Agenda item

DEDDF YR AMGYLCHEDD 1995 - YMGYNGHORIAD CYHOEDDUS YNGHYLCH ANSAWDD AER CAERFYRDDIN

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i ddiweddariad ar y broses ymgynghori a gynhaliwyd mewn perthynas â chynnig i ddatgan Ardal Rheoli Ansawdd Aer yng Nghaerfyrddin. Nododd y Pwyllgor ei fod wedi cael y cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad ynghylch y cynnig yn ei gyfarfod ym mis Ebrill 2015. Roedd yr adroddiad yn nodi’r ymatebion a oedd wedi dod i law yn ystod y cyfnod ymgynghori a ddechreuodd ar 5 Hydref 2015 ac a ddaeth i ben ar 30 Tachwedd 2015. Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau penodol wedi dod i law mewn perthynas â phennu’r terfyn er bod Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd yn cydnabod bod pryderon wedi cael eu codi ynghylch y ffaith nad oedd y terfyn arfaethedig yn cynnwys Heol Ffynnon Job, Heol y Coleg na Heol Llansteffan.

 

Codwyd y materion canlynol mewn perthynas â’r adroddiad:

 

Mynegwyd siom fod Heol Ffynnon Job, Heol y Coleg a Heol Llansteffan yn dal i fod y tu allan i derfyn yr Ardal Rheoli Ansawdd Aer. Rhoddodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd wybod i’r Pwyllgor, oherwydd y dystiolaeth ategol sy’n ofynnol i ddynodi Ardal Rheoli Ansawdd Aer, bod gwaith monitro ansawdd aer a wnaed yn flaenorol ar y ffyrdd hyn wedi nodi ei bod yn annhebygol y byddai’r Amcan Ansawdd Aer yn cael ei dorri. Fodd bynnag, roedd ystyriaeth ddyledus wedi cael ei rhoi i’r pryderon ynghylch y ffyrdd hyn ac roedd cydnabyddiaeth bod rhai darnau o’r ffyrdd yn dioddef tagfeydd sylweddol yn ystod oriau brig. Roedd yn rhaid cymryd y datblygiad newydd yng Ngorllewin Caerfyrddin a’r Ffordd Gyswllt newydd i ystyriaeth hefyd a, hyd yma, roedd effaith y datblygiadau hyn yn anhysbys. Tybid y byddai’r ffordd gyswllt yn lleddfu’r pwysau ar y ffyrdd hyn a chyda’r ffactorau hyn mewn cof, tybid nad oedd yn briodol eu cynnwys o fewn terfyn yr Ardal Rheoli Ansawdd Aer ar hyn o bryd. Fodd bynnag, byddai’r ardaloedd hyn yn parhau i gael eu monitro a gallent gael eu cynnwys yn ddiweddarach, pe bai angen hynny.

 

Cyfeiriwyd at ganlyniadau’r Tiwb Tryledol NO2 ar gyfer 50 Heol y Prior a gofynnwyd beth allai fod wedi achosi cynnydd mor sylweddol ar ôl 2011/12. Datganodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd nad oedd y rheswm yn hysbys ond y gallai fod wedi deillio o waith ffordd, cyflwyno goleuadau traffig neu’r tywydd. Ychwanegodd, pe bai’r cynnig i ddatgan Ardal Rheoli Ansawdd Aer yn cael ei gymeradwyo, y byddai grwpiau gweithredu a’r rheiny’n cynnwys amrywiaeth o swyddogion yn dadansoddi’r data hwn mewn mwy o fanylder er mwyn canfod y rhesymau dros yr amrywiant hwn. Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg ei fod yn debygol o fod wedi deillio o gyfuniad o ffactorau megis gwelliannau technolegol i gerbydau, llif traffig a chyflwyno parth 20mya y tu allan i Ysgol Parc Waun-dew.

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL ei fod yn derbyn yr adroddiad ac y dylid argymell wrth y Bwrdd Gweithredol ei fod yn cymeradwyo:

 

7.1       Y cynnig i gyhoeddi Gorchymyn yn dynodi terfyn Ardal Rheoli Ansawdd Aer ar gyfer Caerfyrddin fel a ddangosid yn yr adroddiad a oedd wedi’i atodi; 

 

7.2       Y cynnig i sefydlu Gr?p Llywio a hwnnw’n cynnwys yr holl randdeiliaid perthnasol i roi cymorth i ddatblygu Cynllun Gweithredu; a hefyd

 

7.3       Y cynnig i ddatblygu Cynllun Gweithredu yn unol â gofynion deddfwriaethol a fydd yn mynd ar drywydd gwella ansawdd aer a lleihau lefelau nitrogen deuocsid yn yr Ardal Rheoli Ansawdd Aer.

 

Dogfennau ategol: