Agenda item

GWELLA'R CYMORTH AR GYFER POBL SYDD Â DEMENTIA A'U TEULUOEDD

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad cynnydd oedd yn rhoi diweddariad ynghylch gweithredu'r argymhellion yn ymwneud â gwasanaethau ar gyfer pobl â dementia a gyflwynwyd gan y Fforwm Craffu ar y Cyd yn dilyn eu hadolygiad o wasanaethau dementia yn Sir Gaerfyrddin yn 2011/12.

 

Mae nifer o gynlluniau newydd wedi cael eu datblygu er mwyn cefnogi pobl yn eu cymunedau:-

 

Cymunedau Cefnogi Pobl â Dementia - mae hwn yn fudiad cenedlaethol a'i nod yw gwella ymateb cymdeithas i bobl a allai fod â dementia er mwyn i bobl deimlo eu bod yn fwy diogel ac yn rhan o'r gymuned.  Pontyberem oedd y gymuned swyddogol cefnogi pobl â dementia gyntaf yn Sir Gaerfyrddin ac mae'r Gymdeithas Alzheimer wedi penodi swyddog prosiect am flwyddyn i gynyddu nifer y cymunedau cefnogi pobl â dementia ar draws ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda.  Mae gan Rhydaman a Llanelli bellach grwpiau llywio Cymunedau Cefnogi Pobl â Dementia ac maent ar eu ffordd i sicrhau cydnabyddiaeth swyddogol.  Hefyd mae cymunedau eraill â diddordeb mewn bwrw ymlaen â hyn. Mae busnesau lleol wedi mynychu sesiwn ymwybyddiaeth Ffrindiau Dementia ac wedi cael eu hannog i wneud eu hadeiladau'n rhai sy'n fwy cefnogol i bobl â dementia. Dylai cymuned sy'n gallu ymateb yn gadarnhaol i bobl a allai fod â dementia fod yn lle da i bawb.

 

Annog pobl i gael cymorth – gall pobl gael yr argraff nad oes dim y gellir ei wneud i helpu rhywun sy'n dangos arwyddion o ddementia. Fodd bynnag, er nad oes gwellhad i'r cyflwr, mae ymyriadau meddygol yn bod sy'n gallu arafu datblygiad y clefyd ac mae'r cyfle i gynllunio ar gyfer y dyfodol yn gallu lleihau problemau pan fydd y cyflwr yn datblygu.  Ers peth amser gwnaed ymdrechion i lunio straeon newyddion yn ymwneud â dementia ar gyfer y wasg leol i godi ymwybyddiaeth.  Llynedd awgrymwyd defnyddio dull gwahanol er mwyn ymgysylltu â'r cyhoedd a lluniwyd nifer o stribedi cart?n gan artist lleol.  Cawsant dderbyniad cadarnhaol gan ofalwyr pobl â dementia a phenderfynwyd eu cyhoeddi yn y wasg leol.  Hefyd cafodd y cynllun sylw yn y wasg ledled Prydain.  Bellach mae'r cartwnau wedi'u cynnwys mewn poster a gobeithir y bydd hwn yn dal sylw pobl nad oes efallai ddiddordeb ganddynt yn y deunydd ysgrifenedig arferol.  Mae cynyddu cyfraddau isel o ddiagnosis dementia yn darged allweddol o ran gwella iechyd i'r Cyngor a Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

 

Clinig Cof Cymunedol a chanolfan “galw heibio” – mae'r clinigau cof wedi'u lleoli fel arfer mewn ysbytai sy'n gallu bod yn anodd mynd iddynt.  Ar ddiwedd 2013, penderfynodd y clwstwr Meddygon Teulu yn Aman Gwendraeth ariannu clinig cof cymunedol. Roedd sefydlu'r clinig yn broses gymhleth gan fod angen integreiddio gwahanol rannau o'r Gwasanaeth Iechyd.  Cynhelir y clinig ar ddau fore bob mis yn Neuadd Gymunedol Llandybïe.  Mae tri meddyg teulu sydd wedi cael hyfforddiant ychwanegol yn rhoi'r mewnbwn meddygol ar sail rota, ynghyd â nyrs y clinig cof, gweithiwr cymorth o'r Gymdeithas Alzheimer a gweithiwr cymdeithasol o'r Tîm Adnoddau Cymunedol.  Yn ogystal â chael apwyntiadau meddygol, anogir pobl i alw heibio i gael sgwrs â'r gweithwyr proffesiynol.  Mae ymateb pob un sy'n mynd yno wedi bod yn gadarnhaol. Maent yn gwerthfawrogi'r anffurfioldeb a'r gallu i barcio'n union y tu allan.  Mae'r agwedd galw heibio wedi tyfu'n raddol ac mae'n gymorth sy'n cael ei werthfawrogi.  Roedd diddordeb mewn datblygu'r model hwn mewn lleoliadau eraill a rhagwelwyd y byddai clinigau cymunedol eraill yn cael eu sefydlu yn y flwyddyn sydd i ddod.

 

Yn unol â'r nod o sicrhau bod Sir Gaerfyrddin yn sir sy'n cefnogi pobl â dementia, mae'r staff yn ymgymryd ag amrywiol raglenni hyfforddiant sy'n cynnwys sesiynau ymwybyddiaeth Ffrindiau Dementia a chynyddu sgiliau staff gofal cartref a chartrefi gofal er mwyn eu helpu nhw i ddeall sut i ymateb i bobl a allai fod â dementia.

 

Mae Cartref Cynnes, y datblygiad gofal ychwanegol newydd i bobl â dementia, wedi agor yn Nhre Ioan a bydd y datblygiad gofal ychwanegol yn Rhydaman yn agor yn y gwanwyn. 

 

Bydd yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynnal digwyddiad yn Chwefror i roi sylw i enghreifftiau cadarnhaol o waith gyda phobl â dementia, a fydd yn cynnwys datblygiadau yn Sir Gaerfyrddin.  Roedd hyn yn dangos, er bod angen gwneud llawer mwy i gefnogi pobl â dementia, fod gan Sir Gaerfyrddin enw da yn y maes hwn oedd yn cael ei gydnabod yn genedlaethol.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y Clinig Cof Cymunedol yn Llandybïe a gofynnwyd i'r swyddogion a oedd unrhyw gynnydd wedi'i wneud o ran datblygu'r model hwn mewn lleoliadau eraill. Dywedodd y Rheolwr Ardal (Aman/Gwendraeth) wrth y Pwyllgor fod lleoliadau eraill yng Nghwm Gwendraeth yn cael eu hystyried yn ychwanegol at Gydweli a Nantgaredig;

 

·       Yn ateb i gwestiwn yn gofyn a oedd pob ystafell yng Nghartref Cynnes yn cael eu defnyddio, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod 80% ohonynt yn cael eu defnyddio oedd ymhell ar y blaen i'r amserlen gosod ystafelloedd.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor mai hwn fyddai cyfarfod olaf Catherine Poulter, Rheolwr Ardal Leol (Aman/Gwendraeth) gan y byddai hi'n ymddeol cyn bo hir.  Talodd y Pwyllgor deyrnged i Catherine, gan ddiolch iddi am ei gwaith caled a'i chymorth dros y blynyddoedd a dymuno'n dda iddi i'r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD

 

8.1     derbyn yr adroddiad;

 

8.2     gwneud trefniadau i'r Pwyllgor ymweld â Chartref Cynnes.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: