Agenda item

SAFONAU MAETHOL AR GYFER POBL HYN

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar safonau maeth ar gyfer pobl h?n, a oedd yn canolbwyntio’n bennaf ar gartrefi gofal a chanolfannau dydd yr Awdurdod Lleol. Roedd yr adroddiad yn cynnwys trosolwg ar y gwaith a wnaed gan y Gwasanaeth Arlwyo (Yr Adran Addysg a Phlant) i gefnogi’r Adran Cymunedau yn ogystal ag atebion i’r pedwar cwestiwn penodol, a godwyd yn flaenorol gan Aelodau’r Pwyllgor.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mewn ymateb i gwestiwn am gwmpas yr adroddiad, fe wnaeth yr Uwch-reolwr Arlwyo atgoffa’r Pwyllgor bod hyn yn ymwneud â chartrefi gofal yr Awdurdod Lleol. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod safonau maeth / arlwyo mewn cartrefi gofal annibynnol yn cael eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) er bod Tîm Comisiynu’r Awdurdod yn gweithio gyda darparwyr yn y sector annibynnol hefyd i sicrhau bod y safonau gofynnol yn cael eu cyrraedd. 

 

Mynegwyd pryder ynghylch rôl y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yng ngweithgarwch y Gwasanaeth Arlwyo i gaffael cyflenwadau bwyd. Cyfeiriwyd at amheuon y Pwyllgor Archwilio a’r Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau ynghylch diben y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a’i lwyddiant o ran sicrhau arbedion i’r Awdurdod Lleol. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Strategol ei fod yn cydnabod pryderon y Pwyllgor a bod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar ei hôl hi o ran sefydlu fframweithiau sy’n gysylltiedig â bwyd. Roedd yr oedi hwn wedi arwain yn ddiweddar at sefyllfa lle’r oedd contract bwyd pwysig wedi dod i ben a’r Gwasanaeth Arlwyo wedi cael ei orfodi i geisio estyniad ar y contract blaenorol. Fodd bynnag, gan fod y Cyngor Sir wedi ymrwymo i ddefnyddio’r gwasanaeth cenedlaethol, byddai’n rhaid i swyddogion weithio o fewn y canllawiau gofynnol a chydymffurfio â hwy.

 

Mynegwyd pryderon hefyd ei bod yn bosibl na fyddai’r Awdurdod Lleol yn gallu caffael bwyd gan gyflenwyr lleol ac y byddai gorfod defnyddio cyflenwyr pellach i ffwrdd yn cynyddu symudiad traffig o fewn y sir ac yn cynyddu llygredd aer. Nododd y Rheolwr Datblygu Strategol na fyddai caffael cyflenwadau trwy’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol o anghenraid yn golygu bod cyflenwyr lleol yn cael eu cau allan. Er enghraifft, roedd gan yr Awdurdod nifer o wahanol gontractau gyda chyflenwyr bara ac yn aml iawn roedd contractau ar gyfer rhai nwyddau’n ddibynnol ar y farchnad cyflenwyr.

 

Yng ngoleuni’r drafodaeth ynghylch y gwasanaeth caffael, cynigiodd y Cadeirydd fod pryderon y Pwyllgor yn cael eu hanfon ymlaen at yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau. Roedd y Pwyllgor yn cytuno â’r cynnig.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am y System NUTMEG, cadarnhaodd yr Uwch-reolwr Arlwyo fod y system yn cael ei phwysoli yn ôl oedran i sicrhau bod pobl h?n yn cael y lefel gywir o faethiad. Fe wnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Integredig atgoffa’r Pwyllgor bod yr adroddiad hwn yn ategu’r Safonau Maeth Cymunedol ar gyfer Gwasanaethau Integredig Sir Gaerfyrddin (a gafodd eu hystyried gan y Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar 16 Medi 2015). Ychwanegodd ei bod yn aml yn wir nad 3 phryd y dydd ar amseroedd penodedig oedd yr opsiwn gorau i lawer o bobl h?n, ac mai mathau penodol o brydau a byrbrydau wedi’u gwasgaru ar draws y diwrnod oedd y dull gorau yn aml. Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig at gynllun peilot diweddar yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli lle’r oedd ysgytlaethau â llawer o brotein a chawliau poeth yn cael eu rhoi i gleifion h?n. Roedd gostyngiad sylweddol mewn cwympiadau wedi cael ei gofnodi, ynghyd ag amseroedd rhyddhau cyflymach. Roedd Cartref Gofal Llys y Bryn hefyd wedi cyflwyno cornel byrbrydau a diodydd a oedd yn cynnig y cyfle i ddefnyddwyr y gwasanaeth fwyta ac yfed trwy gydol y dydd, yn hytrach nag ar amseroedd penodedig.

 

Cyfeiriwyd at yr holiadur ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau a gofynnwyd a oedd unrhyw awgrymiadau penodol wedi dod i law. Rhoddodd yr Uwch-reolwr Arlwyo wybod i’r Pwyllgor bod pob ymateb a gafwyd yn cael sylw unigol. Nid oedd unrhyw dueddiadau penodol ac roedd ymatebion yn ymwneud ar y cyfan â meintiau dognau (e.e. eu bod naill ai’n rhy fawr neu’n rhy fach).

 

Estynnodd y Cadeirydd longyfarchiadau i’r Cogydd â Gofal yng Nghartref Gofal Y Plas a oedd wedi cyrraedd rowndiau terfynol cystadleuaeth Cogydd Gofal y Flwyddyn yn y DU 2016, a fyddai’n cael eu cynnal ar 8 Mehefin.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

7.1       Derbyn yr adroddiad.

 

7.2.      Cyfleu pryderon y Pwyllgor ynghylch y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i’r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau. 

 

 

Dogfennau ategol: