Agenda item

GRONFA DATBLYGU EIDDO MASNACHOL TRAWSNEWIDIOL SIR GAERFYRDDIN, CRONFA MENTER WLEDIG SIR GAERFYRDDIN RHAGLEN TARGEDU BUDDSODDIAD MEWN ADFYWIO A CHYNLLUN BENTHYCIAD CANOL TREF LLANELLI.

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, roedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried ceisiadau am gymorth o Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin, Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol ar gyfer Trawsnewid - Sir Gaerfyrddin, y Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio a Chynllun Benthyciadau Canol Tref Llanelli a Rhydaman.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin, Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol ar gyfer Trawsnewid - Sir Gaerfyrddin, y Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio a Chynllun Benthyciadau Canol Tref Llanelli a Rhydaman yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Cronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

Roman Solutions, Llanymddyfri

£40,000.00

 

Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol ar gyfer Trawsnewid - Sir Gaerfyrddin/Cronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

Cambrian Pet Foods, Llangadog

£750,000.00

 

Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio –  Grant Gwella a Datblygu Eiddo

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

Stephen Evans [125/127 Heol yr Orsaf, Llanelli]

£202,351.89

Anglers Corner [78 Heol yr Orsaf, Llanelli]

£82,641.38

Keys Property Management Ltd. [6 Stryd y Gwynt, Rhydaman]

£128,000.00

 

Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio –  Grant Byw'n Gynaliadwy

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

Mallard Wales Ltd. [2-4 Heol yr Orsaf, Llanelli]

£80,000.00

 

Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio –  Benthyciadau Canol Tref Llanelli

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

Cygnus Holdings (Llanelli) Ltd [8-16 Stryd y Farchnad, Llanelli]

£1,400,000.00

 

 

Dogfennau ategol: