Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd
gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd ar
Ymgynghoriad y Cynllun Cyflawni Ansawdd Aer a roddodd y wybodaeth
ddiweddaraf am y gwaith a wnaed mewn perthynas ag Ansawdd Aer yn
Sir Gaerfyrddin, ac i ymgynghori ar y cynllun Cyflawni Ansawdd Aer
drafft.
Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr
adroddiad:-
- Mewn ymateb i ymholiad a godwyd ar 'Cyflwyno
Stryd Ysgol' fel y nodir ym mesur G10 o'r Cynllun, eglurodd yr
Arweinydd Llygredd a Llesiant fod y mesur hwn yn cael ei ystyried
ar hyn o bryd gan yr adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth. Byddai'n cwmpasu cyflwyno cyfres o fesurau i wella
ansawdd aer o amgylch ardal yr ysgol megis cyflwyno cyfyngiadau
traffig ffyrdd i ardal benodol, gan gynnwys man codi a gollwng heb
segura. Yn ogystal, dywedodd yr Aelod
o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd y byddai'r Cynllun
Teithio Llesol hefyd yn cefnogi'r amgylchedd glanach drwy annog mwy
o gerdded a beicio i ysgolion.
- Mewn ymateb i ymholiad a godwyd ynghylch
pryd y byddai Llwybr Dyffryn Tywi yn cael ei agor i'r cyhoedd,
dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd fod
Jonathan Edwards AS wedi gwneud cais am gyllid gan Gronfa Codi'r
Gwastrad ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin tuag at Lwybr Dyffryn Tywi a
bod gwaith datblygu'n parhau.
- Gan fod mwy o bobl yn cerdded yng nghefn
gwlad, mynegwyd pryder bod llwybrau troed a rennir yn cael eu cloi
ac a oedd yn achosi problemau cyfreithiol. Gofynnwyd a oedd amserlen i ddatrys y
problemau? Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd
Gweithredol dros yr Amgylchedd fod y mater hwn yn cael ei reoli gan
yr adran Hawliau Tramwy Cyhoeddus sydd, yn y lle cyntaf, yn
gweithio i ddatrys materion gyda'r tirfeddianwyr priodol cyn
cyflwyno hysbysiadau gorfodi.
Ychwanegodd y Pennaeth Priffyrdd fod prosesau cyfreithiol yn aml yn
hir.
- Codwyd sylw bod y cynllun yn cynnwys llawer
o syniadau o newid ymddygiad i brosiectau cyfalaf mawr a oedd yn
cyflwyno heriau.
- Gan gyfeirio at fesur G20 - Ystyried
astudiaeth Ddichonoldeb ar gyfer Parthau Allyriadau Isel, gofynnwyd
sut olwg fyddai ar hyn a sut y byddai'n gweithio? Dywedodd yr Arweinydd Llygredd a Llesiant fod hyn
yn cael ei ystyried ar hyn o bryd fel rhan o Fil Aer Glân
(Cymru), bod yr ymgynghoriad ar y Bil bellach wedi cau ac y
byddai'r crynodeb o'r ddogfen ymateb ar gael ym mis Medi
2021. Felly, byddai mwy o fanylion mewn
perthynas â pharthau allyriadau isel ar gael pan gyhoeddir y
ddogfen, ond roedd yn bwysig neilltuo mesur i hyn er mwyn sicrhau
bod y mater hwn yn cael ei archwilio.
- Cyfeiriwyd at fesur C11 – 'Gosod arwyddion Ardal Rheoli Ansawdd Aer' a
gofynnwyd am eglurhad pellach ar ystyr hyn ac a fyddai'n opsiwn i
roi gwybodaeth i'r cyhoedd am ansawdd aer mewn amser
real. Dywedodd yr Arweinydd
Llygredd a Llesiant, mewn perthynas ag arwyddion, ei bod yn bwysig
bod yn ofalus o ran y negeseuon i'r cyhoedd er mwyn osgoi achosi
braw diangen. Cydnabuwyd
y gallai unigolion â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes sy'n
byw ac yn ymweld â'r 3 ardal gydnabyddedig elwa o dderbyn
gwybodaeth o'r fath, ond roedd yr anawsterau'n gysylltiedig â
diogelu data a chyfrinachedd. Er mwyn goresgyn rhai o'r rhwystrau
hyn a dod o hyd i ateb i gyflwyno gwybodaeth am ansawdd aer i
unigolion, nodwyd y byddai angen dechrau deialog gydag Iechyd
Cyhoeddus Cymru a chyrff eraill.
Mewn ymateb i ymholiad a godwyd mewn
perthynas â chau lonydd ar ffyrdd deuol a defnyddio'r dull
cyfuno er mwyn lleihau amser segur a byrhau ciwiau, dywedodd
Pennaeth y Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod y system Rheoli Traffig a
ddefnyddir ar y ffyrdd cyflym wedi'i chynllunio i amddiffyn
gweithwyr a'r cyhoedd o ran diogelwch.
Defnyddiwyd arwyddion i annog gyrwyr i ddefnyddio'r ddwy lôn,
ond cydnabuwyd bod ciwiau'n dal i ffurfio. Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth y
byddai'n cysylltu â'r tîm Cefnffyrdd yn Llywodraeth
Cymru i archwilio'r posibilrwydd o ddefnyddio dull cyfuno gyda'r
nod o wella ansawdd aer.
PENDERFYNWYD YN
UNFRYDOL:-
8.1 nodi'r gwaith a gyflawnwyd
mewn perthynas ag Ansawdd Aer yn Sir Gaerfyrddin;
8.2 bod sylwadau'r Pwyllgor yn
cael eu cynnwys yn ymgynghoriad y Cynllun Cyflawni Ansawdd Aer
drafft.