Cofnodion:
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd wrth y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Rhagfyr 2020 (gweler cofnod 12), wedi ystyried adroddiad a fanylai ar y sylwadau a gafwyd ar Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo Sir Gaerfyrddin 2018-2033 mewn ymateb i benderfyniad y Cyngor ar 10 Ionawr 2018 i ddechrau paratoi CDLl Diwygiedig (Newydd) yn ffurfiol. Roedd y penderfyniad hwnnw'n cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus wyth wythnos o hyd a gynhaliwyd rhwng 29 Ionawr 2020 ac, yn dilyn estyniad o dros bythefnos, a ddaeth i ben ar 27 Mawrth 2020. Ategwyd hynny wedyn gan ymgynghoriad 3 wythnos arall a ddaeth i ben ar 2 Hydref 2020 i adlewyrchu effaith cau adeiladau cyhoeddus yn ystod wythnosau olaf yr ymgynghoriad oherwydd y pandemig Covid-19.
Nododd y Dirprwy Arweinydd fod yr adroddiad yn cyflwyno'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a'i fod yn ceisio nodi cyfres o Newidiadau â Ffocws arfaethedig mewn ymateb i'r argymhellion a ddaeth i law ynghyd â'r rheiny a allai fod wedi dod i'r amlwg o ganlyniad i newidiadau i ddeddfwriaeth, canllawiau, tystiolaeth neu, er mwyn rhoi eglurder ac ystyr. Roeddent hefyd yn rhoi cyfle i ymgorffori ac ymateb i faterion sy'n codi yn sgil Covid-19, fel yr adroddwyd i'r Cyngor yn yr Asesiad Covid-19 ar y cyd â'r Cytundeb Cyflawni Diwygiedig ar 22 Hydref 2020.
PENDERFYNWYD derbyn yr argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-
7.4.1 |
cymeradwyo argymhellion y swyddog ar yr ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad ynghylch y CDLl Diwygiedig Adneuo, yr Arfarniad Cynaliadwyedd, yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a'r Canllawiau Cynllunio Atodol; |
7.4.2 |
cytuno i gyflwyno'r rhestr o Newidiadau â Ffocws i'r Bwrdd Gweithredol i'w cymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus a fydd para o leiaf 6 wythnos; |
7.4.3 |
cymeradwyo cyflwyno'r CDLl Adneuo a'i ddogfennau ategol, tystiolaeth a dogfennau cefndir fel sy'n ofynnol i Weinidogion Llywodraeth Cymru i'w harchwilio; |
7.4.4 |
rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion ymateb i argymhellion a cheisiadau sy'n codi gan yr Arolygydd fel rhan o'r Archwiliad a'r sesiynau gwrandawiad; |
7.4.5 |
penderfynu mabwysiadu'r Canllawiau Cynllunio Atodol mewn perthynas ag ACA Caeau'r Mynydd Mawr a Chilfach Tywyn (yn amodol ar ganlyniad yr Archwiliad) ar yr un pryd â mabwysiadu'r CDLl Diwygiedig; |
7.4.6 |
rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud addasiadau teipograffyddol, cartograffig a/neu ffeithiol ansylweddol i wella eglurder a chywirdeb y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig a'i ddogfennau ategol”. |
Dogfennau ategol: