Cofnodion:
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar gynigion i gyflwyno Gorchmynion Datblygu Lleol ar gyfer Canol Tref Caerfyrddin a Chanol Tref Rhydaman. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y rôl bosibl y gallai Gorchmynion Datblygu Lleol ei chwarae fel rhan o gynigion adfywio ehangach yng nghyd-destun Canol y Dref, yn enwedig o ran Caerfyrddin a Rhydaman wrth gefnogi'r Fenter Lleoedd Llewyrchus a sicrhau eu bod yn gallu gwrthsefyll effeithiau economaidd COVID-19. Roedd y cynigion hefyd yn rhoi sylw dyledus i Gynllun Adfer Corfforaethol y Cyngor a Chanllawiau Cynllunio Llywodraeth Cymru – 'Adeiladu Lleoedd Gwell’.
Nodwyd bod Gorchymyn Datblygu Lleol yn rhoi cyfle i Awdurdod Cynllunio Lleol symleiddio'r broses gynllunio drwy ddileu'r angen i ddatblygwyr/ymgeiswyr gyflwyno cais cynllunio i'r Awdurdod ac i gyflwyno cynigion datblygu fel cais am Orchymyn Datblygu Lleol, gan ganiatáu i awdurdod weithredu'n rhagweithiol mewn ymateb i amgylchiadau lleol penodol yn ei ardal ddaearyddol.
Cyfeiriwyd at y cynnig i gynnwys rhan isaf Heol Awst, Caerfyrddin yn rhan o'r Gorchymyn Datblygu Lleol ar gyfer Canol Tref Caerfyrddin. Mynegwyd barn y dylid cynnwys y stryd honno yn ei chyfanrwydd yn y cynnig drafft a bod argymhelliad i'r perwyl hwnnw'n cael ei wneud i'r Cyngor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-
6.1 |
Bod cwmpas y Gorchymyn Datblygu Lleol arfaethedig yn cael ei gymeradwyo i'w ystyried drwy gyfrwng y broses adrodd ddemocrataidd; |
6.2 |
Bod y Gorchmynion Datblygu Lleol yn cael eu paratoi ar gyfer y trefi perthnasol gan gynnwys cynnal ymgynghoriadau ffurfiol fel y bo'n briodol ac adrodd ymhellach ar eu cwmpas, eu cynnwys a'u graddau daearyddol arfaethedig; |
6.3 |
Cymeradwyo cyhoeddi'r Gorchymyn Datblygu Lleol terfynol ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus am gyfnod o 6 wythnos o leiaf; |
6.4 |
Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion baratoi tystiolaeth i gefnogi'r Gorchymyn Datblygu Lleol; |
6.5 |
Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud mân newidiadau golygyddol a ffeithiol; |
6.6 |
Diwygio'r cynllun ar gyfer Gorchymyn Datblygu Lleol Canol Tref Caerfyrddin i gynnwys Heol Awst, Caerfyrddin yn ei chyfanrwydd. |
Dogfennau ategol: