Cofnodion:
Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion a oedd yn talu'r dreth gyngor ac roedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan baragraff 14 o Atodlen 12A i Ddeddf 1972 yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth yn yr adroddiad hwn gan y byddai datgelu yn golygu y byddai gwybodaeth gyfrinachol bersonol am unigolion eraill yn cael ei datgelu heb gyfiawnhad.
Bu'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar y ceisiadau oedd wedi dod i law am ostyngiadau yn ôl disgresiwn i'r Dreth Gyngor.
Nodwyd bod rheoliadau wedi eu cyflwyno, gan ddod i rym ym mis Ebrill 2004, a roddai bwerau disgresiwn i awdurdodau lleol roi disgownt neu ostyngiad a benderfynwyd yn lleol o ran y Dreth Gyngor, a bod y rhain yn ychwanegol at y gostyngiadau statudol presennol.
Roedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn cydnabod bod y pandemig Coronafeirws (Covid-19) wedi cael effaith ariannol sylweddol ar gymunedau a chyllideb y Cyngor. Dywedodd y rheolwr Budd-daliadau a'r Dreth Gyngor fod y Cyngor yn parhau i ddarparu cymorth ariannol a chyngor lle bo'n bosibl.
PENDERFYNWYD:
6.1 |
peidio â rhoi gostyngiad yn ôl disgresiwn
i geisiadau: 60341623, 60344671-8, 20011571-3 a
60363022-5; |
|
|
6.2 |
rhoi gostyngiad yn ôl disgresiwn o 100% mewn perthynas â chais 60370233-6 ar gyfer y cyfnod 14 Mehefin 2020 – 16 Awst 2020;
|
6.3 |
rhoi gostyngiad yn ôl disgresiwn o 100% ar gyfer y cyfnod 29 Mehefin 2020 - 16 Awst 2020, mewn perthynas â cheisiadau: 60371568-X, 60371569-9, 60371572-3, 60371574-1, 60371575-0, 60371576-X, 60371585-9 a 60371587-7.
|
Dogfennau ategol: