Agenda item

CYNLLUN CARBON SERO-NET

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a chynllun drafft a oedd yn amlinellu ffordd o fod yn Awdurdod Lleol carbon sero-net erbyn 2030. Datblygwyd y Cynllun yn unol â phenderfyniad unfrydol y Cyngor ar 20 Chwefror, 2019 [gweler cofnod 7.1] i gefnogi'r Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Aled Vaughan Owen:

 

“…Cynigiwn fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn:

 

1.     Datgan Argyfwng Hinsawdd

2.     Ymrwymo i wneud Cyngor Sir Caerfyrddin yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030

3.     Datblygu cynllun clir ar gyfer bod yn awdurdod carbon sero-net o fewn 12 mis

4.     Galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu cymorth ac adnoddau angenrheidiol er mwyn ein galluogi i leihau carbon yn effeithiol

5.     Gweithio gyda'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a phartneriaid Bargen Ddinesig Bae Abertawe i ddatblygu cyfleoedd cyffrous i gyflawni arbedion carbon

6.     Cydweithio ag arbenigwyr o'r sector preifat a'r 3ydd sector i ddatblygu atebion arloesol er mwyn bod yn awdurdod carbon sero-net.”

 

Un o argymhellion yr adroddiad oedd y dylid mabwysiadu dull gweithredu pragmatig a oedd yn canolbwyntio'n gyntaf ar yr allyriadau carbon a oedd yn cael eu mesur gan y Cyngor ar hyn o bryd gan gynnwys adeiladau annomestig, goleuadau stryd, milltiroedd y fflyd a milltiroedd busnes.

 

Pwysleisiodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig y byddai angen i'r dull hwn fod yn ddigon hyblyg er mwyn darparu ar gyfer amgylchiadau sy'n newid, gan gynnwys ystyried y gofynion adrodd sydd eto i'w cyflwyno gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'i uchelgais i gael sector cyhoeddus sy'n garbon niwtral erbyn 2030.

 

Pwysleisiwyd, o fewn cyfyngiadau'r cynllun gweithredu drafft, fod 'Carbon Sero-net' a 'Carbon Niwtral' yn gyfnewidiadwy a byddai adroddiad ar y camau gweithredu a nodwyd yn y cynllun gweithredu drafft yn cael lunio bob blwyddyn.

 

Nododd y Pwyllgor, er mai'r prif ddull a ffefrir o ran gwneud iawn am ôl-troed carbon gweddilliol y Cyngor fyddai cynyddu'n sylweddol swm yr ynni adnewyddadwy sy'n cael ei gynhyrchu, byddai hyn yn gofyn am gyllid sylweddol. Felly, roedd yn hanfodol sefydlu achos busnes cadarn ar gyfer pob prosiect ynni adnewyddadwy posibl.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

 

·       Mynegwyd pryder nad oedd gan y rhwydwaith dosbarthu trydan lleol ddigon o gapasiti i alluogi'r Cyngor i ddilyn ei nod o gynyddu'n sylweddol swm yr ynni adnewyddadwy sy'n cael ei gynhyrchu ar ei dir. Dywedodd yr aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig fod trafodaethau wedi'u cynnal gydag Arweinydd y Cyngor i gael dull ar y cyd er mwyn lobïo gweithredwr y rhwydwaith dosbarthu trydan - Western Power Distribution - i gael mwy o gapasiti ar y rhwydwaith. 

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch cydweithio â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC), dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynaliadwy, er mwyn adeiladu ar y gwaith blaenorol ar y cyd, y byddai BGC Sir Gaerfyrddin yn cynnal gweithdy i weld sut y mae sefydliadau sy'n aelodau o'r bwrdd yn ymateb i'r newid yn yr hinsawdd, gan amlinellu gweithgarwch presennol ac arfaethedig yn eu sefydliadau a nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithio ar draws partneriaid y BGC.  Ychwanegodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ei fod yn awyddus i gydweithio â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn osgoi dyblygu ymdrechion.

 

·       Mewn ymateb i sylw a godwyd mewn perthynas â darpariaeth gwefru trydan y Cyngor mewn meysydd parcio sy'n eiddo i'r Cyngor a meysydd parcio staff, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynaliadwy fod cyllid ar gyfer 26 pwynt gwefru ychwanegol wedi'i sicrhau. Yn ogystal, rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd sicrwydd i'r Pwyllgor y byddai'r Cyngor yn parhau i wneud cais am gyllid grant ar gyfer pwyntiau gwefru yn flynyddol.

 

·       Cyfeiriwyd at gynhadledd ddiweddar a drefnwyd gan y Pennaeth Eiddo, a nodwyd gan fod cynnwys y gynhadledd yn llawn gwybodaeth, awgrymwyd y gellid efelychu hyn ar gyfer Aelodau Etholedig. Cytunodd y Rheolwr Datblygu Cynaliadwy, a dywedodd y byddai gweithdy'n cael ei drefnu ar gyfer pob aelod maes o law.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â cherbydau trydan, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd fod cynigion i weithio gyda phartneriaid ac asiantaethau i greu amgylchedd mwy cynaliadwy drwy gyfrwng seilwaith newydd, gan gynnwys buddsoddiad mewn pwyntiau gwefru cyflym ar gyfer cerbydau trydan.  Yn ogystal, dywedwyd wrth yr Aelodau fod lori sbwriel drydan yn cael ei threialu ar hyn o bryd ac os bydd hyn yn llwyddiannus, byddai fflyd sbwriel y Cyngor yn fwy effeithlon o ran ynni ac yn gydnaws â'r amgylchedd.

 

·       Nododd y Rheolwr Datblygu Cynaliadwy, mewn ymateb i ymholiad a godwyd mewn perthynas ag integreiddio, y cytunwyd ar gyfnod o brofi templedi drafft ar gyfer cynnal Asesiad Effaith Integredig ar gynigion a phenderfyniadau'r Cyngor cyn eu cyflwyno yn ystod 2020.  Yn ystod y cam profi, byddai cynnwys gofynion asesiad effaith Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn helpu i osod newid yn yr hinsawdd/lleihau carbon yn rhan annatod o'r Cyngor.

 

·       Cyfeiriwyd at y rhestr ar dudalen 4 yr adroddiad o adeiladau'r Cyngor a oedd ar y brig o ran defnyddio ynni/allyrru carbon (2018/19).  Mynegwyd siom fod Ysgol Bro Dinefwr wedi ei henwi yn y 10 uchaf yn enwedig gan fod yr ysgol yn adeilad modern newydd.  Esboniodd y Rheolwr Datblygu Cynaliadwy fod yr ysgol wedi'i chynnwys yn y rhestr am ei bod yn ysgol fawr iawn a bod y galw am ynni'n uchel ac nad oedd y mesur o ran defnydd yn adlewyrchu'r ddeiliadaeth na'r arwynebedd llawr.  Ar ben hynny, roedd Ysgol Bro Dinefwr yn cynnal un o enghreifftiau mwyaf y Cyngor o ran technolegau ynni adnewyddadwy o ran paneli solar.

 

·       Gyda golwg ar drosglwyddo'r cynllun i gymunedau, gofynnwyd am greu fersiwn mwy hygyrch gan gynnwys creu fersiwn addas i berson ifanc ei deall.

 

Mynegodd Aelodau'r Pwyllgor eu diolch i'r swyddogion am eu gwaith caled wrth ddatblygu'r cynllun ac am eu hymrwymiad i'w gyflawni. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL fod fersiwn ddrafft o'r Cynllun Carbon Sero-net yn cael ei gymeradwyo.

 

 

Dogfennau ategol: