Agenda item

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2015/16

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r Adroddiad Monitro Cyllideb Cyfalaf a Refeniw ar gyfer Adran yr Amgylchedd, Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd a’r Tîm Diogelwch Cymunedol, a oedd yn nodi’r sefyllfa ar 31 Rhagfyr 2015 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2015/16. Codwyd y materion canlynol mewn perthynas â’r adroddiad:

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch peidio â chyflawni cytundebau diswyddo gwerth £78,000 yn Adran yr Amgylchedd, cadarnhaodd y Cyfrifydd Gr?p nad oedd y pecynnau diswyddo arfaethedig wedi cael eu gwireddu oherwydd amrywiaeth o amgylchiadau, ond ei bod yn rhagweld y byddai’r rhain yn cael eu cyflawni yn y flwyddyn ariannol nesaf. Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Stryd wybod i’r Pwyllgor bod rhai o’r ceisiadau diswyddo’n cael eu hailystyried fel rhan o adolygiad o wasanaethau adrannol.

 

Gofynnwyd a fyddai’r broses trosglwyddo asedau ar gyfer cyfleusterau cyhoeddus yn cael ei chwblhau ar amser. Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Stryd wybod i’r Pwyllgor bod 10 set o gyfleusterau cyhoeddus wedi cael ei trosglwyddo i gynghorau neu grwpiau cymunedol hyd yn hyn a bod y broses ar gyfer 8 arall yn mynd rhagddi ar hyn o bryd. Roedd yn rhagweld y byddai’r rhain yn cael eu cwblhau o fewn y tair blynedd a oedd wedi’u dyrannu i’r rhaglen, gan mai mater o egluro rhai mân faterion cyfreithiol gyda’r priod sefydliadau ydoedd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am y gorwariant o £72,000 ar gyfer y Gwasanaeth Glanhau, eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Stryd fod hyn yn gysylltiedig ag arbedion effeithlonrwydd a oedd wedi cael eu cynnig ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol. Fodd bynnag, gan nad oedd yn angenrheidiol mwyach i’r Adran ddod o hyd i arbedion effeithlonrwydd ychwanegol yn y blynyddoedd nesaf, byddai hyn yn cael ei reoli o fewn y gwasanaeth.

 

Cyfeiriwyd at y tywydd garw diweddar a swm y deunyddiau i’w hailgylchu a oedd wedi cael eu gwasgaru ar hyd ffyrdd y sir a gofynnwyd pa effaith oedd hyn yn ei chael ar y Gwasanaeth Glanhau Strydoedd. Roedd Rheolwr y Gwasanaethau Stryd yn cydnabod bod sbwriel ychwanegol yn cael effaith gan fod yn rhaid i’r gwaith o lanhau hwn gael ei gynnwys yn y rhaglen reolaidd ar gyfer glanhau strydoedd. Nid oedd unrhyw ostyngiad wedi bod yn nifer y staff a gyflogir ac roedd gan ganol trefi raglen saith diwrnod ar gyfer codi sbwriel a gwacau biniau. Fe wnaeth atgoffa aelodau’r Pwyllgor y dylent gysylltu â’r Adran os oedd ganddynt bryderon penodol ynghylch rhai ardaloedd yn eu wardiau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â’r posibilrwydd y byddai biniau ar olwynion yn cael eu rhoi i drigolion, nododd Rheolwr y Gwasanaethau Stryd fod cost system o’r fath yn rhy uchel ar hyn o bryd. Fe wnaeth atgoffa’r Pwyllgor, os oedd deunyddiau i’w hailgylchu neu fagiau gwastraff gweddillol yn rhwygo ac yn cwympo oddi ar gefn un o gerbydau’r Cyngor, y byddai’r gweithredwyr yn glanhau hyn ar y pryd; fodd bynnag, os oedd y gwastraff ar eiddo preifat, dyletswydd y deiliad t? oedd sicrhau ei fod yn cael ei lanhau.

 

Cyfeiriwyd at nifer y biniau cyhoeddus nad oeddent yn cael eu gwacau a’r ffaith bod sbwriel yn cael ei adael wedyn ar bwys neu o amgylch biniau a bod hyn yn cael ei waethygu gan y ffaith nad oedd perchnogion c?n yn gwaredu bagiau gwastraff c?n yn y biniau hyn ond eu bod yn hytrach yn eu gadael mewn strydoedd neu lonydd cefn. Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Stryd wybod i’r Pwyllgor y byddai’r ddarpariaeth biniau a’r rhaglen gasglu wedi cael eu lleihau pe na bai’r gyllideb ar gyfer 2016/17 wedi bod mor ffafriol i’r Adran ac roedd yn rhagweld y gallai casgliadau biniau gael eu cynyddu yn awr dros y misoedd nesaf.

 

Gofynnwyd am ddiweddariad ar statws presennol y strategaeth gwastraff yng ngoleuni’r tanwariant o £54,000. Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Stryd wybod i’r Pwyllgor bod y rhan gychwynnol o’r strategaeth a oedd yn ymdrin â rhesymoli llwybrau a cherbydau wedi cael ei chwblhau ac wedi dwyn arbedion sylweddol i’r gwasanaeth. Roedd yr ail ran yn mynd rhagddi ac yn ymdrin â’r agwedd ar wastraff y sir a oedd yn ymwneud â gwaredu a thrin a’r broses dendro yr oedd angen ei chwblhau erbyn mis Ebrill 2018. Roedd gweithgor o swyddogion mewnol bellach wedi’i sefydlu i ganlyn arni â hyn ac roedd cyllid wedi cael ei neilltuo i dalu am y gwaith hwn.

 

Cyfeiriwyd at yr achosion amrywiol o danwariant yn yr adain Drafnidiaeth a gofynnwyd am eglurhad o’r gorwariant yn y gwasanaeth cludiant ar gyfer ysgolion cynradd. Rhoddodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg wybod i’r Pwyllgor bod llawer o’r achosion o danwariant yr oedd yr adroddiad yn cyfeirio atynt wedi deillio o ganlyniad i sefydlu prosesau cynllunio a thendro effeithiol gan swyddogion. Fodd bynnag, roedd cau nifer o ysgolion cynradd yn cael effaith anffafriol ar gyllideb cludiant y sector cynradd gan fod plant yn awr yn cael eu cludo i ysgolion yn bellach i ffwrdd. Roedd hyn yn enghraifft o newid bach yn cael effaith ariannol enfawr ond roedd swyddogion yn gwneud gwaith parhaus i asesu’r sefyllfa a cheisio sicrhau bod y contractau a’r llwybrau yn cyflawni’r effeithlonrwydd gorau posibl. Fodd bynnag, ychwanegodd fod cludiant ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig yn gymhleth iawn ac yn aml, oherwydd cymhlethdod eu hanghenion neu eu hanawsterau ymddygiadol, bod hyn yn golygu bod angen opsiynau cludiant arbenigol a chynorthwywyr cludiant. Roedd y maes hwn yn tyfu o ran niferoedd ac roedd swyddogion wedi cychwyn adolygiad yn ddiweddar dan y rhaglen TIC ar y cyd â’r Adran Addysg a Phlant i ddeall y galw ac i gynnal asesiad i ganfod a oedd y gwasanaethau a oedd yn cael eu darparu’n briodol ac yn effeithlon.

 

Mynegwyd siom yngl?n â’r gorwariant parhaus ar gyfleuster Parcio a Theithio Nant-y-Ci a gofynnwyd am eglurhad ynghylch cyfraniad Bwrdd Iechyd Hywel Dda at y cynllun hwn a sut y gallai fod o gymorth i leddfu materion parcio yn Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru yng Nglangwili. Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg ei fod yn cydnabod bod y sefyllfa parcio yn yr ysbyty ac o’i gwmpas yn bwysau sylweddol ar gyfer y gwasanaeth hwn ar hyn o bryd, o ran cwynion gan breswylwyr a’r effaith ar symudiad gwasanaethau cludiant teithwyr lleol. Rhoddodd wybod i’r Pwyllgor bod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud cyfraniad at y Cynllun Parcio a Theithio a’i fod hefyd yn cymryd camau i leddfu’r tagfeydd yn y maes parcio i gleifion allanol, megis atal staff rhag parcio yno, lleihau nifer y mannau parcio ar gyfer meddygon ymgynghorol a hybu’r defnydd o’r cynllun parcio a theithio ymhlith staff. Roedd trafodaethau’n mynd rhagddynt hefyd gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ynghylch y pwysau parcio y byddai’n eu hwynebu yng ngoleuni datblygu Ffordd Gyswllt Gorllewin Caerfyrddin ac adleoli S4C i safle cyfagos. Yn strategol, roedd yn wasanaeth pwysig i’w gadw gan y byddai o gymorth yn y tymor hir i leihau tagfeydd traffig ar draws y dref.

 

Cyfeiriwyd at y tanwariant yn y gyllideb Cynnal a Chadw Adeiladau mewn perthynas â Rhaglen Safon Tai Sir Gaerfyrddin. Rhoddodd y Pennaeth Cynnal a Chadw Eiddo ac Adeiladu wybod i’r Pwyllgor mai gorwariant o ganlyniad i darged incwm anghyraeddadwy oedd hwn mewn gwirionedd. Roedd cynnydd sylweddol wedi cael ei wneud i leihau’r gorwariant hwn a hynny’n cynnwys rhesymoli swyddogaethau cefn swyddfa yn ogystal â newid gwaith a oedd yn cael ei roi ar gontract allanol yn flaenorol fel ei fod yn cael ei wneud yn fewnol unwaith eto. Nododd hefyd nad oedd rhai arbedion yn cael eu dangos yn yr adroddiad penodol hwn ar y gyllideb gan eu bod yn cael eu dyrannu i gyllidebau eraill megis y Rhaglen Moderneiddio Addysg neu’r Gwasanaethau Tai. Roedd swyddogion yn parhau i weithio gyda’r Gwasanaethau Ariannol i ymdrin â’r materion dilysu a oedd wedi arwain at ddisgwyl i’r gwasanaeth penodol hwn greu incwm, er bod rhaglen Safon Tai Sir Gaerfyrddin yn dod i ben. 

 

Gofynnwyd am eglurhad o’r gorwariant o £25,000 ar atgyweirio a chynnal a chadw gorsafoedd pwmpio. Fe wnaeth y Pennaeth Cynnal a Chadw Eiddo ac Adeiladu atgoffa’r Pwyllgor bod Uned Hydroleg yr Awdurdod wedi cael ei throsglwyddo i D?r Cymru ym mis Hydref 2014 ynghyd â’r gyllideb ar gyfer y gwasanaeth. Ers hynny roedd yr Awdurdod wedi negodi proses gynnar i gymryd gorsafoedd pwmpio Cross Hands a’r Doc Newydd (Llanelli) drosodd, ac roedd y gorsafoedd hynny wedi cael eu trosglwyddo i reolaeth D?r Cymru ym mis Ionawr 2016, gan felly leihau’r costau atgyweirio a chynnal a chadw a ysgwyddir gan yr Awdurdod. 

 

Awgrymwyd fod cymaint o gwtogi wedi bod ar y gwasanaeth cynnal a chadw tir fel bod hyn yn arwain at eiddo sy’n cael ei gynnal a’i gadw’n wael megis meysydd parcio ac asedau eraill, gan roi argraff gyntaf wael o’r sir. Rhoddodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg wybod i’r Pwyllgor bod Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn ei le i gynnal a chadw meysydd parcio ond dywedodd ei fod yn hapus i gwrdd ag aelodau lleol i drafod unrhyw faterion penodol ar safle. Dywedodd y Pennaeth Cynnal a Chadw Eiddo ac Adeiladu ei fod yn cydnabod bod swyddogion yn ystyried dyfodol y gwasanaeth a mewnoli peth gwaith, yn amodol ar gymeradwyo’r achosion busnes. Mewn ymateb i gwestiwn ychwanegol dywedodd, ar lefel gorfforaethol, fod swyddogion hefyd yn diwygio’r safonau ar gyfer gweithdrefnau torri ac yn sicrhau bod y staff cywir yn cael eu lleoli i wneud gwaith wedi’i raglennu yn hytrach na chael eu defnyddio ar gyfer dyletswyddau ymatebol.

 

Gofynnwyd a oedd mater sylfaenol a oedd yn arwain at ddefnyddio staff asiantaeth yn Uned Cymorth Busnes Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd. Rhoddodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd wybod i’r Pwyllgor bod hyn bellach yn cael sylw gan fod swyddi parhaol bellach wedi cael eu hawdurdodi ar gyfer yr uned hon. 

 

Gofynnwyd pam fod cymaint o ffrydiau incwm yn y Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd a Safonau Masnachu wedi methu â chyrraedd y lefelau a ragwelwyd. Rhoddodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd wybod i’r Pwyllgor, o ran Trwyddedu, bod yr Awdurdod yn cael ei rwymo gan y ffaith bod y ffioedd hyn yn cael eu rhagnodi gan Lywodraeth y DU ac nad oedd y taliadau’n adlewyrchu’r costau gwirioneddol a oedd yn gysylltiedig â’r broses. Fodd bynnag, fel y byddai’r Pwyllgor yn ei gofio o’i gyfarfod ym mis Rhagfyr, byddai ffioedd eraill (e.e. tacsis, symud anifeiliaid) yn cynyddu o fis Ebrill 2016 gan alluogi’r Awdurdod i godi ffioedd mwy realistig am ei wasanaethau. Nododd fod ffrwd incwm Rheoli’r Gwasanaethau Safonau Masnach yn cyfeirio at rywfaint o waith allanol yr oedd y gwasanaeth wedi’i wneud yn y gorffennol a oedd wedi cael ei ddilysu’n ddiweddarach i mewn i gyllideb eleni. Fodd bynnag, nid oedd y gwasanaeth wedi gwneud y gwaith hwn yn y flwyddyn ariannol gyfredol ac felly nid oedd wedi gallu cyrraedd y targed.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ychwanegol, rhoddodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd sicrwydd i’r Pwyllgor bod y Gymdeithas Llywodraeth Leol yn Lloegr a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gwneud gwaith sylweddol i lobïo Llywodraeth y DU i ganiatáu i awdurdodau lleol bennu ffioedd ar lefel leol. Byddai’r ffioedd hyn yn galluogi awdurdodau i dalu eu holl gostau gan nad oedd rhai costau, megis costau gweinyddu, gwiriadau cydymffurfio a gorfodi yn cael eu cynnwys ar hyn o bryd yn y ffioedd a bennir gan Lywodraeth y DU. 

 

Cyfeiriwyd at y seminar datblygu aelodau a gynhaliwyd gan y Gwasanaeth Safonau Masnach ar 25 Chwefror 2016 ac roedd aelodau’r Pwyllgor yn cydnabod bod hon wedi bod yn sesiwn wych a gwerth chweil. Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am gyfleu ei werthfawrogiad a’i ddiolchiadau i Reolwr y Gwasanaethau Safonau Masnach a’i staff am y seminar a’u gwaith parhaus i dargedu gweithgarwch troseddol a diogelu trigolion agored i niwed y sir rhag dioddef camfanteisio.

 

Awgrymwyd fod llawer o gwestiynau’r Pwyllgor mewn perthynas ag adroddiad monitro’r gyllideb yn deillio o esboniadau annigonol a oedd wedi’u darparu yn y ‘crynodebau o’r prif amrywiannau’ a oedd wedi’u rhestru gyda phob atodiad. Cynigiwyd felly y dylid gofyn i swyddogion ddarparu esboniadau mwy cynhwysfawr ar gyfer achosion o danwariant a gorwariant yn adroddiadau monitro’r gyllideb yn y dyfodol. Cytunodd y Pwyllgor â’r cynnig.

 

Cyfeiriwyd at y gyllideb Diogelwch Cymunedol a gofynnwyd pa ganlyniadau oedd yn cael eu cyflawni ar gyfer yr holl gyllid a oedd yn cael ei roi i ddarparwyr triniaeth camddefnyddio sylweddau tra bo unigolion yn Llanelli’n dal i farw o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau. Dywedodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol ei bod yn cydnabod bod y marwolaethau diweddar yn achos pryder a bod cyfarfod amlasiantaeth yn mynd i gael ei gynnal yn ystod yr wythnos nesaf i gynllunio ymateb. Fe atgoffodd hi’r Pwyllgor fod gwaith rheolaidd yn cael ei wneud i fonitro perfformiad darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Bwrdd Cynllunio Ardal rhanbarthol er ei bod yn anodd monitro eu heffeithiolrwydd o ran atal gorddosau.

 

Mewn ymateb i sylw ychwanegol ynghylch rôl yr Heddlu o ran targedu gwerthwyr cyffuriau, fe wnaeth y Rheolwr Diogelwch Cymunedol atgoffa aelodau’r Pwyllgor y dylent gysylltu â’r arolygydd lleol os oedd ganddynt unrhyw bryderon bod yr Heddlu yn peidio ag ymateb i faterion y rhoddwyd gwybod iddynt amdanynt, neu ei bod hi’n hapus i gysylltu â chydweithwyr sy’n uwch swyddogion heddlu fel y bo’n briodol.

 

Gofynnwyd am eglurhad o gostau gweithredwyr teledu cylch cyfyng. Fe wnaeth y Rheolwr Diogelwch Cymunedol atgoffa’r Pwyllgor bod yr Awdurdod wedi rhoi’r gorau i ddarparu gwasanaeth teledu cylch cyfyng a gaiff ei fonitro ym mis Mehefin 2015 a bod y rhain yn gysylltiedig â chostau colli swyddi a oedd wedi aros yn y gyllideb ar gyfer 2015/16.

 

Gofynnwyd pam fod y Gyllideb Gyfalaf yn dal i gynnwys prosiect y Wal Gynnal ar gyfer Priffordd y B4300 (Troeon Cystanog / Capel Dewi) er bod hwn wedi cael ei gwblhau y llynedd. Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Stryd wybod i’r Pwyllgor bod elfen o’r taliad am brosiect fel hwn yn cael ei ddal yn ôl fel arfer nes bod y cyfnod cynnal a chadw wedi cael ei gwblhau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am Gronfa Dd?r Trebeddrod, rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Stryd wybod i’r Pwyllgor bod hyn i fod i gael ei gwblhau ym mis Chwefror ond bod y tywydd garw diweddar yn golygu bod y gwaith hwn bellach wedi’i amserlennu fel ei fod yn cael ei gwblhau erbyn canol mis Ebrill. 

 

Gofynnwyd ar ba bont yn Rhydaman yr oedd gwaith cryfhau ac adnewyddu wedi cael ei wneud ac awgrymwyd y dylid enwi’r pontydd yn fwy penodol. Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Stryd mai’r bont fechan ar bwys campws Coleg Sir Gâr yn Rhydaman oedd hon ac nid y bont dros Afon Llwchwr, ger yr orsaf reilffordd. Ychwanegodd nad oedd yn ymwybodol o enw lleol ar gyfer y bont hon a’i fod yn tybio ei bod wedi cael ei galw’n ‘Bont Coleg Rhydaman’ at ddibenion yr adroddiad am ei bod yn agos at gampws y coleg. 

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor:

 

6.1       Ei fod yn derbyn yr adroddiad.

 

6.2       Gofyn i swyddogion ddarparu esboniadau mwy cynhwysfawr ar gyfer achosion o danwariant neu orwariant yn adroddiadau monitro’r gyllideb yn y dyfodol. 

 

6.3       Cyfleu gwerthfawrogiad a diolchiadau’r Pwyllgor i Reolwr y Gwasanaethau Safonau Masnach a’i staff am seminar datblygu aelodau wych a gynhaliwyd ar 25 Chwefror 2016 ac am eu gwaith parhaus i dargedu gweithgarwch troseddol a diogelu trigolion agored i niwed y sir rhag dioddef camfanteisio.

 

Dogfennau ategol: