Agenda item

ADRODDIAD CYNNYDD YNGHYLCH CAFFAEL

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn adolygu'r cynnydd a wneir o ran datblygu swyddogaeth gaffael y Cyngor. Hefyd, roedd yn nodi bod Strategaeth Gaffael newydd yn cael ei datblygu drwy gr?p ffocws trawsbleidiol o aelodau (sy'n cynnwys cynrychiolwyr enwebedig o'r Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau) a bod ei hamseriad wedi'i rannu'n nifer o gerrig milltir allweddol sy'n cynnwys:

-        Y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol

-        Gwiriad Ffitrwydd Llywodraeth Cymru

-        Datganiad Polisi Caffael Llywodraeth Cymru

-        Cyfeiriad y Gwasanaeth Caffael yn y Dyfodol

-        Cynlluniau Gwaith Presennol ac yn y Dyfodol.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

·        Cyfeiriwyd at dudalen 26 yr adroddiad ac at lefel siomedig yr arbedion a wnaed hyd yma drwy aelodaeth y Cyngor o'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC). Dwysawyd y pryder hwn mewn perthynas â'r contract tanwydd a negodwyd gan y GCC a allai gostio £35,000 ychwanegol i'r Cyngor ar adeg pan mae prisiau tanwydd yn cwympo.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Archwilio, Risg a Chaffael, er bod lefel yr enillion yn llai na'r hyn a ddisgwylid, un ffactor a oedd yn ychwanegu at y siom honno oedd yr ardoll o 0.45% sy'n berthnasol i gontractau'r GCC. Dywedodd fod y Cyngor wedi gwneud cytundeb pum mlynedd â'r GCC, sydd yn ei drydedd flwyddyn ar hyn o bryd, ac ar ddiwedd y pum mlynedd y byddai'r awdurdodau lleol mewn gwell sefyllfa i herio ei berfformiad. Yn ogystal, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal adolygiad o'r gwasanaeth ar hyn o bryd, ac yn archwilio meysydd sy'n cynnwys yr hyn y mae'r GCC wedi'i gynhyrchu, a yw'n talu amdano ei hun ac a yw'n rhoi budd i'w aelodau.

 

·        Cyfeiriwyd at lefel siomedig yr arbedion a wnaed hyd yma gan y Cyngor fel aelod o'r GCC a gofynnwyd a allai'r Cyngor gael ei eithrio o gontractau amrywiol.

 

Dywedodd y Pennaeth Archwilio, Risg a Chaffael, er bod yr opsiwn hwnnw ar gael, y byddai'n rhaid i Fwrdd y GCC ganiatáu hynny, ac roedd yn teimlo mai anaml y byddai hynny'n cael ei gymeradwyo. Dywedodd hefyd, er bod y Cyngor yn aelod o'r GCC, ar adegau roedd wedi penderfynu peidio â bod yn rhan o gontractau amrywiol, e.e. darparu deunydd ysgrifennu a'r Fframwaith Ymgynghoriaeth Adeiladu.

 

·        Cyfeiriwyd at yr arbedion ariannol o £25,000 yr honnir bod y Cyngor wedi'u gwneud drwy fod yn aelod o'r GCC, a mynegwyd barn y dylai'r Cyngor, wrth ystyried gwneud contractau cenedlaethol, roi ystyriaeth i'w heffaith bosibl ar yr economi leol a mentrau bach a chanolig lleol.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Archwilio, Risg a Chaffael, er bod y Cyngor yn nhrydedd flwyddyn y contract pum mlynedd, y byddai angen iddo archwilio unrhyw fuddion a geir yn y dyfodol drwy barhau i fod yn aelod. Gallai hyn gynnwys yr effaith ar yr economi leol, sef ffactor y rhoddwyd ystyriaeth iddo pan benderfynodd y Cyngor fynd ar drywydd Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol a pheidio â bod yn rhan o Gontract y GCC.

 

·        Cyfeiriwyd at yr arbedion o £74,000 a wnaed gan y Cyngor am ei fod wedi negodi ei gontract llaeth ei hun yn hytrach na defnyddio contract y GCC, a thynnwyd sylw'r Pwyllgor at y ffaith bod lefel yr arbediad a wnaed mewn perthynas â'r un contract hwnnw yn fwy na'r cyfan o'r arbedion honedig o £56,000 a wnaed drwy ei gontractau gyda'r GCC yn ystod 2014/15.

 

Dywedodd y Pennaeth Archwilio, Risg a Chaffael, er bod arbedion o £74,000 wedi'u gwneud ar y contract llaeth, cyfran y Cyngor oedd £26,000. Roedd y £48,000 sy'n weddill yn gysylltiedig â chymorth grant a byddai'n golygu gostyngiad yn yr hawliad am grant i Lywodraeth Cymru. Gan ymateb i gwestiwn ynghylch cael y llaeth, dywedodd er y byddai'n ddymunol i'r Cyngor nodi y dylid ei gael yn lleol, nad oedd hynny'n gyfreithlon. Dywedodd hefyd, o dan hen Gonsortiwm Prynu Cymru y cafodd y contract llaeth ei gaffael oddi tano, y rhoddwyd cyfleoedd i gwmnïau lleol dendro am y contract, ac na fyddai hynny wedi digwydd o dan gontract y GCC y cynhaliwyd ymarferiad tendro cenedlaethol mewn perthynas ag ef. Lle bynnag y bo'n bosibl, fodd bynnag, gofynnir i'r GCC ddyfarnu contractau ar sail “lotiau” yn hytrach na gwasanaeth Cymru gyfan, sy'n galluogi cyflenwyr lleol i dendro am gontractau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad

 

Dogfennau ategol: