Cofnodion:
4.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
S/40172
|
Cais ôl-weithredol am gadw un t? annedd ar Lain 4, Cae Linda, Trimsaran, Cydweli, SA17 4AQ
Cyflwynwyd sylwadau gan yr Aelod Lleol a oedd yn ailbwysleisio'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, a oedd yn cynnwys pryderon ynghylch y canlynol:
Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.
|
PL/00194 |
Bwriad i ddymchwel ac yna ailadeiladu adeilad tri llawr i ddarparu defnydd masnachol ar yllawr gwaelod a defnydd preswyl ar y lloriau uchaf gyda pharcio cysylltiedig.
|
4.2 Cais cynllunio DNS/00427– DNS (Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol) – Parc Solar Arfaethedig (DNS/3227364) gan gynnwys llwybr cebl arfaethedig ar dir i'r dwyrain o'r A48 a thir i'r de-orllewin o D?-croes, gerllaw Fferm Solar Clawdd Ddu, T?-croes, Rhydaman, SA18 3RE
[Sylwer: Am 11:45am ac wrth ystyried yr eitem hon, cafodd y Pwyllgor ei ohirio am 15 munud oherwydd materion technegol.]
Hysbyswyd y Pwyllgor, yn dilyn cyflwyno dau Ddatblygiad Cenedlaethol ei Arwyddocâd (DNS) i Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy megis ynni'r haul yn Sir Gaerfyrddin yn Llangennech a ger T?-croes, ei bod yn ofynnol i'r Cyngor, fel ymgynghorydd, greu Adroddiad Effaith Leol (LIR) yn tynnu sylw at effeithiau lleol posibl y byddai angen i Lywodraeth Cymru eu hasesu wrth iddi ystyried y ceisiadau.
Er y byddai'r Adroddiad Effaith Leol yn cael ei gwblhau gan y Pennaeth Cynllunio, yr oedd angen awdurdod dirprwyedig ar ei gyfer, hysbyswyd y Pwyllgor y gallai wneud ei sylwadau ei hun i Lywodraeth Cymru. Byddai'r sylwadau hynny’n cael eu nodi yng nghofnodion y cyfarfod hwn cyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Nodwyd bod y cais presennol yn ymwneud â safle T?-croes yn unig a bod safle Llangennech wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor Cynllunio yn ystod y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Medi 2020.
Yn sgil hynny, derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a chyflwyniad sleidiau, gan gynnwys lluniau drôn o'r lleoliad y manylir arno yn y cais, cyfeirnod DNS/00427.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
4.2.1 |
Nodi'r adroddiad gwybodaeth ar gais DNS/00427 |
4.2.2 |
Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Pennaeth Cynllunio gyflwyno Adroddiad Effaith Leol i Lywodraeth Cymru |
4.2.3 |
Bod y Pwyllgor yn cyflwyno'r sylwadau canlynol i Lywodraeth Cymru
1. Dylai unrhyw gymeradwyaeth i gais cynllunio DNS / 00427 gynnwys amod ar gyfer darparu cynllun datgomisiynu manwl a fydd yn ymgorffori: - - Y gofyniad i dalu bond i sicrhau bod digon o arian ar gael i gyflawni'r gwaith datgomisiynu ar ôl 40 mlynedd o ran oes y datblygiad pe bai'r datblygwr yn rhoi'r gorau i fasnachu - Tynnu/trin/gwaredu'r paneli haul yn ddiogel i atal unrhyw ollyngiadau a halogiad pridd wedi hynny i amddiffyn y tir ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 2. Dylid ystyried y mater o ran talu budd i'r gymuned i'r tair ardal cyngor cymunedol lleol y mae'r datblygiad arfaethedig yn effeithio arnynt."
|
Dogfennau ategol: