Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD DERYK CUNDY I CYNGHORYDD MAIR STEPHENS - DIRPRWY ARWEINYDD

“CWESTIWN AM Y NADOLIG

 

Rydym bob amser yn canmol ein staff ond yn anaml iawn mae gennym ffordd o ddangos cymaint yr ydym yn gwerthfawrogi'r gwaith caled y maent yn ei wneud.

Mae'n hawdd inni anghofio wrth inni dreulio amser arbennig gyda'n teuluoedd dros gyfnod y Nadolig a chymryd y gwyliau haeddiannol hynny, nad yw pobl eraill mor ffodus efallai. 

 

Felly oherwydd bod y Nadolig mor agos at y penwythnos eleni, a fyddai modd inni roi'r dewis i bobl nad ydynt yn rhan o wasanaethau rheng flaen gymryd y dydd Gwener i ffwrdd o'r gwaith fel gwyliau, amser i ffwrdd yn lle oriau a weithiwyd neu oriau hyblyg, er mwyn inni helpu i sicrhau eu cydbwysedd bywyd a gwaith ac iddynt rannu yn y llawenydd a'r cyfle i ymlacio a gymerir yn aml yn ganiataol gennym”.

 

Cofnodion:

Rydym bob amser yn canmol ein staff ond yn anaml iawn mae gennym ffordd o ddangos cymaint yr ydym yn gwerthfawrogi'r gwaith caled y maent yn ei wneud.

Mae'n hawdd inni anghofio wrth inni dreulio amser arbennig gyda'n teuluoedd dros gyfnod y Nadolig a chymryd y gwyliau haeddiannol hynny, nad yw pobl eraill mor ffodus efallai. 

Felly oherwydd bod y Nadolig mor agos at y penwythnos eleni, a fyddai modd inni roi'r dewis i bobl nad ydynt yn rhan o wasanaethau rheng flaen gymryd y dydd Gwener i ffwrdd o'r gwaith fel gwyliau, amser i ffwrdd yn lle oriau a weithiwyd neu oriau hyblyg, er mwyn inni helpu i sicrhau eu cydbwysedd bywyd a gwaith ac iddynt rannu yn y llawenydd a'r cyfle i ymlacio a gymerir yn aml yn ganiataol gennym”.

 

Ymateb gan y Cynghorydd Mair Stephens, Dirprwy Arweinydd y Cyngor:-

 

Diolch i chi Deryk am eich cwestiwn. Fy sylw cyntaf yw bod yr hyn yr ydych yn ei awgrymu union yr un peth â'r hyn rydym yn ei wneud mewn gwirionedd, drwy ganiatáu hyblygrwydd mewn perthynas ag absenoldeb, gan gynnwys amser i ffwrdd yn lle oriau a weithiwyd.

 

Efallai y byddwch yn ymwybodol fod gennym ystod gynhwysfawr o bolisïau cyflogaeth sy'n rhoi'r hyblygrwydd i ni gefnogi staff mewn perthynas ag absenoldeb.

 

Yn y gorffennol, pan gaeodd yr Awdurdod y swyddfeydd dros gyfnod y Nadolig/y Flwyddyn Newydd ac roedd yn ofynnol i staff gymryd gwyliau blynyddol, cafwyd adborth gan nifer fawr o staff y byddai'n well ganddynt gymryd gwyliau pan fyddent yn dewis gwneud hynny, yn hytrach na phan mae'n orfodol. Hefyd, ni fyddai rhai o'r gwasanaethau rydym yn eu darparu yn gymwys. Fodd bynnag, mae'r trefniant hwn wedi bod ar waith ers sawl blwyddyn bellach, a'r ystyriaeth bennaf yw bod angen i swyddogaeth gyhoeddus ein gwasanaethau fod ar gael ar gyfer ein rhanddeiliaid.

 

Felly, gallaf gadarnhau ein bod wedi gallu bodloni ceisiadau gan ein staff am wyliau hyblyg dros gyfnod y Nadolig, heb unrhyw broblemau o gwbl, a chynnal ein gwasanaethau heb unrhyw darfu o safbwynt pragmatig.

 

Mae hyn yn fy arwain at y mater rydych yn ei godi ynghylch diolch i'r staff am eu gwaith caled.

 

Efallai eich bod yn ymwybodol yr oedd y ffrwd waith ymgysylltu, fel rhan o Gr?p y Strategaeth Pobl, wedi penderfynu edrych ar sut yr ydym yn cydnabod ac yn dangos gwerthfawrogiad i'r staff am eu gwaith caled. Roedd hyn yn seiliedig ar ganfyddiadau adroddiad Ail-achredu Buddsoddwyr mewn Pobl 2018 a oedd yn tynnu sylw at y dangosydd Cydnabod a Gwobrwyo Perfformiad o Safon Uchel fel maes i'w ddatblygu, er gwaetha'r cynnydd mesuradwy er 2017.

 

Yn ystod yr haf, cafodd holiadur ei greu a'i anfon at staff; cafodd ei anfon drwy e-bost ar gyfer staff swyddfa, ond ar gyfer staff rheng flaen (a oedd efallai'n awyddus i gael eu cynnwys, ond nad oedd ganddynt fynediad i e-bost fel rhan o'u swydd), aeth y gr?p allan i gynadleddau cymunedau, ceginau ysgolion ac i depos ledled y sir.

 

Dywedodd nifer fawr o'r staff mai'r hyn yr oeddent am ei gael fel cydnabyddiaeth oedd yn syml 'diolch' neu gydnabyddiaeth am eu gwaith, a dim ond 13% o'r ymatebwyr a awgrymodd cymhellion ariannol.

 

O ganlyniad i'w ganfyddiadau, cynigodd y ffrwd waith ymgysylltu ar 24 Hydref eleni i Gr?p y Strategaeth Pobl fod 'Diwylliant o roi diolch' yn cael ei dreialu er mwyn hyrwyddo'r arfer o reolwyr yn dangos gwerthfawrogiad i'w staff yn y modd y mae staff wedi nodi sy'n werthfawr iddyn nhw (h.y. diolch, cydnabyddiaeth yn breifat neu mewn gr?p bach). Mae'r cynllun treialu hwn yn cael ei dargedu ym maes Arlwyo Ysgolion a Chanolfannau Hamdden a bydd yn cael ei ddarparu mewn ffyrdd gwahanol i grwpiau gwahanol (h.y. posteri neu sesiynau dysgu byr a deunydd atodol o bosibl) er mwyn nodi pa ffordd o ddarparu sydd fwyaf effeithiol. Bydd gwerthusiad yn cael ei gyflawni ar ddiwedd y cynllun treialu. Os bydd yn llwyddiannus, bydd y camau hyn i wella ein 'diwylliant o roi diolch' yn cael eu cyflwyno i'r awdurdod cyfan fel rhan o drafodaeth ehangach yn cael ei monitro a'i hyrwyddo drwy hyfforddi a mentora.

 

Fel y dywedodd y gr?p, mae dweud diolch yn costio dim ond mae'n golygu popeth

 

Felly, diolch Deryk am eich cwestiwn a hyderaf fod fy ateb yn ddigonol.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.