Agenda item

CYNLLUN RHEOLI ASEDAU PRIFFYRDD - ADRODDIAD DATGANIAD BLYNYDDOL 2020

Cofnodion:

[Ar ôl datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, arhosodd y Cynghorydd Higgins yn y cyfarfod, cymerodd ran yn y drafodaeth ynghylch yr adroddiad a phleidleisiodd.]

 

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Datganiad Blynyddol 2020 y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd, a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd.

 

Roedd Adroddiad Datganiad Blynyddol 2020 yn cynnwys trosolwg o'r rhwydwaith priffyrdd ac yn manylu ar y tri maes allweddol canlynol ynghylch asedau priffyrdd:

 

  • Priffyrdd (ffyrdd cerbydau, troedffyrdd a llwybrau beicio)
  • Pontydd a Strwythurau

·      Goleuadau Priffyrdd a Goleuadau Traffig

 

Ar gyfer pob un o'r asedau a nodwyd uchod, manylodd yr adroddiad ar y cyflwr, sut roedd y cyflwr wedi newid ers yr adroddiad diwethaf ac esboniodd y newidiadau yn y dyfodol yn seiliedig ar senarios cyllido a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad a oedd yn ategu cynnwys yr adroddiad.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Gofynnwyd a oedd cyllid grant Llywodraeth Cymru o £5.2M yn daliad untro neu a fyddai rhagor o gyllid ar gael? Esboniodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod cyllid grant Llywodraeth Cymru yn becyn cyllido tair blynedd a ddechreuodd yn 2018/19 a bod trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yn digwydd ar hyn o bryd ynghylch unrhyw gyllid yn y dyfodol.

 

·       Gwnaed ymholiadau penodol mewn perthynas â phryderon parhaus ynghylch arwyneb ffordd Heol Penygarn, T?-croes, Rhydaman. Roedd yr ymholiadau'n cynnwys: Pryd fyddai'r mater yn cael ei ddatrys ac a oedd unrhyw swyddogion/contractwyr wedi gweld cyflwr y ffordd? Dywedodd y Cadeirydd y dylai materion lleol gael eu codi y tu allan i'r Pwyllgor. Fodd bynnag, esboniodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod y ffordd dan sylw yn destun proses o'r enw chwistrellu hydro a gynhaliwyd gan gontractwr arwyneb yn 2019 a bod archwiliadau rheolaidd wedi'u cynnal. Aseswyd bod y ffordd yn ddiogel. Cynigiodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y mater penodol hwn i'r aelodau lleol.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad a godwyd mewn perthynas â chwblhau'r rhaglen newid i oleuadau LED, cadarnhaodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a'r Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod y rhaglen wedi'i chwblhau'n sylweddol yn 2020. Fodd bynnag, er bod y pandemig wedi gohirio'r dyddiad cwblhau a gynlluniwyd, roedd y Tîm Goleuadau Cyhoeddus wedi gweithio i gwblhau'r prosiect i newid yr holl oleuadau sodiwm i oleuadau LED cyn diwedd haf 2020.

 

·       Mewn perthynas ag effaith tywydd eithafol ar arwynebau ffyrdd, gofynnwyd pa rôl oedd gan newid yn yr hinsawdd o ran pa mor hir y bydd cyflyrau'n parhau i fod yn dderbyniol yn y dyfodol ac a gafodd hyn ei ystyried yn yr adroddiadau cyflwr? Eglurodd y Rheolwr Asedau Priffyrdd, er mai 20 mlynedd oedd yr amser a argymhellir i gadw arwyneb ffordd, bod sawl ffactor a allai effeithio ar yr hyd oes a argymhellir a'i newid. Felly, roedd yr Adran Briffyrdd yn defnyddio triniaethau cywir ac atal er mwyn ymestyn yr hyd oes, ond yn anffodus roedd llai o'r triniaethau hyn yn cael eu lleihau wrth i'r gyllideb leihau.


Mewn ymateb i ymholiad pellach, esboniodd y Rheolwr Asedau Priffyrdd bod gwarantau'n cael eu sicrhau wrth wneud buddsoddiadau mewn triniaethau. Yn ogystal, byddai'r adran yn gweithio tuag at gael y gwerth mwyaf o'r buddsoddiadau trwy sicrhau'r driniaeth gywir ar gyfer y lleoliad cywir.

 

·       Cyfeiriwyd at Dabl 1 ar dudalen 18 yr adroddiad. Mewn perthynas â ffyrdd dosbarth ‘C’ dywedwyd os nad yw’r buddsoddiad angenrheidiol yn cael ei wneud ar y ffyrdd yn awr, bod pryderon ynghylch y ffigurau yn y dyfodol. Esboniodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd yr anawsterau parhaus mewn perthynas â chael y cyllid sydd ei angen i gynnal a chadw ffyrdd ac adleisiodd fod yn rhaid blaenoriaethu ffyrdd sydd â llawer o draffig. Ychwanegodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod yn rhaid i'r adran, oherwydd yr ôl-groniad o £36m yn y bôn, sicrhau bod adnoddau'n cael eu blaenoriaethu yn unol â hynny.

 

·       Gan gyfeirio at y dechnoleg arolwg newydd trwy fideo, gwnaed ymholiad ynghylch a ddefnyddiwyd y dull hwn yn yr ardaloedd gwledig. Defnyddiwyd y dull newydd mewn ardaloedd gwledig ac roedd hefyd yn ddull da ar gyfer gwneud arolwg o lwybrau beicio ar draws Sir Gaerfyrddin.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad a wnaed ynghylch tyllau yn y ffordd a pham eu bod yn digwydd eto yn yr un lleoliad, esboniodd y Pennaeth Priffyrdd a Chludiant fod tyllau yn y ffordd yn digwydd am nifer o wahanol resymau gan gynnwys oherwydd bod arwyneb y ffordd yn mynd yn hen yn gyffredinol, gwendid posibl yn strwythur yr arwyneb a/neu'r deunydd sylfaenol a d?r o dan yr arwyneb i enwi ond ychydig.

 

·       Mynegwyd pryder y byddai ffyrdd dosbarth ‘C’ yn dirywio gan fod cyllid cyfalaf yn cael ei neilltuo i atgyweirio a rhoi arwyneb newydd ar y ffyrdd â llawer o draffig.

 

·       Cyfeiriwyd at dudalen 28 yr adroddiad - Atgyfnerthu/Adeiladu pontydd newydd. Gofynnwyd am eglurhad mewn perthynas â'r 54 pont nad ydynt yn cyrraedd y safon ofynnol. Cadarnhaodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth hefyd fod gan bontydd derfyn pwysau o 44 tunnell, sef y prif reswm pam nad ydynt yn cyrraedd y safon ofynnol. Fodd bynnag, rhoddodd sicrwydd i Aelodau'r Pwyllgor fod y pontydd yn cael eu harchwilio'n rheolaidd a'u bod yn ddiogel yn strwythurol.

 

·       Cyfeiriwyd at dudalen 30 yr adroddiad - Polion Golau. Wrth gydnabod bod mwy na 20k o bolion golau ar hyn o bryd a oedd yn cynnwys unedau mewn bracedi ar bolion pren trydydd parti, gofynnwyd a oedd yn bosibl buddsoddi mewn mwy o bolion trydydd parti? Esboniodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod y duedd ddiweddar, yn anffodus, yn dangos i'r gwrthwyneb yn yr ystyr bod trydydd partïon yn gofyn am gael gwared ar gyfarpar sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

·       Er mwyn gallu ymateb yn gyflym i dywydd gwael fel glaw trwm a llifogydd lleol, gofynnwyd a oedd unrhyw bosibilrwydd o weithio'n agos gyda Chynghorau Tref a Chymuned i storio a chael mynediad at fagiau tywod? Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod y Polisi Bagiau Tywod yn cynnwys lleoliadau strategol lle roedd bagiau tywod yn cael eu rhoi a bod y lleoliadau hyn yn cael eu monitro yn dilyn tywydd garw.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad a wnaed mewn perthynas â'r tirfeddianwyr sydd wedi cael gwybod bod clefyd coed ynn ar eu tir, esboniodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod y tîm yn gweithio'n agos gyda thirfeddianwyr ac yn achos goblygiadau diogelwch a nodwyd o ran y briffordd, byddai'r Adran Priffyrdd yn cysylltu â'r tirfeddiannwr i'w gynghori ynghylch trefnu bod y goeden wedi'i heintio yn cael ei gwaredu ar frys.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad a wnaed mewn perthynas â buddsoddiad cyfalaf ar gyfer cynnal a chadw llwybrau troed, eglurodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth, er bod adnoddau'n cael eu blaenoriaethu, os na fydd cyfalaf yn cael ei fuddsoddi byddai hyn yn rhoi pwysau ar gyllidebau refeniw. Ychwanegodd y Rheolwr Asedau Priffyrdd fod £100k wedi’i fuddsoddi yn rhwydwaith llwybrau troed a llwybrau beicio’r Sir.

 

·       Gofynnwyd a ellid defnyddio arian Adran 106 i fynd i'r afael â materion diogelwch priffyrdd? Esboniodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod arian Adran 106 i'w ddefnyddio ar gyfer canlyniadau datblygiad newydd yn unig ac eglurodd nad oedd yr arian i gael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith rheolaidd i gynnal a chadw priffyrdd.

 

·       Diolchodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ddiffuant i'r swyddogion am ddarparu adroddiad cynhwysfawr a gwerthfawr iawn a oedd yn dangos y swm sylweddol o asedau yr oedd yn rhaid eu rheoli ar gyllideb gyfyngedig a oedd yn lleihau o hyd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad Datganiad Blynyddol 2020 y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd.

 

 

Dogfennau ategol: