Agenda item

GWERTHUSO PROSIECT CRONFA GOFAL CANOLRADDOL

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg, gwerthusiad a diweddariad mewn perthynas â gwasanaethau a ariennir gan y Gronfa Gofal Canolradd, yn enwedig mewn perthynas â’r Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Trosglwyddo Gofal (TOCALS) a’r gwasanaeth Gofal Cartref Ymateb Cyflym.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor fod y Gronfa Gofal Canolradd wedi’i ddyfarnu i ddechrau yn 2014/15 i ddarparu cyfle i roi cymorth i ddatblygu a phrofi modelau newydd i ddarparu gwasanaethau integredig cynaliadwy. Un o’r meini prawf ar gyfer parhad y cyllid yn 2015/16 oedd bod y prosiectau’n dangos eu heffaith a’u canlyniadau mewn perthynas â’r amcanion cychwynnol.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd sut yr oedd y model eiddilwch ‘blaen t?’ yn gweithio yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli. Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig wybod i’r Pwyllgor bod yr Uned Mân Anafiadau a’r Uned Derbyniadau Meddygol Acíwt yn yr ysbyty’n ceisio osgoi derbyniadau trwy gynnal proses ‘sgrinio o safbwynt eiddilwch’ pan fo defnyddwyr gwasanaethau’n dod i’w sylw, er mwyn ysgogi asesiad geriatrig manwl a chynhwysfawr. Hyd yma, roedd y dull yn gweithio’n dda ac yn perfformio’n well na’r rhagfynegiadau cychwynnol. Mewn ymateb i ymholiad pellach ynghylch staffio yn Ysbyty Glangwili, rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig wybod i’r Pwyllgor bod 3 Geriatregydd yn y ddau ysbyty er bod un swydd wag yng Nghaerfyrddin ar hyn o bryd. Fodd bynnag, roedd yn bwysig bod yr holl glinigwyr yn sefydlu ‘dull eiddilwch’ ym mhob maes yn hytrach na dim ond atgyfeirio cleifion at y geriatregwyr.

 

Gofynnwyd a oedd digwyddiadau sy’n ymwneud â chwympiadau’n fwy cyffredin ar rai diwrnodau o’r wythnos. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig nad oedd unrhyw ddiwrnod penodol pan oedd y rhain yn digwydd ac, yn nodweddiadol, bod 20 o gwympiadau’n dod i sylw pob uned Damweiniau ac Achosion Brys bob dydd. Roedd hyn yn dangos pa mor bwysig oedd gwaith ataliol yn ogystal â sicrhau bod gwasanaethau’n newid o’r model traddodiadol a oedd yn golygu bod gwasanaethau’n cael eu darparu o 9-5 rhwng dydd Llun a dydd Gwener. Roedd bod â gwasanaethau ffisiotherapi a therapi galwedigaethol blaen t? yn ddatblygiad allweddol hefyd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am niferoedd y therapyddion galwedigaethol, cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod gan y gwasanaeth nifer lawn o therapyddion, ond bod angen am fwy a bod cais am fwy o adnoddau o’r Gronfa Gofal Canolradd wrthi’n cael ei baratoi i gael mwy o gymorth ffisiotherapi a therapi galwedigaethol yn y dyfodol. Roedd cyllid clwstwr meddygon teulu’n opsiwn arall hefyd i sicrhau therapyddion ychwanegol ac roedd un therapydd galwedigaethol wedi cael ei gyflogi yn ardal Taf/Teifi/Tywi a hwnnw’n gweithio o feddygfa deulu. Roedd yr ymyriad hwn wedi arwain at ostyngiad mewn amseroedd aros i weld therapydd galwedigaethol, o 3-4 wythnos. 

 

Roedd y newidiadau i’r trefniadau derbyn a rhyddhau yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn cael eu croesawu ond awgrymwyd fod newidiadau eraill i wasanaethau yn yr ysbyty wedi arwain at sefyllfa lle’r oedd niferoedd cynyddol o gleifion allanol yn ymweld â Glangwili yng Nghaerfyrddin, a oedd yn ei dro’n dwyn goblygiadau ar gyfer cludiant a pharcio. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig ei bod yn cydnabod bod mwy o waith i’w wneud yng Nglangwili, yn enwedig mewn perthynas â rhyddhau cleifion. Roedd disgwyl y byddai penodi nyrsys rhyddhau ychwanegol yn helpu unigolion i adael yr ysbyty yno’n fwy effeithlon. Roedd parcio ceir yn broblem barhaus a byddai pryderon y Pwyllgor yn cael eu trosglwyddo i’r swyddog perthnasol yn y Bwrdd Iechyd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am ddyfodol y Gronfa Gofal Integredig, rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig wybod i’r Pwyllgor bod swyddogion wedi cael papur briffio gan Lywodraeth Cymru a oedd yn nodi y byddai Cronfa Gofal Canolradd eleni’n darparu cyllid wedi’i glustnodi ar gyfer anableddau dysgu ac ar gyfer plant ag anghenion cymhleth, yn ogystal â’r cyllid cylchol ar gyfer oedolion h?n eiddil.

 

Cyfeiriwyd at yr ymwybyddiaeth gyfyngedig grybwylledig o’r gwasanaeth Ymateb Cyflym ymhlith meddygon teulu a gofynnwyd a oedd hyn wedi effeithio ar atgyfeiriadau. Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig wybod i’r Pwyllgor bod y gwasanaeth wedi cael ei hyrwyddo’n eang a bod angen newid diwylliannol. Roedd atgyfeiriadau gan feddygon teulu wedi cynyddu ond roedd angen mwy o welliant.

 

Cyfeiriwyd at yr argymhelliad bod angen ymchwil bellach i gadarnhau bod yr holl gynulleidfaoedd targed yn cael eu cyrraedd a gofynnwyd sut yr oedd swyddogion yn bwriadu gwneud hyn. Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig wybod i’r Pwyllgor y byddai data’r cyfrifiad a chofnodion meddygon teulu yn darparu gwybodaeth gychwynnol am ddemograffi a mynychder clefydau ond bod angen cadarnhau amgylchiadau cymdeithasol a mesur o’r hyn y gall fod ar gymunedau ei angen neu ei eisiau hefyd.

 

Cyfeiriwyd eto at boblogaeth y sir sy’n mynd yn h?n a gofynnwyd a oedd niferoedd y bobl h?n sydd yn yr ysbyty dros y gaeaf i’w priodoli i eiddilwch. Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig wybod i’r Pwyllgor nad oedd y galw wedi gostwng eto ers y gaeaf a bod gwelyau ychwanegol wedi cael eu prynu mewn gwahanol gartrefi gofal i ddiwallu’r angen am welyau asesu. Ychwanegodd nad cael asesiadau oedd y broblem ond yn hytrach mai cymhlethdod yr anghenion a oedd yn cael eu hadnabod a sicrhau’r gofal cywir ar gyfer yr anghenion hynny, oedd y rheswm bod y broses asesu wedi arafu.

 

Roedd y Pwyllgor yn croesawu’r adroddiad a PHENDERFYNODD YN UNFRYDOL ei fod yn derbyn yr adroddiad. 

Dogfennau ategol: