Agenda item

ADRODDIAD DIWEDDARU IECHYD MEDDWL

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn rhoi datganiad sefyllfa ynghylch effaith y pandemig ar iechyd meddwl a llesiant ac yn tynnu sylw at flaenoriaethau'r gwasanaeth a datblygiadau ar gyfer y dyfodol.

 

Pwysleisiodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod yr Awdurdod yn buddsoddi mewn Iechyd Meddwl a'i fod wedi cynyddu capasiti staff gan ddefnyddio'r cyllid a gymeradwywyd gan y Cyngor. Nodwyd bod gwaith cydweithredol yn cael ei wneud gyda'r trydydd sector a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddatblygu Un Pwynt Cyswllt ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. Yn ogystal, roedd y gwaith o gyflwyno'r gwasanaeth Noddfa Min Nos yn parhau ar draws rhanbarth Gorllewin Cymru.

 

Nodwyd bod Covid yn parhau i effeithio ar iechyd meddwl a llesiant ac y byddai llawer yn teimlo'r effeithiau parhaol. Cydnabuwyd nad oeddem eto wedi cyrraedd brig yr argyfwng iechyd meddwl a bod blaenoriaethu iechyd meddwl yn bwysicach nag erioed.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad: -

 

·         Gofynnwyd sut y byddai'r Awdurdod yn ymdopi â'r galw cynyddol am wasanaethau iechyd meddwl.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai staff ychwanegol, mentrau newydd a chydweithio yn helpu'r Awdurdod i reoli'r galw cynyddol ac y byddai'r pwyslais ar gydweithio i wella'r ddarpariaeth sydd ar gael.

 

·         Cyfeiriwyd at y cynnydd o 136% wedi bod yn yr achosion o gysylltu â'r tîm iechyd meddwl a bod Sir Gaerfyrddin yn un o'r awdurdodau gwaethaf ar gyfer nifer yr hunanladdiadau.

Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod yr agwedd wledig yn cael effaith ar ddynion a bod hyn yn flaenoriaeth i'r rhanbarth. Dywedwyd hefyd ei bod yn ffodus bod sefydliadau megis DPJ Foundation a Thir Dewi hefyd yn darparu cymorth.

 

·         Gofynnwyd faint o gydweithio sy'n digwydd rhwng y gwahanol sefydliadau megis Awdurdod yr Heddlu a'r Bwrdd Iechyd ynghylch iechyd meddwl.

Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod y gwahanol sefydliadau yn cydweithio. Nodwyd bod gwaith yn cael ei wneud ynghylch gwasanaeth ymateb i argyfwng 24/7 a fyddai'n golygu gwasanaeth y tu allan i oriau a allai gael ei gydleoli i ymateb i'r rhai mewn argyfwng.

 

·         Cyfeiriwyd at y ffaith bod tua 325 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn yn marw o hunanladdiad. Gofynnwyd beth oedd y duedd yn Sir Gaerfyrddin ac yn benodol gofynnwyd am y gymuned ffermio.

Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod Sir Gaerfyrddin yn 3ydd yn y tabl o ran cyfradd hunanladdiad a dywedodd mai un o flaenoriaethau'r gr?p ymgynghori cenedlaethol oedd edrych ar y data amser real. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, er bod yr Alban yn dal yn uwch, bod y ffigurau'n gostwng a'u bod hefyd yn gostwng yn Lloegr, ond roedd yn destun pryder nad oedd hyn yn wir am Gymru. Rhoddwyd sicrwydd bod yna gynlluniau i wella mynediad i wasanaethau ymyriadau cynnar a byddai gwasanaethau argyfwng yn cynnwys strategaethau i ymateb i hunanladdiad a hunan-niweidio yn Sir Gaerfyrddin.

 

·         Mynegwyd pryder yngl?n â'r materion sy'n ymwneud â chamddefnyddio alcohol a chyffuriau yn y cymunedau.

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y bu cynnydd mewn sylweddau ac alcohol yn ystod y 12 mis diwethaf. Roedd y bwrdd cynllunio ardal yn cynnal ymgyrchoedd ymwybyddiaeth a nodwyd bod y gweithwyr cymdeithasol a'r timau camddefnyddio sylweddau yn cydweithio'n agos i liniaru'r broblem.

 

·         Nodwyd bod lefelau staffio wedi aros yn gymharol sefydlog yn ystod y pandemig a bod y staff wedi dangos gwytnwch anhygoel.  Fodd bynnag, mynegwyd pryder ynghylch cadw staff a phwysau ar staff.

Cydnabu'r Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod y Gweithwyr Cymdeithasol wedi bod yn wydn ond eu bod bellach wedi blino'n lân. Roedd llesiant staff wedi bod yn flaenoriaeth barhaus gyda gwahanol lwybrau cymorth ar waith.

 

·         Gofynnwyd am ddiweddariad yngl?n â'r amseroedd aros ar gyfer atgyfeiriadau, gan fod pryderon ynghylch rhestrau aros cyn y pandemig.

Dywedodd swyddogion wrth y Pwyllgor fod cwnsela'n cael ei ddarparu gan y Bwrdd Iechyd a bod y rhestr aros yn hir yn anffodus. Fodd bynnag, roedd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ychwanegol ar gyfer hyn. Yn ogystal â chwnsela, roedd ffyrdd eraill o ymyrryd ac atal yn cael eu cyflwyno megis y gr?p rhedeg a gafodd ei dreialu yn 2019. 

 

·         Gofynnwyd a oedd data ar gael ynghylch nifer y bobl a oedd wedi ymweld â'u meddyg teulu cyn cyflawni hunanladdiad.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor nad oedd y data ar gael ond bod llawer o'r rheiny sy'n cyflawni hunanladdiad yn bobl nad yw'r gwasanaethau yn ymwybodol ohonynt; fodd bynnag, mae rhai wedi cyflwyno materion iechyd eraill i feddygon teulu. Dywedwyd bod meddygon teulu yn derbyn hyfforddiant a bod hwn yn un o'r blaenoriaethau cenedlaethol. Cytunwyd y gallai'r Athro Ann John (cadeirydd y Gr?p Ymgynghori Cenedlaethol) roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am y blaenoriaethau cenedlaethol.

 

·         Gofynnwyd pa wasanaethau oedd ar waith er mwyn helpu pobl sy'n delio â phrofedigaeth.

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig y bu rhai datblygiadau gan gynnwys buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod meysydd lle mae arfer da megis T? Bryngwyn a Th? Cymorth ond nad oedd y gefnogaeth honno'n gyson draws y rhanbarth.  Roedd Adolygiad yn cael ei gynnal gan y Bwrdd Iechyd o ofal lliniarol, a byddai gwasanaethau profedigaeth yn cael eu hystyried fel rhan o hyn.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

Dogfennau ategol: