Agenda item

EFFAITH Y PANDEMIG COVID AR CARTREFI A CHYMUNEDAU MWY DIOGEL

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd a roddodd grynodeb o sut roedd pandemig Covid-19 wedi effeithio ar wasanaethau Diogelu'r Cyhoedd o safbwynt defnyddiwr gwasanaeth, staff a'r Cyngor, gan roi gwybodaeth glir am y camau a gymerwyd.

 

Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar faterion cyflawni allweddol a datblygiadau yn y dyfodol yn y meysydd gwasanaeth canlynol:

 

·       Profi, Monitro ac Olrhain (TTP);

·       Iechyd Anifeiliaid;

·       Trwyddedu;

·       Uned Ymchwilio Ariannol;

·       Safonau Masnach;

·       Tîm COVID-19 - Cyngor a Gorfodi;

·       Llygredd;

·       Iechyd a Llesiant y Cyhoedd; a

·       Bwyd, Diogelwch ac Iechyd

·       C?n yn baeddu; Cerbydau wedi eu gadael ac ati

 

Codwyd nifer o gwestiynau/sylwadau wrth drafod yr adroddiad.  Dyma'r prif faterion:

 

·       Gofynnwyd a fu unrhyw broblemau o ran cael y wybodaeth gywir gan y cyhoedd?  Cydnabu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd, er bod yna unigolion nad oeddent yn cadw at y rheoliadau a'r cyngor a roddwyd er mwyn lleihau'r gyfradd drosglwyddo, fod y canrannau ar dudalen 45 yn rhoi sicrwydd bod y tîm monitro ac olrhain oedd wedi'i sefydlu yn y Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd yn parhau i ddarparu Gwasanaeth Monitro ac Olrhain llwyddiannus ac i ddarparu'r cyngor a'r arweiniad angenrheidiol.  Roedd y tîm yn rheoli'r broses TTP ar y cyd â chydweithwyr rhanbarthol a Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

 

Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod y tîm TTP, ar gyfer yr wythnos 16 - 22 Tachwedd 2020, wedi llwyddo i wneud cyswllt ag 89% o'r 337 o unigolion a oedd wedi cael canlyniad Covid-19 positif. Dywedwyd bod y tîm TTP wedi cael trafferth cysylltu â rhai unigolion gan nad oeddent yn ateb galwadau ffôn.

 

Mynegwyd pryder fod y cyhoedd yn dal yn ôl wybodaeth hanfodol a oedd yn helpu i olrhain cysylltiadau. Cydnabu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd y pryder a dweud bod y tîm TTP yn gwneud eu gorau glas i reoli'r sefyllfa yn Sir Gaerfyrddin.  Yn ogystal, dywedwyd ei bod yn bosibl fod rhai gweithwyr yn dal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol er mwyn osgoi gorfod derbyn tâl salwch.  


 

Mynegwyd pryderon yngl?n â'r cyfnod roedd Covid-19 yn heintus ac a oedd y wybodaeth hon yn cael ei chyfleu'n briodol.  Roedd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel yn cytuno y gallai'r tîm TTP, ar y cyd â Hywel Dda ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyflwyno negeseuon clir ynghylch y cyfnod heintus a fyddai'n helpu i roi'r wybodaeth i'r cyhoedd. 

 

Mewn ymateb i ymholiad cynharach, dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel ei fod wedi derbyn cadarnhad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mai 10 diwrnod oedd cyfnod heintus Covid-19, ac felly prawf positif oedd y canlyniad yn debygol o fod yn ystod y cyfnod hwn.

 

Dywedwyd mai dim ond ar y ffonau clyfar diweddaraf roedd modd lawrlwytho'r ap monitro ac olrhain, ac felly mynegwyd pryder y gallai rhai o'r cyhoedd fod yn cael eu hanwybyddu gan nad oeddent yn gallu cymryd rhan yn y broses monitro ac olrhain. Rhoddodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel sicrwydd bod ap y GIG yn rhywbeth a oedd yn gwbl ar wahân i'r broses TTP.  Mae'r tîm TTP yn gwneud pob ymdrech i gysylltu â'r rhai yr effeithir arnynt dros y ffôn.

 

·       I gydnabod y llwyth gwaith ychwanegol oedd ar yr adran Safonau Masnach, gofynnwyd a oedd yn bosibl cyflogi aelodau ychwanegol i ymdopi â'r galw.  Rhoddwyd sicrwydd gan y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel y byddai 7 o weithwyr ychwanegol yn ymuno â'r adran yn ystod yr wythnos nesaf, ac roedd hynny wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. 

 

Mynegodd y Pwyllgor a'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol eu diolchgarwch i'r staff a'r rheolwyr am eu hymrwymiad i ddelio â'r sefyllfaoedd anoddaf posibl, o ddigartrefedd, rheoli tai, ac ymgysylltu â'r gymuned i ddatblygu a buddsoddi. Roedd yr hyblygrwydd a'r modd roedd pawb wedi addasu yn rhywbeth i'w glodfori.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: