Agenda item

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2020/21

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer gwasanaethau y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Awst 2020, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2020/21.

 

Eglurodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod y crynodeb ar gyfer gwasanaethau'r Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd yn rhagweld gorwariant o £1,264K ar y gyllideb refeniw.  Roedd yr amrywiannau ar gynlluniau cyfalaf, a nodwyd yn yr adroddiad, yn dangos gwariant net rhagweladwy o £11,088k o gymharu â chyllideb net weithredol o £14,397k gan roi amrywiant o -£3,291k.  Yn ogystal, roedd y gyllideb yn cynnwys dyraniad newydd o £74k gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau mynediad i hawliau tramwy.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau wrth y Pwyllgor fod y gyllideb yn cynnwys dyraniad newydd o £74k gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau mynediad i hawliau tramwy.

 

Codwyd nifer o gwestiynau/sylwadau wrth drafod yr adroddiad. Dyma'r prif faterion:

 

·       Cyfeiriwyd at Atodiad 2 yr adroddiad [tudalen 63].  Mewn ymateb i ymholiad mewn perthynas â'r swydd wag dros dro yn yr adran Hawliau Tramwy Cyhoeddus, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd fod y swydd wedi dod yn wag oherwydd dyrchafiad diweddar a byddai'r broses o lenwi'r swydd yn dechrau yn y dyfodol agos.

 

·       Cyfeiriwyd at Atodiad 2 yr adroddiad [tudalen 61].  Gofynnwyd pryd y byddai'r swyddi gwag yn yr adain Diogelwch Anifeiliaid yn cael eu llenwi?  Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod y broses o lenwi'r swyddi wedi dechrau, ac ar ôl penodi iddynt byddai'r tîm yn llawn.

 

·       Cyfeiriwyd at Atodiad 2 yr adroddiad [tudalen 62].  Gofynnwyd pwy ariannodd Grant Cymorth Covid-19 Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed-Powys, ac a oedd potensial i'w dderbyn eto y flwyddyn nesaf?  Cadarnhaodd Cyfrifydd y Gr?p fod Grant Cymorth Covid-19 Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed-Powys wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac y byddai'n gofyn am arweiniad gan Lywodraeth Cymru ynghylch a ellid cario arian drosodd i'r flwyddyn ariannol nesaf, yn dibynnu ar faint oedd yn cael ei wario yn y flwyddyn ariannol hon.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad mewn perthynas â thaliadau'r dyfodol o ran PPE, Glanhau a Chorffdai, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu'r holl faterion oedd yn ymwneud â Covid-19. Fodd bynnag, pwysleisiwyd bod y cyllid yn y dyfodol yn dibynnu'n helaeth ar barhad yr arian a ddoi i Lywodraeth Cymru gan y Llywodraeth Ganolog.

 

·       Mewn perthynas â'r Hebryngwyr Croesfannau Ysgol, eglurodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod pob safle lle roedd gwasanaeth o'r fath wedi bod yn destun asesiadau risg iechyd a diogelwch cyn i'r ysgolion ailgychwyn, er mwyn sicrhau y gallent weithredu'n ddiogel o ran Covid-19 a'r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol. Bu i'r Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd ailddatgan bod safleoedd wedi'u hasesu mewn perthynas â Covid-19 ac ychwanegodd, yn unol ag arbedion effeithlonrwydd i'r gyllideb, fod asesiadau risg o safleoedd wedi'u cynnal. Lle nad oedd safle'n bodloni'r Meini Prawf Diogelwch Cenedlaethol, pan fyddai Hebryngydd yn gadael  gwasanaeth neu'n ymddeol ni fyddai un arall yn cael ei benodi yn ei le. Lle bo hynny'n digwydd, byddai'r adran yn ymgysylltu â'r ysgol ynghylch opsiynau eraill, gan gynnwys ystyried defnyddio gwirfoddolwyr. Fodd bynnag, dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd y gallai fod yn anodd recriwtio ar gyfer rhai safleoedd, hyd yn oed pe bai taliad yn cael ei gynnig.


 

·       Cyfeiriwyd at Atodiad 2 yr adroddiad [tudalen 69].  Gofynnwyd beth oedd ystyr y sylw 'offset variances in other areas' o ran y Cynlluniau Gwella Diogelwch ar y Ffyrdd? Eglurodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod £569k wedi'i ddyrannu ar gyfer cyfalaf diogelwch ar y ffyrdd a gwelliannau i droedffyrdd. Roedd rhywfaint ohono yn arian cyfatebol ar gyfer grantiau oedd wedi dod i law, gan alluogi cyfraniad i gael ei wneud tuag at brosiectau cyfalaf o dan benawdau cyllideb eraill yn yr adroddiad er mwyn cael mwy o werth o ran canlyniadau diogelwch ar y ffyrdd. Nodwyd hefyd, er bod heriau o ran cyflawni prosiectau oherwydd pandemig Covid, mai'r bwriad oedd darparu'r rhaglen gwaith grant yn ei chyfanrwydd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: