Agenda item

ADRODDIAD TERFYNOL Y GRŴP GORCHWYL A GORFFEN - FFORMIWLA CYLLIDO ADY

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi crynodeb terfynol o waith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd i gynnal adolygiad o'r model cyllido Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) mewn ysgolion.  Mae'r cymorth ariannol ar gyfer ADY wedi profi llawer o bwysau a straen ers peth amser oherwydd y galw cynyddol ar y lefel bresennol o adnoddau sydd ar gael. Roedd y Pwyllgor hefyd yn ymwybodol o'r newidiadau allweddol sy'n cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn a fydd yn arwain at ffordd newydd o ddarparu cymorth i ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

 

Sefydlwyd yr adolygiad Gorchwyl a Gorffen i archwilio'r fformiwla cyllido bresennol ac i ystyried modelau amgen posibl i fodloni gofynion Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru).  Mae'r Ddeddf yn pwysleisio'r angen am broses integredig, gydweithredol o asesu, cynllunio a monitro sy'n hwyluso ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol. Roedd yr angen sylfaenol am fodel cyllido mwy ymatebol yn ystyriaeth allweddol.

 

Manylwyd ar nodau ac amcanion allweddol yr adolygiad mewn dogfen gynllunio a chwmpasu a gymeradwywyd yn y cyfarfod ar 4 Gorffennaf 2019 pan benderfynwyd sefydlu'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen, ynghyd â'r aelodaeth.

 

Fel rhan o'i ystyriaethau, ystyriodd y gr?p ystod eang o wybodaeth ar ffurf adroddiadau ysgrifenedig a llafar a oedd yn cynnwys modelau cyllido presennol a pharamedrau newydd posibl ar gyfer cyllido. Nododd y gr?p fod angen dirprwyo mwy o adnoddau ADY i ategu'r canlynol:-

 

·         cryfhau darpariaeth gyffredinol a darpariaeth wedi'i thargedu ar gyfer plant ag ADY;

·         cefnogi ysgolion i sefydlu ymyrraeth gynnar a dulliau gweithredu fesul cam mewn modd amserol;

·         galluogi ysgolion i gyflawni eu dyletswyddau statudol i wneud penderfyniadau sy'n ymwneud â Darpariaeth Dysgu Ychwanegol;

·         meithrin hyder rhieni/gofalwyr y gellir diwallu anghenion yn brydlon heb broses neu anghydfod diangen;

·         sicrhau adnoddau'n brydlon ar gyfer disgyblion sy'n destun Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy;

·         lleihau'r gofyniad am brosesau asesu a datganiadau statudol i gyfeirio cyllid ar gyfer disgyblion ADY â nifer fach o achosion o angen mawr;

·         cronfa ganolog ar gyfer anghenion meddygol cymhleth;

·         rhoi hyblygrwydd ariannol i ysgolion, galluogi ysgolion i gael gafael ar gymorth allanol amserol i blant, sicrhau bod gan ysgolion yr hyblygrwydd i ddiwallu anghenion plant, a chynnwys ysgolion yn well mewn penderfyniadau sy'n ymwneud ag ADY.

 

Roedd y Gr?p yn ystyried model cyllido dirprwyedig presennol y Cyngor. I'r rhan fwyaf o blant mewn ysgolion prif ffrwd, gan gynnwys y rhai ag ADY ac anableddau, dyrennir cyllid iddynt drwy gyllideb yr ysgol ac fe'i gelwir yn gyllid fesul disgybl.  Mae'r cyllid hwn yn cefnogi'r holl ddysgu ac fe'i defnyddir ar gyfer cyflogau staff, gan gynnwys y Cydlynwyr ADY, cyfleusterau ac adnoddau ADY.  Dylid gwario canran o gyfanswm y cyllid fesul disgybl a dderbynnir gan ysgol ar ddarparu ar gyfer disgyblion ag ADY.  Yn Sir Gaerfyrddin, disgwylir i ysgolion ddyrannu o leiaf 5% o'u cyllid fesul disgybl i'w cyllideb ADY.

 

Ystyriodd cyfres o weithdai gyda phenaethiaid amrywiol fodelau cyllido.  Cytunwyd yn ystod y gweithdai hyn bod angen i unrhyw fecanwaith cyllido fformiwla newydd gefnogi Trawsnewid ADY a fydd yn diwygio'r ffordd y caiff plant ag ADY eu nodi, eu hasesu a'u cefnogi.  Bydd categorïau blaenorol o ADY - gweithredu gan yr ysgol, gweithredu gan yr ysgol a mwy a datganiadau yn dod i ben, a bydd yn ofynnol i ysgolion wneud Darpariaeth Dysgu Ychwanegol statudol drwy Gynlluniau Datblygu Unigol.

 

Yn dilyn mewnbwn gan y gr?p gorchwyl a gorffen cytunodd yr ALl mewn ymgynghoriad â phenaethiaid i'r egwyddorion cyllido canlynol:-

 

·         £1,000 ar gyfer pob disgybl sy'n derbyn gofal

·         Gweddill wedi'i rannu'n 25% i brydau ysgol am ddim, 25% i weithredu gan yr ysgol, 50% i weithredu gan yr ysgol a mwy

 

Gyda'r bwriad, wrth i ddatganiadau leihau, y bydd cyllid yn trosglwyddo i'r atodiad ADY er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i ysgolion o ran diwallu anghenion disgyblion ag ADY.

 

Mewn ymgynghoriad â Phenaethiaid, ystyriodd y fformiwla amrywiaeth o ddangosyddion dirprwyol a oedd yn adlewyrchu natur gyd-destunol ysgolion:-

 

·         Amddifadedd cymdeithasol

·         Nifer y disgyblion

·         Prydau Ysgol am ddim

·         Plant sy’n Derbyn Gofal

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

8.1       nodi casgliad adolygiad y Gr?p Gorchwyl a Gorffen ar Gyllido Fformiwla ADY;

8.2       bod adroddiad terfynol y Gr?p Gorchwyl a Gorffen ar ADY yn cael ei gymeradwyo;

 

 

Dogfennau ategol: