Agenda item

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO

Cofnodion:

5.1 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/40612

BWRIAD I DDYMCHWEL AC AILADEILADU'R GAREJ GAN GYNNWYS EHANGU'R CWRTIL A MYNEDIAD NEWYDD I GERBYDAU, WERN VILLA, MEIDRIM, CAERFYRDDIN SA33 5QN

 

Cafwyd sylw a wrthwynebai'r cais ac a ailbwysleisiai'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, ac roedd yn cynnwys pryderon ynghylch y canlynol:

  • Dyluniad, maint ac uchder y garej arfaethedig:
  • Y potensial i'r garej gael ei defnyddio at ddefnydd busnes ac nid fel garej ddomestig
  • Y potensial i'r garej gael ei haddasu at ddefnydd preswyl yn y dyfodol
  • Colli golygfa

 

Ymatebodd yr Ymgeisydd a'r Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

5.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/00015

SIED ARDD, 25 HEOL LLANDEILO, GORS-LAS, LLANELLI, SA14 7LL

 

 

5.3 PENDERFYNWYD:-

 

5.3.1

bod cais cynllunio W/40030 yn cael ei ganiatáu yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio i'w wrthod ar y sail bod y Pwyllgor o'r farn bod y datblygiad arfaethedig yn bodloni rhai o brofion TAN6 gan fod yr ymgeisydd yn bodloni'r gofyniad am annedd ychwanegol ar y safle, profwyd hyfywedd ariannol, ystyriwyd bod lleoliad yr annedd arfaethedig yn ddigon agos at brif adeiladau'r fferm yn Fferm Blaenffos a'i fod yn cydymffurfio â'r prawf ar gyfer darparu tai fforddiadwy/annedd menter wledig.

5.3.2

Bod caniatâd yn cael ei roi yn amodol ar y ddau amod penodol canlynol:

 

  1. ystyrir bod yr annedd ar y brif fferm yn Fferm Blaenffos, ynghyd â'r annedd newydd arfaethedig, yn Anheddau Mentrau Gwledig ac ynghlwm wrth adeiladau'r fferm gan osgoi'r potensial i'r fferm gael ei darnio yn y dyfodol

2.     ni fydd unrhyw waith yn dechrau ar yr annedd newydd arfaethedig cyn llofnodi'r cytundeb cyfreithiol priodol sy'n ofynnol o dan TAN6 i drosglwyddo perchnogaeth y fferm i'r ymgeisydd

 

W/40030

ANNEDD MENTER WLEDIG ARFAETHEDIG I GYNNWYS MYNEDIAD I GERBYDAU, A GOSOD GWAITH TRIN CARTHION BACH, MOELFRYN, PANTYBWLCH, CASTELLNEWYDD EMLYN, SA38 9JE

(NODER:

[

·                1. Am 1:23pm tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol 9 o Weithdrefn y Cyngor – Hyd y cyfarfod – ac, oherwydd bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers bron tair awr, penderfynwyd gohirio ystyried y rheolau sefydlog, yn unol â Rheol 23.1 o Weithdrefn y Cyngor, er mwyn galluogi'r Pwyllgor i gwblhau'r gwaith a oedd yn weddill ar yr agenda.

·                    2. Gadawodd y Cadeirydd y cyfarfod am 1.23pm a bu'r Is-gadeirydd, sef y Cynghorydd H.I. Jones, yn cadeirio gweddill y cyfarfod]

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i adroddiad y Pennaeth Cynllunio a oedd yn manylu ar y rhesymau dros argymell gwrthod cais W/40030 ar y sail ei fod wedi methu â chydymffurfio'n llawn â'r 5 prawf a nodir yn Nodyn Cyngor Technegol 6 (TAN6) ar gyfer cymeradwyo Annedd Menter Wledig. Fodd bynnag, mewn perthynas â'r profion hynny, dadleuwyd bod yr ymgeisydd wedi bodloni rhai o'r profion hynny'n gyfan gwbl neu'n rhannol gan ei fod wedi profi'r angen am annedd ychwanegol ar y safle, roedd yn bodloni'r prawf ariannol, ystyriwyd bod lleoliad yr annedd yn ddigon agos at brif adeiladau'r fferm yn Fferm Blaenffos a'i fod yn cydymffurfio â'r prawf ar gyfer annedd tai fforddiadwy/annedd menter wledig. Am y rhesymau hynny, roedd y Pwyllgor o'r farn y dylid caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, ond y dylai unrhyw ganiatâd fod yn amodol ar y ddau amod penodol canlynol:-

 

  1. ystyrir bod yr annedd ar y brif fferm yn Fferm Blaenffos, ynghyd â'r annedd newydd arfaethedig, yn Anheddau Mentrau Gwledig ac ynghlwm wrth adeiladau'r fferm gan osgoi'r potensial i'r fferm gael ei darnio yn y dyfodol
  2. ni fydd unrhyw waith yn dechrau ar yr annedd newydd arfaethedig cyn llofnodi'r cytundeb cyfreithiol priodol sy'n ofynnol o dan TAN6 i drosglwyddo perchnogaeth y fferm i'r ymgeisydd

 

Dogfennau ategol: