Cofnodion:
Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan Ddeddf 1972 mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r person a'r busnesau a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.
Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried ceisiadau am gymorth o Gronfa ARFOR.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa ARFOR yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
Cronfa Grant Rhaglen ARFOR |
||
Cyfeirnod y Cais |
Yr Ymgeisydd |
Y Dyfarniad |
AG2-01 |
Black Dragon Crafts |
£20,436.00 |
AG2-04 |
Lyfli Foods Ltd. |
£50,000.00 |
AG2-06 |
Do Goodly Foods Ltd.* |
£35,486.44 |
AG3-04 |
Y Stand Laeth |
£32,928.55 |
AG3-05 |
Cambrian Pet Foods |
£50,000.00 |
AG3-08 |
Atebol |
£48,549.00 |
AG3-09 |
Llaeth Dyffryn Tywi |
£24,765.00 |
AG3-12 |
Mario’s |
£21,090.00 |
AG3-23 |
Mentrau Creadigol Cymru |
£26,156.37 |
AG3-01 |
Fat Bottom Cakes* |
£7,478.40 |
[*Rhoi cyngor pellach ynghylch defnyddio'r Gymraeg ar labeli ac ati]
Dogfennau ategol: