Cofnodion:
Cafodd y Pwyllgor adroddiad, a gyflwynwyd gan Arweinydd y Cyngor (sy'n gyfrifol am Adfywio), ar effaith pandemig Covid-19 ar economi a busnesau Sir Gaerfyrddin ac a nodai'r hyn oedd yn bwysig yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir er mwyn darparu'r cymorth yr oedd ei angen fwyaf arnynt. Tynnodd yr adroddiad sylw at y mesurau a gymerwyd gan y Cyngor yn yr ymateb brys cychwynnol, ynghyd â'r mesurau a gyflwynwyd/oedd yn cael eu cyflwyno fel rhan o Strategaeth Adfer y Cyngor.
Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Mewn ymateb i gwestiwn ar fenter 'Deg Tref' y Cyngor, cadarnhawyd y byddai ymgyngoriadau ar hynny'n cychwyn yn fuan drwy lwyfannau digidol rhithwir, a byddai'r Cyngor yn cael ei ddiweddaru wrth i'r cynllun fynd rhagddo.
· Mewn ymateb i gwestiwn ar hyrwyddo Cyngor Sir Gâr, cadarnhawyd y byddai hynny'n digwydd drwy amrywiaeth o lwyfannau cyfryngol yn unol â chynllun cyfathrebu'r Cyngor.
· Cyfeiriwyd at gostau ariannol y pandemig i'r awdurdod a sut y gallai hynny effeithio ar ei raglen gyfalaf. Cadarnhaodd Arweinydd y Cyngor, er y byddai effaith, fod y rhaglen yn cael ei gwerthuso a'i hail-flaenoriaethu ar hyn o bryd gyda phwyslais ar Ddatblygiad ac Adferiad Economaidd.
· Mewn ymateb i gwestiwn ar gyfraddau diweithdra ar gyfer y gr?p oedran 50+, sicrhawyd y Pwyllgor y byddai rhaglenni adfer y Cyngor yn rhoi sylw i gyfleoedd gwaith i bob gr?p oedran.
· Cyfeiriwyd at ddarparu sgiliau newydd/uwchsgilio, yn enwedig sgiliau digidol ar gyfer y gweithlu h?n, a pha fesurau oedd yn cael eu cyflwyno i ddiwallu eu hanghenion.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor mai un o brif themâu Rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe oedd y Fenter Sgiliau a Thalent sy'n cael ei datblygu ar hyn o bryd, yr oedd y Cyngor yn arwain arni, lle roedd yr ethos ar ailsgilio ac uwchsgilio, a fyddai'n helpu i wella sgiliau'r gweithlu ar draws y rhanbarth. Yn ddiweddar roedd Cyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig hefyd wedi cymeradwyo cyflwyno Cynllun Pentre Awel y Cyngor i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'w gymeradwyo. Pe bai'n cael ei gymeradwyo, byddai hynny'n creu tua 2,000 o swyddi dros y pum mlynedd nesaf ar draws pob gr?p oedran yn rhanbarth y fargen ddinesig. Roedd Rhaglen Gyfalaf y Cyngor hefyd yn targedu creu swyddi fel prif thema.
Dywedodd y Pennaeth Adfywio fod y Fenter Sgiliau a Thalent yn cydnabod yr angen i fynd i'r afael ag anghenion sgiliau a hyfforddiant ar sail ranbarthol mewn partneriaethau, a byddai'r Cyngor yn gweithio gyda darparwyr addysg gan gynnwys Coleg Sir Gâr yn hynny o beth. Er sylweddoli bod sgiliau digidol pobl yn amrywio, byddai'r Cyngor hefyd yn ail-gyflwyno staff cyflogadwyedd i'w ganolfannau hwb cyn hir ar ddydd Mawrth a dydd Iau i gynorthwyo pobl, drwy apwyntiad, i gyrchu gwybodaeth ddigidol.
Dywedodd hefyd fod 'lleoliaeth' yn bwysig o ran cynorthwyo adferiad economaidd, ac roedd y Cyngor yn edrych ar ei brosesau caffael i weld y ffordd orau y gallai'r economi leol elwa drwy ddarparu nwyddau a gwasanaethau iddo. Amcangyfrifwyd pe bai'r Cyngor yn cynyddu ei wariant ar nwyddau a gwasanaethau lleol 10% y byddai hynny'n cyfateb i wariant o £30m, gan arwain at gynnydd mewn cyfleoedd swyddi lleol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad
Dogfennau ategol: