Agenda item

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2020, o ran 2020/2021. Roedd y sefyllfa gyllidebol yn cydnabod y pwysau ychwanegol sylweddol a roddwyd ar yr Awdurdod wrth ymateb i bandemig Covid-19 a’r gefnogaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn rhagweld y byddai tanwariant diwedd blwyddyn o £1,325k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai tanwariant o £232k ar lefel adrannol. 

 

Er bod adroddiadau yn gynharach yn y flwyddyn wedi dangos gorwariant sylweddol oherwydd effaith Covid-19, nododd y Bwrdd Gweithredol fod y sefyllfa a ragwelir ar hyn o bryd wedi gwella'n sylweddol, gyda'r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â Covid-19 a'r incwm a gollwyd yn cael eu had-dalu'n bennaf o gynllun caledi Llywodraeth Cymru.

 

Nodwyd ymhellach, er y nodir bod y sefyllfa gyffredinol yn llawer mwy ffafriol nag a adroddwyd yn flaenorol, bod rhai adrannau'n dal i ddangos pwysau sylweddol. Yn benodol, roedd adrannau Cymunedau a'r Amgylchedd yn dal i nodi gorwariant o tua £500K yr un. Roedd adrannau'n dal i gael eu herio gan y pwysau a'r ymateb sy'n ofynnol i Covid-19 ac roedd disgwyl i’r sefyllfa ddigynsail hon barhau i'r flwyddyn ariannol nesaf.

Dangosir yn Atodiad A i'r adroddiad y sylwadau ar yr amrywiannau penodol yn y gyllideb lle nodwyd tybiaethau

 

Nododd Aelodau'r Bwrdd Gweithredol fod yr adroddiad yn nodi bod casglu'r Dreth Gyngor yn parhau i fod yn faes sy'n peri pryder sylweddol. Fodd bynnag, mewn ymateb i ymholiad o ran taliadau'r Dreth Gyngor yn y dyfodol, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau y byddai'n unrhyw Dreth Gyngor nad oedd wedi cael ei thalu eleni yn cael ei hadennill y flwyddyn nesaf lle bynnag y bo modd.  Ychwanegodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod hwn yn faes heriol a bod y gohiriadau sylweddol a wnaed yn gynnar yn y flwyddyn ariannol ar ddechrau'r pandemig yn cael eu rheoli a'u casglu ar hyn o bryd ac y byddai talwyr y Dreth Gyngor a oedd yn ei chael yn anodd talu mewn sefyllfa i wneud cais am Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, eglurodd fod y timau hynny'n cydweithio'n agos i sicrhau bod cymorth yn cael ei ddarparu lle bynnag y bo modd.

 

Gwelodd Sir Gaerfyrddin ostyngiad sylweddol mewn taliadau yn ystod y chwarter cyntaf, a oedd yn annhebygol o wella'n llwyr yn ystod y flwyddyn, fodd bynnag i ddechrau byddai'r broses o gasglu'r ddyled hon yn parhau i'r flwyddyn nesaf, ond rhagwelir y bydd elfennau o hyn yn ddrwgddyled a byddai angen ei ddileu. Roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu rhywfaint o arian i gefnogi Awdurdodau Lleol mewn perthynas â'r mater hwn.

 

Roedd y Cyfrif Refeniw Tai yn meintioli rhagfynegiad o danwariant o £2,937k ar gyfer 2020/21.  Roedd rhestr o'r prif amrywiannau ynghlwm wrth yr adroddiad, sef Atodiad B

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

12.1 bod yr Adroddiad Monitro'r Gyllideb yn cael ei dderbyn, a bod ystyriaeth yn cael ei roi i'r sefyllfa gyllidebol a'r camau unioni priodol.

12.2    bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu'r opsiynau sydd ar gael iddynt yn feirniadol i gyfyngu ar y gorwariant a ragwelwyd ar gyllidebau, yn ogystal â chydnabod y pwysau y mae Covid-19 wedi'i roi ar gyllideb gyffredinol yr Awdurdod.

 

 

Dogfennau ategol: