Agenda item

PENDERFYNU AR Y CAIS TRWYDDEDU A NODIR YN EITEM 2 UCHOD

NODER:

ER MAI BRAS AMCAN YW’R AMSERAU A NODIR UCHOD, CADARNHEIR DRWY HYN NA FYDD Y DRAFODAETH AR Y MATERION YN CYCHWYN CYN YR AMSERAU HYNNY.

Cofnodion:

Gadawodd yr Is-bwyllgor yr ystafell ac ailymgynnull ar safle 21 Heol Llandeilo, Crosshands am 10.00 a.m. er mwyn cael golwg ar leoliad y safle. Ar ôl i'r ymweliad â'r safle ddod i ben, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor yn y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 10.30 a.m. i ystyried y cais.

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan Mr. S. Laidler a Mrs. H. Laidler am drwydded safle ar gyfer The Cross Hands Ale House, 21 Heol Llandeilo, Cross Hands i ganiatau:

Cyflenwi Alcohol: Dydd Llun i ddydd Gwener 16:00-22:00

                            Dydd Sadwrn a dydd Sul 12:00-22:00

 

Oriau Agor:    Dydd Llun i ddydd Gwener 16:00-22:30

                      Dydd Sadwrn a dydd Sul 12:00-22:30

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-

·       Atodiad A – copi o'r cais gwreiddiol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd;

·       Atodiad B – sylwadau a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu;

·       Atodiad C – sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys, yr oedd yr ymgeisydd wedi cytuno arnynt;

·       Atodiad D – sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill.

Nid oedd yr Awdurdodau Cyfrifol eraill wedi cyflwyno sylwadau ar y cais. Cytunodd yr holl bartïon fod y dogfennau ychwanegol canlynol yn cael eu dosbarthu i'r Is-bwyllgor.

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau fel sydd i’w gweld yn Atodiad B yr adroddiad. Cyfeiriodd at yr amodau trwyddedu ychwanegol canlynol yr oedd yr ymgeisydd wedi cytuno arnynt:

·       Hysbysiadau i’w harddangos yngl?n â bod yn gwrtais i gymdogion;

·       Dim hawl i blant o dan 16 oed fynd i’r safle;

·       Rhai 16-18 oed i gael mynediad os ydynt yng nghwmni oedolyn yn unig.

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed.

Cyflwynwyd sylwadau i'r Is-bwyllgor gan bartïon â buddiant a wrthwynebai amrywio'r drwydded safle am y rhesymau a nodir yn Atodiad D.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau am y dystiolaeth a gyflwynwyd.

 

Wedyn bu i’r ymgeisydd ymateb i'r pryderon a'r materion a godwyd.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau am y dystiolaeth a gyflwynwyd.

 

Wedyn bu i'r Is-bwyllgor

 

BENDERFYNU’N UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref

 

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y dystiolaeth a oedd wedi ei rhoi gerbron yr Is-bwyllgor, fod y cais yn cael ei ganiatáu, a hynny'n unol â’r amodau trwydded ychwanegol yr oedd yr ymgeisydd a'r awdurdodau cyfrifol wedi cytuno arnynt.

 

Y RHESYMAU:-

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;

1.    Nid oedd dim hanes o gwynion na chamau gorfodi ar y safle;

2.    Nid oedd yr Heddlu na’r Awdurdod Trwyddedu yn gwrthwynebu mewn egwyddor i ganiatáu’r cais;

3.    Credai’r Heddlu a’r Awdurdod Trwyddedu nad oedd yr amserlen weithredu yn hyrwyddo’r amcanion Trwyddedu yn ddigonol;

4.    Roedd yr ymgeisydd yn derbyn yr amodau trwydded ychwanegol yr oedd yr Heddlu a'r Awdurdod Trwyddedu wedi gwneud cais am eu cynnwys;

5.    Nid oedd yr un o’r awdurdodau cyfrifol eraill (Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd yn benodol) wedi cyflwyno sylwadau;

6.    Ni dderbyniwyd tystiolaeth o unrhyw droseddu ac anhrefn sylweddol yn gysylltiedig ag alcohol yng nghyffiniau’r safle;

7.    Byddai unrhyw niwsans a gwyd o’r ardal ysmygu yn debygol o effeithio ar y safle preswyl cyffiniol yn rhif 19 yn unig;

8.    Roedd y cyfyngiadau parcio sy’n weithredol ar yr heol y tu allan i’r safle yn caniatáu llwytho a dadlwytho ar y stryd.

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr heddlu a'r awdurdod trwyddedu, ac ar absenoldeb unrhyw sylwadau gan yr awdurdodau eraill, a gwasanaethau iechyd y cyhoedd yn benodol.

 

Yr oedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad oedd pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid trwydded, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallai roi ystyriaeth briodol iddynt. Yn yr un modd, nid oedd materion o angen neu ba ffynonellau eraill o alcohol sydd ar gael yn yr ardal yn faterion y gallai’r Is-bwyllgor roi ystyriaeth iddynt.

 

Nododd yr Is-bwyllgor na allai ddyblygu cyfundrefnau rheoleiddio eraill.

 

Wrth ddod i’w benderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor yn ystyriol o’r ffaith y gall roi ystyriaeth i faterion sy’n ymwneud â hyrwyddo pedwar amcan trwyddedu yn unig, sef;

  1. Atal troseddu ac anhrefn
  2. Atal niwsans cyhoeddus
  3. Diogelu'r cyhoedd
  4. Amddiffyn plant rhag niwed

 

Er i’r Is-bwyllgor ddod i’r casgliad bod tystiolaeth y gwrthwynebwyr yn gredadwy a diffuant, ni allai anwybyddu’r ffaith nad oedd eu pryderon wedi’u hategu gan yr amryw awdurdodau cyfrifol, ac nad oedd yr un ohonynt wedi gwrthwynebu caniatáu trwydded yn yr achos hwn.

 

Yn benodol, pryderai’r Is-bwyllgor yngl?n ag effaith niwsans mwg o’r ardal ysmygu ar drigolion rhif 19, ond derbyniai mai mater o niwsans preifat fyddai hyn yn hytrach na niwsans cyhoeddus. Yn yr un modd, roedd pryderon diffuant yngl?n â chyflenwi nwyddau ar y stryd yn fater mwy priodol i swyddogion Rheoli Traffig gan eu bod yn berthnasol i unrhyw fusnes sy’n gweithredu o’r safle yn hytrach nag i safle trwyddedig yn benodol.

 

Yr oedd yr Is-bwyllgor yn rhannu llawer o bryderon y gwrthwynebwyr, ond yr oedd o’r farn mai deddfwriaeth arall oedd yn briodol i fynd i’r afael â’r materion hyn, megis deddfwriaeth diogelwch tân a deddfwriaeth iechyd yr amgylchedd.

 

Yr oedd yr Is-bwyllgor felly yn fodlon ar gydbwysedd tebygolrwydd na fyddai caniatáu’r cais, ar ei ffurf ddiwygiedig, yn tanseilio unrhyw rai o’r amcanion trwyddedu ac mai priodol felly oedd caniatáu trwydded yn amodol ar y camau rheoli ychwanegol y cytunwyd arnynt.