Agenda item

ADEILADU MWY O DAI CYNGOR - EIN HUCHELGAIS A'N CYNLLUN GWEITHREDU

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 29 Gorffennaf, 2019 (gweler Cofnod 6), wedi ystyried adroddiad a oedd yn nodi cynllun i ddarparu dros 900 o dai Cyngor newydd dros y 10 mlynedd nesaf. Roedd yr adroddiad yn amlinellu pryd a ble y byddai'r tai newydd yn cael eu hadeiladu, yr adnoddau sydd ar gael a'r modelau darparu a fyddai'n cael eu defnyddio. Roedd yn amlinellu hefyd sut y byddai'r cynllun yn cefnogi blaenoriaethau adfywio ledled y Sir.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

 

“10.2.1 ail-gadarnhau’r egwyddorion cyflawni allweddol ar gyfer rhaglen adeiladu tai newydd y Cyngor, a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'n Cynllun Darparu Tai Fforddiadwy llwyddiannus;

10.2.2 cytuno ar yr ystod o fodelau darparu a fydd yn cael eu defnyddio i adeiladu dros 900 o dai Cyngor newydd, gan ein galluogi i gynnig amrywiaeth o ddewisiadau tai mewn gwahanol ardaloedd o'r Sir;

  10.2.3 cadarnhau y bydd y tai Cyngor newydd yn cael eu darparu drwy ddefnyddio'r ardaloedd gweithredu tai fforddiadwy sy'n rhan o'r Cynllun Darparu Tai Fforddiadwy;

  10.2.4 cytuno ar strwythur y cyfnodau blaenoriaeth a ddefnyddir i bennu pryd bydd y safleoedd adeiladu newydd yn cael eu datblygu;

  10.2.5. cadarnhau'r meini prawf a ddefnyddir ar gyfer symud datblygiadau o Gam B a Cham C i Gam A;

  10.2.6. cytuno ar y rhaglen gyflawni am y tair blynedd gyntaf ar gyfer adeiladu tai Cyngor newydd yn y Sir, gan fuddsoddi dros £53m a darparu dros 300 o dai Cyngor newydd.”

 

Dogfennau ategol: