Agenda item

CWESTIWN GAN MR NEIL LEWIS I'R CYNGHORYDD CEFIN CAMPBELL, AELOD O'R BWRDD - CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG:-

“Mae Strategaeth ‘Carbon Sero-net’ y Cyngor yn gam tuag at ateb yr Argyfwng Hinsawdd o bersbectif yr Awdurdod Lleol. Hoffwn ddeall erbyn hyn, beth sydd nawr yn ffurfio’r strategaeth derfynol, gan gynnwys y camau sydd yn cael ei wneud i sicrhau bod y Strategaeth yn cael ei amgyffred a’i weithredu ar draws adrannau mewnol y cyngor yn gyntaf; ac yn ail, y camau ehangach sydd wedi ei baratoi i’w gyfathrebu i bartneriaid y cyngor, busnesau lleol a dinasyddion Sir Gâr. Mae cyfathrebu, addysg a dealltwriaeth yn hanfodol i sicrhau fod y Strategaeth yn cael ei weithredu ac yn llwyddiannus.”

 

Cofnodion:

“Mae'r strategaeth 'di-garbon net' y Cyngor yn gam tuag at ateb argyfwng yr hinsawdd o safbwynt Awdurdod Lleol, hoffem ddeall y camau sy'n ffurfio'r strategaeth hon, gan gynnwys pa gamau sy'n cael eu cymryd er mwyn sicrhau bod y strategaeth yn ddealladwy ac yn cael ei gweithredu ar draws adrannau mewnol y Cyngor yn gyntaf, ac yna pa gamau pellach sydd ar y gweill i gyfathrebu â phartneriaid y Cyngor, busnesau lleol a phobl Sir Gaerfyrddin. Mae cyfathrebu, addysg a dealltwriaeth yn hanfodol i sicrhau bod y strategaeth yn cael ei gweithredu ac yn llwyddiannus.”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Cefin Campbell, sef yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

 

“Diolch yn fawr i chi Neil am eich cwestiwn. Mae'n bleser gennyf roi ymateb eithaf cyflawn i chi. Fel y gwyddoch, yr ydym wedi ymrwymo, fel Cyngor, i fod yn ddi-garbon net erbyn 2030 ac ar ôl i'r Rhybudd o Gynnig hwnnw gael ei basio'n unfrydol gan y Cyngor aethom ati i drafod â swyddogion yn y Cyngor yngl?n â'r ffordd ymlaen a chynhaliwyd cyfarfod ar y 30 Gorffennaf gyda phenaethiaid adrannau mewnol y Cyngor a bu'n gyfarfod cadarnhaol iawn. Rwy'n credu bod tua 12-15 o bobl yn cynrychioli gwahanol adrannau o'r Cyngor o gwmpas y bwrdd a'r hyn oedd yn syndod i mi oedd cymaint yr ydym eisoes yn ei wneud – mae gen i restr yma, ond ni fyddaf yn sôn am bob un ohonynt, ond mae yna ychydig o bethau oedd yn syndod mawr i mi. Er enghraifft, rydym eisoes yn buddsoddi £2m mewn 200 o gynhyrchion ynni a thrwy'r rhaglen honno byddwn yn lleihau'r allyriadau carbon o 4.1000 tunnell, felly rydym eisoes yn gwneud hynny. Rydym yn rhan o'r Cynllun Re:fit a ddarperir gan Lywodraeth Cymru er mwyn i bob t? a th? newydd yr ydym yn eu hadnewyddu, rydym yn ystyried ffyrdd o arbed ynni mewn adeiladau nad ydynt yn rhai domestig yn cynnwys ysgolion a chanolfannau hamdden a chartrefi gofal ac ati. Rydym hefyd wedi ymrwymo i gael y safon T? Ynni Goddefol. Fel y gwyddoch, mae'n edrych ar arbed ynni ym maes tai. Rydym wedi newid 20,000 o oleuadau stryd i rai LED. Rydym wedi cael gwared ar blastig untro yn y cyngor sir ac rydym hefyd yn gweithredu'n ddi-bapur yn swyddogol ers mis diwethaf ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu 26 o fannau gwefru ceir trydan ledled y sir ac ati. Felly mae hyn yn dangos ein bod eisoes yn gwneud llawer ond mae mwy i'w wneud wrth gwrs.  Felly, ddydd Iau yma, 26 Medi, byddaf yn cadeirio ail gyfarfod y penaethiaid adrannau ac mae mwy wedi ymrwymo i ddod ac mae swyddogion eisoes wedi paratoi cynllun gweithredu, fersiwn ddrafft, a byddwn yn trafod hynny ac rydym wedi gwahodd Stephen Cirell o APSE – ac i rai ohonoch nad ydych yn gwybod pwy yw APSE – nhw yw'r GymdeithasRhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cyhoeddus ac maent wedi cyhoeddi strategaeth o'r enw 'Datganiadau Argyfwng Hinsawdd Awdurdodau Lleol: ystyriaethau strategol ac ymarferol ar gyfer datganiadau, targedau a chynlluniau gweithredu o ran argyfwng hinsawdd’. Felly mae Stephen Cirell, a oedd yn un o awduron yr adroddiad hwn, yn mynd i helpu i lywioein cyfarfod – felly mae hwn yn gam pwysig ac mae ein cynllun gweithredu yn anelu wrth gwrs at fod yn ddi-garbon net. Ond wrth gwrs, yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud, ac mae'n bwysig dweud hyn, mae'n rhaid i ni ar hyn o bryd gymryd agwedd bragmatig at yr hyn y gallwn ei wneud. Mae'r dyhead gennym ond wrth gwrs mae'n rhaid i ni fod yn realistig yn y tymor byr o ran yr hyn y gallwn ei wneud ond yr hyn yr ydym yn ymrwymo i'w wneud yw gosod y sylfeini yn eu lle er mwyn adeiladu tuag at fod yn ddi-garbon net. Ac mae ail ran eich cwestiwn hefyd yn bwysig. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac awdurdodau cyhoeddus eraill yn Sir Gaerfyrddin ac yn ddiweddar maent wedi sefydlu Gr?p Cyflawni Amgylchedd Iach sy'n mynd i edrych ar newid yn yr hinsawdd ac asesiad risg amgylcheddol ar gyfer Sir Gaerfyrddin gyfan ac rydym yn mynd i fod yn rhan ganolog o hwn. Ac mae'r trydydd sector drwy CAVS wedi sefydlu rhwydwaith er mwyn lleihau carbon. Mae un elfen yn eich cwestiwn, ac rwy'n cydnabod bod angen i ni o bosibl wneud mwy yn ei gylch, sef o bosibl cysylltu â busnesau preifat a siarad â hwy. Felly byddaf yn ystyried y pwynt hwn a phan fyddwn yn trafod ein cynllun gweithredu ddydd Iau byddaf yn codi hynny er mwyn ei gynnwys hefyd fel rhan o'n strategaeth wrth i ni symud ymlaen. Felly gobeithio bod hwn yn cynnig ateb i chi i'r cwestiwn.’