Cofnodion:
Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan Mr Richard Stuart am drwydded safle ar gyfer 12 Stryd y Gwynt, Rhydaman SA18 3DN i ganiatáu'r canlynol:
· Cyflenwi Alcohol a Cherddoriaeth a Recordiwyd - Dydd Sul i Ddydd Iau 10:00-00:00, Dydd Gwener a Dydd Sadwrn 10:00-02:00. Dydd Sul cyn G?yl Banc, G?yl Banc, Noswyl Nadolig a Nos Galan 10:00-02:00.
· Ffilmiau, Cerddoriaeth Fyw ac Unrhyw Beth o Ddisgrifiad Tebyg – Dydd Sul i Ddydd Iau 10:00-00:00, Dydd Gwener a Dydd Sadwrn 10:00-01:00. Dydd Sul cyn G?yl Banc, G?yl Banc, Noswyl Nadolig a Nos Galan 10:00-01:00
· Lluniaeth Hwyrnos - Dydd Sul i Ddydd Iau 23:00-00:00, Dydd Gwener a Dydd Sadwrn 23:00-02:00. Dydd Sul cyn G?yl Banc, G?yl Banc, Noswyl Nadolig a Nos Galan 23:00-02:00.
· Oriau Agor - Dydd Sul i Ddydd Iau 10:00–00:30, Dydd Gwener a Dydd Sadwrn 10:00-02:30. Dydd Sul cyn G?yl Banc, G?yl Banc, Noswyl Nadolig a Nos Galan 10:00-02:30
Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:
· Atodiad A – copi o'r cais
· Atodiad B - sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu
· Atodiad C – sylwadau Heddlu Dyfed-Powys
· Atodiad D – sylwadau Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd
· Atodiad E - sylwadau gan bobl eraill
Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau fel y nodwyd yn Atodiad B a hefyd at y sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys (Atodiad C) a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd (Atodiad D). Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu hefyd at Amodau Trwydded Arfaethedig Drafft y cyfeiriwyd atynt uchod.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed.
Ar hynny, cafodd yr Is-bwyllgor a'r ymgeisydd gyfle i ofyn cwestiynau.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau i'r ymgeisydd am ei sylwadau.
Ni chafodd yr Is-bwyllgor unrhyw sylw ar lafar gan y gwrthwynebydd gan nad oedd yn bresennol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12 i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.
Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref
PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd ger ei fron, y dylid caniatáu'r cais yn amodol ar yr amodau trwydded y cytunwyd arnynt.
RHESYMAU:
Wrth benderfynu ar y cais, roedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;
Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr awdurdodau cyfrifol ac yn benodol ar y ffaith y cytunwyd ar eu hamodau trwydded priodol.
Roedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad yw pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid trwydded, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallai roi ystyriaeth briodol iddynt.
Ar sail y dystiolaeth a roddwyd ger ei fron, barn yr Is-bwyllgor oedd ei bod yn briodol caniatáu'r cais gan ei fod wedi'i fodloni bod yr amodau trwydded y cytunwyd arnynt yn briodol i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu a'u bod yn ymateb cymesur i'r materion a nodwyd, gan gynnwys y rhai a godwyd gan y gwrthwynebydd lleol.
Dogfennau ategol: