Agenda item

ADRODDIAD MONITRO ABSENOLDEB SALWCH - HANNER BLWYDDYN CHWARTER 2 2019/20

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn darparu data ynghylch absenoldeb ar gyfer cyfnod cronnol Chwarter 2 blwyddyn ariannol 2018/19 ynghyd â chrynodeb o gamau gweithredu i gefnogi lleihau lefel yr absenoldeb salwch.          

Roedd y canlyniadau cronnol yn dangos gostyngiad o gymharu â Chwarter 2 2017/18. Roedd yr Is-adran Rheoli Pobl yn parhau i gefnogi a chynghori Timau Rheoli Adrannol, rheolwyr pobl a gweithwyr mewn perthynas â'r Polisi Absenoldeb Salwch a gweithdrefnau a chanllawiau cysylltiedig i sicrhau bod absenoldeb yn cael ei reoli mewn modd amserol, cyson a rhagweithiol. Roedd data meincnodi cymharol Cymru Gyfan ar gyfer 2018/19, a oedd wedi'i gyhoeddi ym mis Medi 2019, yn nodi bod Sir Gaerfyrddin, o'i chymharu â holl awdurdodau eraill Cymru, yn y 7fed safle o blith y 22ain. Roedd hwn yn welliant nodedig o gymharu â blynyddoedd blaenorol lle roedd yr Awdurdod yn y 10fed safle yn 2017/18 ac yn y 15fed safle yn 2016/17. Roedd yr Awdurdod bellach ym mhen uchaf yr ail chwartel ond roedd wedi bod yn agos i'r canolrif yn 2017/18 ac yn y 3ydd chwartel yn 2016/17.

Fodd bynnag, nid oedd yr un o bum adran yr Awdurdod wedi cyrraedd eu targedau perfformiad yn Chwarter 2 2019/20, ac roedd pob Pennaeth Gwasanaeth wedi bod yn y Fforwm Presenoldeb Herio ac Adolygu i drafod cynnydd is-adrannol i sicrhau bod yr holl wasanaethau'n cyfrannu tuag at leihau lefel yr absenoldeb.

Roedd Penaethiaid Eiddo a Gwasanaethau Integredig, sef dau o'r is-adrannau a oedd yn perfformio waethaf o ran absenoldeb salwch [roedd Proffiliau Crynhoi Data wedi eu dosbarthu ar eu cyfer], wedi'u gwahodd i'r cyfarfod ac amlygodd y ddau'r camau oedd yn cael eu cymryd i reoli a mynd i'r afael ag absenoldeb salwch. 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

·       Mewn ymateb i bryder nad oedd unrhyw reolwyr yn yr is-adrannau Eiddo a  Gwasanaethau Integredig, yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, wedi cwblhau'r hyfforddiant Rheoli Straen a gâi ei ddarparu gan yr Awdurdod, rhoddwyd sicrwydd i'r aelodau fod sylw'n cael ei roi i hyn.  Dywedodd y Pennaeth Eiddo fod nifer o staff wedi bod ar gyrsiau drwy ddarparwyr allanol;

·       Cydnabuwyd bod y cynnydd yn yr oedran ymddeol wedi ychwanegu at yr her o reoli absenoldeb salwch, ac roedd pob ymdrech yn cael ei gwneud i wneud e-ddysgu yn fwy hwylus ac i gefnogi staff. Derbyniwyd hefyd y gallai lleihau nifer y staff er mwyn gwneud arbedion arwain at straen ymhlith y staff sy'n weddill oherwydd llwyth gwaith cynyddol, er bod y  posibilrwydd hwn yn cael ei ystyried yn ofalus ym mhob achos cyn caniatáu cwtogi staff;

·       Nodwyd bod gan Ymgynghorwyr Adnoddau Dynol fynediad i'r holl ddata absenoldeb oherwydd salwch a'u bod yn cysylltu'n rheolaidd â'r is-adrannau o fewn eu cylch gwaith, gan amlygu'r gwahaniaethau mewn perfformiad rhwng is-adrannau;

·       Soniwyd wrth yr aelodau am y cymorth a roddir i'r ysgolion i reoli absenoldeb salwch, a oedd yn cynnwys cymorth drwy'r Panel Ymgynghorol ynghylch Ymyrraeth Gorfforaethol. 

CYTUNWYD YN UNFRYDOL i dderbyn yr adroddiad ac i gynnwys yn adroddiadau'r dyfodol adborth gan y Fforwm Presenoldeb Herio ac Adolygu a chan y Panel Ymgynghorol ynghylch Ymyrraeth Gorfforaethol.

Dogfennau ategol: