eu bod wedi eu gwrthod gan beri bod y ffrwd Saesneg yn ymddangos fel petai'n dirywio.

 

4.3       Cwestiwn gan Nikki Lloyd, Y Pwyllgor Dwy Ffrwd

 

Mae gennym eisoes un rhiant y gwrthodwyd lle i'w blentyn yn y Bryn gan fod 54 o geisiadau am 30 o leoedd yn unig. Mae'r Hendy hefyd yn llawn; ble'r rydych yn mynd i ddarparu ar gyfer y rhieni sydd yn dymuno neu sydd ANGEN addysgu eu plant drwy gyfrwng y Saesneg?

 

4.4       Cwestiwn gan Robert Willock, Y Pwyllgor Dwy Ffrwd

 

O blith y 121 o blant sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd mae 91 yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.      Pam felly? pan fo ysgol newydd yn y Ffwrnes sydd â 132 o leoedd gwag, a 38.5 o leoedd gwag yn ysgol Brynserfiel yn ôl adran 2.3 o'r ddogfen ymgynghori. Mae lleoedd gwag yn yr ysgolion cyfrwng Cymraeg ac nid yw hyn yn gyson â Chôd Trefniadaeth Ysgolion 2013 sy'n datgan nad oes mwy na 10% o leoedd gwag i fod. Yn ôl gwefan Cyngor Sir Caerfyrddin mae 1,710 o leoedd gwag yn yr holl ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin - ystadegau yw'r rhain o wefan CSC. Nid yw hyn yn cyfiawnhau creu rhagor o leoedd. Mae Côd Trefniadaeth Ysgolion 2013 yn datgan y dylai cyrff perthnasol, wrth ddatblygu cynigion, roi sylw i'r cynlluniau lleol ar gyfer datblygu economaidd a datblygu tai. Pam na roddwyd ystyriaeth i'r 91 o dai sy'n cael eu codi yn yr Hendy ac i'r 700 a mwy o dai sydd ar y gweill ym Mhontarddulais? Yn sicr ddigon byddai hyn yn effeithio'n fawr ar yr ysgolion cyfagos. Yr Hendy yw un o'r ysgolion agosaf ar gyfer addysg drwy gyfrwng y Saesneg os gweithredir y cynnig hwn. Fodd bynnag mae Ysgol Llanedi yn wynebu cael ei chau, a'r cyngor yw symud i'r Hendy. Mae Ysgol yr Hendy bron â bod yn llawn yn barod, ac fel ysgol ddwy ffrwd mae wedi'i chlustnodi fel ysgol fydd yn cael ei newid yn ysgol Gymraeg ei chyfrwng yn unig. Yr ysgol Saesneg ei chyfrwng agosaf arall yw Ysgol y Bryn, ond mae'r Sir wedi bod yn dosbarthu llythyron gwrthod yn barod gan eu bod wedi cael 54 o geisiadau hyd yn hyn am ddim ond 30 o leoedd. Yn ogystal â bod yr ysgol newydd arfaethedig yn anaddas i'r diben gan nad yw'n gwasanaethu ei chymuned, mae’n ymddangos nad oes gan plant sy’n siarad Saesneg dewisiadau amgen gerllaw?

 

4.5       Cwestiwn gan Jacqueline Seward, Y Pwyllgor Dwy Ffrwd

 

Ar ôl cau ysgol a cholli ffrwd iaith yn sgil hynny, dylid cynnig darpariaeth sydd o leiaf o’r un safon i ddysgwyr yn unol â Chôd Trefniadaeth Ysgolion 2013.   Fodd bynnag mae Llangennech yn Wyrdd ar hyn o bryd.  Mae'r Hendy yn Felyn ac mae'r Bryn yn Oren. Sut mae hyn yn gyfwerth?

 

4.6       Cwestiwn gan Darren Seward, Y Pwyllgor Dwy Ffrwd

 

A oes angen lleoedd meithrin ychwanegol yn yr ardal pan fo gennym ddau ddarparwr eisoes? Mae angen rhoi ystyriaeth i ffactorau penodol o ran cynigion i ychwanegu neu i waredu dosbarthiadau meithrin fel yr amlinellwyd yng Nghôd Trefniadaeth Ysgolion 2013. Dylai cyrff perthnasol roi ystyriaeth i ffactorau penodol: safon yr addysg feithrin a Digonolrwydd yr adeiladau a'r cyfleusterau a gynigir yn yr ystafell ddosbarth ac yn yr awyr agored, a hyfywdra unrhyw ysgol sydd am ychwanegu lleoedd meithrin; a oes angen rhagor o leoedd meithrin yn yr ardal?; lefel y galw am rai mathau o addysg feithrin e.e. cyfrwng Cymraeg neu ddarpariaeth ac iddi natur grefyddol; effaith y cynigion ar sefydliadau eraill, gan gynnwys darparwyr sector preifat a thrydydd sector; ac y graddau y bydd cynigion yn cydblethu addysg y blynyddoedd cynnar â gwasanaethau gofal plant, neu'n gydnaws â dull integredig. Nid oes tystiolaeth yn y ddogfen ymgynghori fod y rhain, ac effaith y cynigion ar ddarparwyr sector preifat eraill, wedi'u hystyried.

 

4.7       Cwestiwn gan Nigel Hughes, Y Pwyllgor Dwy Ffrwd

 

Mae'r ddogfen ymgynghori yn ddogfen wallus sydd heb gydnabod y rheiny o bentref Llangennech sy'n cael eu rhoi dan anfantais gan y cynigion.  Mae datgan nad oes neb yn cael ei effeithio gan y newidiadau arfaethedig hyn yn beth naïf ac anwybodus ac yn dangos nad yw'r Awdurdod wedi rhoi 'sylw dyledus' o dan y Ddeddf Dyletswydd Cyhoeddus i'r rheiny a effeithiwyd, wrth iddynt ddweud yn grwn nad ydynt yn bodoli.  Drwy wneud hyn nid ydynt wedi cwmpasu'r agweddau Iechyd a Diogelwch neu broblemau lleoedd yn yr ysgolion eraill. Wrth gerdded i'r Hendy, er enghraifft, bydd croesi ffordd ddeuol yn peryglu bywydau.  Mae CrashMap ar gael ar-lein sy'n dangos bod un ddamwain yn digwydd bob deufis ar gyfartaledd ar y ffordd benodol honno. Felly, mae'r ymgynghoriad hwn yn amlygu'r brys i gyrraedd canlyniad a bennwyd ymlaen llaw, waeth beth fo'r safbwyntiau a gasglwyd yn ystod y broses. Credwn y gallwn ddangos tystiolaeth bod naill ai'r Awdurdod Addysg Lleol neu'r corff llywodraethu, neu'r ddau, wedi methu â chydymffurfio â Chôd Trafnidiaeth Ysgolion 2013 ac o bosibl y gyfraith. Ydych chi o'r farn ei bod hi'n dderbyniol peryglu plant bach yn ddyddiol fel hyn?

 

4.8       Cwestiwn gan Steve Hatto, Y Pwyllgor Dwy Ffrwd

 

Mae'r ffigyrau wedi cael eu hystumio - O graffu ar y wybodaeth a ddarparwyd gan yr AALl, ac oherwydd bod gan y gr?p wybodaeth am yr ysgol, mae'n amlwg bod y ffigyrau wedi eu hystumio gan unigolion i gyfnerthu sefyllfa benodol.    Gallwn ddangos bod y ffrydiau Saesneg presennol yn yr ysgol yn cyfrif am fwy na 30% o gyfanswm y disgyblion. Mae'r ymgynghoriad yn datgan bod cyfanswm o 186 yn y ffrwd Gymraeg yn Ysgol Babanod Llangennech yn 2015. Nid yw'r ffigwr hwn yn gywir gan ei fod yn cynnwys yr holl ddisgyblion yn nosbarthiadau Derbyn 1 a 2, sy'n gyfanswm o 94 o ddisgyblion, heb ystyried a ydynt wedi'u cofrestru i gamu ymlaen i'r ffrwd Saesneg. Hefyd os cynhwyswn y 27% sy'n dod o'r tu hwnt i'r ardal, ynghyd â'r posibilrwydd o golli'r ffrwd Saesneg, bydd y rhagamcanion cyfredol yn dangos y bydd mwy na 50% o ddisgyblion Ysgol Llangennech yn dod o'r tu hwnt i'r ardal. A ydych chi'n credu felly fod gennym 'yr ysgol briodol yn y man priodol ac a ydych chi'n gallu cadarnhau a yw'r ffigyrau hyn yn gywir?

 

4.9       Cwestiwn gan Michaela Beddows, Y Pwyllgor Dwy Ffrwd

 

Anghenion Addysgol Arbennig: Ni roddwyd unrhyw ystyriaeth i blant sydd ag anghenion addysgol arbennig a gynghorir fel arfer i fynd i ffrwd Saesneg yn unig, neu i'r un ffrwd ag iaith eu cartref. Mae plant sydd ag oedi cyffredinol yn ei chael hi'n anodd ag un iaith, heb sôn am ddwy, felly drwy gael gwared ar y ddwy ffrwd bydd y plant hyn yn cael eu cau allan o'r ysgol. Nid yw plant sydd ag Anhwylder Sbectrwm Awtistig yn gallu ymdopi o gwbl â newid i'w trefn feunyddiol felly, pe baent yn dechrau mewn ysgol cyfrwng Cymraeg ac yna'n methu ag ymdopi ac yn gorfod symud i ysgol cyfrwng Saesneg, fe fyddai'r newid hwnnw'n cael effaith anferthol arnynt. Sut y cafodd hyn ei esgeuluso a pham na chafodd sylw?

 

4.10    Cwestiwn gan Karen Hughes, Y Pwyllgor Dwy Ffrwd

 

Mae oddeutu 11 o ysgolion dwy ffrwd yn Sir Gaerfyrddin sydd, yn ôl Strategaeth yr Iaith Gymraeg, yn cael eu clustnodi ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn unig. Rhaid cydnabod na fyddai'r ysgolion hyn i gyd yn addas, ar sail logisteg, oherwydd maen nhw'n ysgolion dwy ffrwd am reswm, felly sut a phwy sy'n asesu'r galw a'r priodoldeb? A gynhaliwyd ymarfer i fwrw golwg ar y gorwel o ran cymuned Llangennech? h.y. i asesu sut le fydd pentref/poblogaeth Llangennech ymhen 5, 10, 15 mlynedd?  Wrth i ragor o dai newydd gael eu hadeiladu, y mewnlifiad o bobl, lleoliad y pentref wrth goridor yr M4, a allwn ni ddweud yn hyderus y bydd Ffrwd Gymraeg yn Unig yn bodloni'r gofynion hyn o ystyried bod 80% o'r boblogaeth eisoes yn siarad Saesneg yn unig. Wedi'r cyfan, daw 27% o ddisgyblion o'r tu hwnt i'r pentref ac nid yw ffigurau'r pentref yn dangos bod cynnydd yn y galw am y Gymraeg. Hefyd, nid yw'r Effaith ar yr Iaith Gymraeg wedi cael ei hasesu'n gywir, os o gwbl. Nid oes cyfeiriad at siaradwyr Saesneg yn gwerthfawrogi treftadaeth ddiwylliannol Cymru yn llai os ydynt yn mynychu ffrwd Saesneg yn Unig; mae mwy o bobl yn debygol o roi cynnig ar y ffrwd Gymraeg os ydynt yn gwybod y gallant gwympo'n ôl ar y Saesneg yn yr un ysgol. Bydd hyn yn cael effaith i'r gwrthwyneb. Mae'r defnydd o'r Gymraeg yn y gymuned yn fach ac nid yw'n cyd-fynd â'r ddemograffeg ieithyddol nac ystadegau cyfrifiad 2011. Pam nad yw'r ffactorau hyn yn cael eu hystyried?

 

4.11    Cwestiwn gan Robert Willock, Y Pwyllgor Dwy Ffrwd

 

Nid yw'r Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned yn Asesiad o Effaith o gwbl.  Nid yw wedi cydnabod unrhyw risgiau neu risg a aseswyd ganddynt (gan roi sgôr gadarnhaol, negyddol, neu niwtral). Byddech yn disgwyl y byddai sylw wedi ei roi i'r effaith ar ysgolion cyfagos, i'r effaith ar y rhieni a'r teuluoedd, i'r effaith ar y disgyblion, i'r goblygiadau o ran teithio, i'r effaith ar ddemograffeg y gymuned, i'r effeithiau amgylcheddol, i'r effaith ar weithgareddau cymunedol ac i'r effaith ar y trigolion. Y rhain yw'r meysydd sy'n debygol o gael eu hasesu'n negyddol, ac maen nhw wedi'u diystyru'n llwyr! Pam?

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr y Pwyllgor Dwy Ffrwd am eu cwestiynau a'u cyfraniad yn y cyfarfod. Dywedodd wrth y rhai oedd yn bresennol gan nad oedd y Pwyllgor yn gorff gwneud penderfyniadau yn y mater hwn, na fyddai'n ateb y cwestiynau'n uniongyrchol ond nododd y byddent yn cael eu hanfon ymlaen, yn amodol ar gytundeb y Pwyllgor, i sylw'r Bwrdd Gweithredol pan oedd yn ystyried yr adroddiad ymgynghori. Gofynnodd y Cadeirydd i'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant ymateb i'r materion a godwyd fel rhan o'r eitem nesaf, cyn cael ymateb ffurfiol gan y Bwrdd Gweithredol yn y man.